Skip to content
Skip to navigation menu

English

Canolbwynt i Gaerdydd

26 Hydref 2012

A focus for CardiffYr Athro Colin Riordan

Mae pawb yn sôn am gynaliadwyedd, ond nid yw’n amlwg a yw pob un ohonom yn gwybod beth mae’n ei olygu yn ymarferol. Beth mae cynaliadwyedd yn ei olygu mewn gwirionedd i bob un ohonom ym Mhrifysgol Caerdydd, a sut mae Caerdydd yn ateb heriau creu dyfodol cynaliadwy?

A minnau’n un o aelodau mwyaf newydd cymuned y Brifysgol, ac yn rhywun sy’n meddu ar ddiddordeb ers tro yn yr amgylchedd, mae’r hyn rwyf wedi’i weld yn ystod fy ychydig fisoedd cyntaf yng Nghaerdydd wedi fy nghalonogi’n fawr.

Mae Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, sy’n dathlu ei ail ben-blwydd yn ystod Wythnos Cynaliadwyedd 2012, yn enghraifft wych o’r modd y mae ein hymchwil yn helpu i greu dyfodol cynaliadwy i gymunedau ym mhedwar ban y byd.

Mae enghreifftiau eraill o’r fath ledled y Brifysgol. Mae Sefydliad Catalysis Caerdydd, canolfan rhagoriaeth mewn cemeg werdd, yn edrych ar dechnoleg hylosgi arloesol i helpu cerbydau i fod yn fwy effeithlon ac i greu llai o lygredd. Yn rhyngwladol, mae Canolfan Faes Danau Girang yn Malaysia, lle mae Caerdydd yn bartner, yn flaenllaw ym maes gwyddor cadwraeth. Mae’n ein helpu ni i ddeall rhagor am yr anifeiliaid a’r planhigion rydyn ni’n rhannu’r blaned â nhw.

Rydyn ni hefyd yn edrych ar agweddau cymdeithasol cynaliadwyedd. Sut mae pobl yn ymgysylltu â newid hinsawdd, y ffactorau sy’n llunio ac yn effeithio ar ymddygiad y cyhoedd, rôl y cyfryngau o ran cyfathrebu materion fel cynhesu byd-eang a’r diwylliant prynu i gynulleidfaoedd. Mae’r rhain i gyd yn hanfodol wrth helpu’r rhai sy’n llunio polisïau i ddeall yr heriau, yn ogystal â’r posibiliadau o roi sylw i gynaliadwyedd a newid hinsawdd ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.

Ynghyd â’n hymchwil, mae staff a myfyrwyr ledled y Brifysgol yn gweithio’n galed i sicrhau ein bod yn cynhyrchu llai o wastraff ac yn fwy effeithlon wrth weithredu o ddydd i ddydd. Mae llawer o bethau cadarnhaol yma hefyd. Ni oedd y sefydliad addysg uwch cyntaf yng Nghymru i gyrraedd Safon yr Ymddiriedolaeth Garbon. Hefyd, dyfarnwyd un o’r prif safonau, ISO 144001, i Gaerdydd am ei arferion amgylcheddol. Mae ein myfyrwyr yn cymryd rhan yn ‘Student Switch Off, ymgyrch genedlaethol i annog gweithredu ar newid hinsawdd. Maen nhw’n mynd â’r hyn maen nhw’n ei ddysgu yn y neuaddau preswyl gyda nhw pan fyddan nhw’n symud i lety preifat ac i’w cartrefi eu hunain yn y dyfodol.

Mae’r hyn y mae Caerdydd wedi’i gyflawni hyd yma’n destun balchder, ond fel Prifysgol mae angen inni gymryd y cam nesaf. Mae angen i arferion ac egwyddorion cynaliadwy fod yn rhan annatod o’n diwylliant beunyddiol, nid dim ond yn rhywbeth y gwyddom y dylem ei wneud mae’n debyg. Mae angen i fyfyrwyr ymgysylltu ag agenda cynaliadwyedd Caerdydd o’r diwrnod cyntaf fel eu bod yn ein gadael gyda’r sgiliau a’r gallu i hyrwyddo ac arwain newid yn y dyfodol.

Mae ein hôl troed carbon yn dal yn rhy fawr. Mae angen inni leihau ein hallyriadau carbon yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd i ddod. Hefyd y mae angen inni ailfeddwl am y ffordd rydyn ni’n teithio i gyfarfodydd, digwyddiadau a chynadleddau ac yn ôl, ac edrych ar wrthbwyso carbon ar gyfer y teithiau y mae’n rhaid i ni eu gwneud ein hunain. Mae angen inni ei gwneud hi’n llawer haws i syniad da ddod yn arfer.

Mae llawer o waith i’w wneud o hyd – gan bawb ohonom. Rwyf eisiau i Gaerdydd fod yn un o’r prifysgolion gwyrddaf yn y DU, un sy’n gosod y safon ar gyfer sefydliadau a chyrff eraill. Nid yw datblygu cynaliadwy yn hawdd ac mae materion anodd i’w goresgyn, ond ni ddylem ofni meddwl ar raddfa fwy. Mae angen i Gaerdydd fod yn uchelgeisiol ac yn well wrth feithrin, cefnogi a hyrwyddo diwylliant cynaliadwy yn y blynyddoedd i ddod.

Tags