Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Cartref Newydd ar gyfer gofal iechyd

06/11/2009

Cartref Newydd ar gyfer gofal iechyd

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae myfyrwyr ar gampws Parc y Mynydd Bychan wedi elwa ar agoriad adeilad darlithfa sydd â chyfarpar da ac yn fodern. Yn agos iddo, mae’r lolfa IVLounge newydd yn cynnig amgylchedd siop goffi o ansawdd da ar gyfer yr holl fyfyrwyr. Yn awr, mae trydedd ran y drioleg yn cael ei sefydlu, sef y Ganolfan Addysg Feddygol newydd arfaethedig.

Bydd y Ganolfan yn cynnig llyfrgell newydd, labordai ar gyfer sgiliau clinigol a dynwarediad a lle ar gyfer seminarau i fyfyrwyr yr holl ysgolion gofal iechyd ar gampws y Mynydd Bychan. Bellach mae Cyngor Caerdydd wedi derbyn cais cynllunio ar gyfer yr adeilad trawiadol sydd 6,000 o fetrau sgwâr.

Mae’r Ganolfan newydd yn allwedd strategol i’r Athro Paul Morgan, Deon yr Ysgol Feddygaeth.

Dywedodd yr Athro Morgan: “Rydym ni eisiau i’r Ganolfan fod yn ‘ddrws blaen’ newydd i ni, i fod yn gartref i’r Ysgol Feddygol, gan gynnig y rhan fwyaf o wasanaethau y bydd eu hangen ar fyfyrwyr o ddydd i ddydd.”

Bydd y llyfrgell yn integreiddio llyfrgelloedd presennol Duthie a Thŷ Dewi Sant. Bydd y llyfrgell newydd, y switiau dynwarediad technoleg uchel ac ardaloedd astudio eraill ar agor ar gyfer y myfyrwyr ddydd a nos. Bydd hefyd le ar gyfer dysgu ôl-raddedigion, a fydd yn rhoi iddynt ymdeimlad o barhad yn eu hastudiaethau.

Bydd yr holl wasanaethau cefnogi myfyrwyr, a swyddfa'r Athro Paul Morgan ei hun, yn cael eu trosglwyddo o’r prif adeilad yn y Mynydd Bychan i’r adeilad newydd. Bydd y trosglwyddo’n digwydd i roi lle yn y prif adeilad ar gyfer partneriaid y Brifysgol yn y GIG.

Cartref Newydd ar gyfer gofal iechyd

Ychwanegodd yr Athro Morgan: “Mae’r Ganolfan newydd yn allweddol yn nhermau popeth rydym ni eisiau ei gyflawni o ran addysg. Bydd gan y myfyrwyr le adnabyddadwy, iddynt hwy eu hunain, lle gallant fwynhau amgylchedd dysgu o ansawdd da.”

Bydd y Ganolfan newydd yn agos i’r adeilad darlithio newydd, a chysylltir y ddau gan sgwâr agored a fydd yn cynyddu ymdeimlad y myfyrwyr o gartref adnabyddadwy. Bydd ganddo’r pethau diweddaraf o ran technoleg gwybodaeth, gan gynnwys mynediad di-wifr at wasanaethau ar-lein.

Mae’r datblygiad yn newyddion a groesewir gan yr holl ysgolion yn Y Mynydd Bychan.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Deon yr Ysgol Ddeintyddiaeth: “Rwyf wedi fy nghynhyrfu ynghylch y cyfleuster newydd rhagorol hwn oherwydd y bydd yn darparu mwy o fynediad at gyfleusterau addysgu a gwybodaeth gyfredol.”

Dywedodd yr Athro Roger Mansfield, o’r Ysgol Astudiaethau Gofal Iechyd: “Wedi’i ystyried ar y cyd â’r adeilad darlithfa newydd ac adnewyddu’r hen Glwb Meddygol fel y Lolfa IV a’r cyfleusterau presennol yn Nhŷ Dewi Sant, bydd yr adeilad newydd yn gwella cyfleusterau i fyfyrwyr yn fawr a chreu ‘ardal addysgol’ ar Safle Parc y Mynydd Bychan. Bydd adleoli’r llyfrgell a’r Ganolfan Adnoddau Dysgu hefyd yn caniatáu gwelliant o ran cyfleusterau ar gyfer myfyrwyr o’r Ysgolion Astudiaethau Gofal Iechyd ac Astudiaethau Nyrsio a Bydwreigiaeth yn Nhŷ Dewi Sant.”

Dywedodd yr Athro Sheila Hunt, Deon yr Ysgol Astudiaethau Nyrsio a Bydwreigiaeth: “Bydd nyrsys a bydwragedd yn gweithio’n agos ag ystod eang o weithwyr proffesiynol eraill ym myd gofal iechyd yn ddyddiol. Yn ogystal â dod â myfyrwyr gofal iechyd i gysylltiad anffurfiol â’i gilydd yn fwy aml, mae’r cyfleusterau hyn yn darparu adnodd addysgu a dysgu pwysig newydd y gellir archwilio cyfleoedd newydd ar gyfer dysgu rhyngbroffesiynol trwyddo ac yn rhoi sylfaen gryf y gellir adeiladu cydweithio proffesiynol arnynt yn y dyfodol.”

Cafodd yr adeilad ei ddatblygu gan yr Adran Ystadau a’r ymgynghorwyr cynllunio lleol. Ei nod yw cyrraedd y safon uchaf o ragoriaeth amgylcheddol, gan ddefnyddio awyru a goleuo naturiol a nodweddion cynaliadwy eraill. Mae’n rhan o brosiect Gorwelion Campws y Brifysgol i wella pob rhan o’r ystâd.