Dyfodol nad yw mor felys
01/10/2009
Mae plant sy’n bwyta losin a siocled bob dydd yn fwy tebygol o fod yn dreisgar mewn oedolion, yn ôl ymchwil newydd.
Astudiodd tîm Prifysgol bron i 17,500 o gyfranogwyr yn Astudiaeth Brydeinig Cohort 1970. Darganfuwyd bod unigolion 10 oed a oedd yn bwyta melysion bob dydd yn fwy tebygol o gael eu heuogfarnu am drais yn 34 oed.
Yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn rhifyn Hydref o’r British Journal of Psychiatry, yw’r cyntaf i archwilio effeithiau hirdymor diet plentyndod ar drais mewn oedolion.
Darganfu’r ymchwilwyr fod 69 y cant o’r cyfranogwyr a oedd yn dreisgar pan oeddent yn 34 oed wedi bwyta losin a siocled bron bob dydd yn ystod plentyndod, o’u cymharu â 42 % nad oeddynt yn dreisgar.
Roedd y cyswllt rhwng bwyta melysion a thrais yn parhau ar ôl rheoli ar gyfer ffactorau eraill.
Cyflwynodd ymchwilwyr nifer o esboniadau eraill am y cyswllt. Dywedodd y prif ymchwilydd, Dr Simon Moore, Ysgol Deintyddiaeth: “Yr esboniad sy’n cael blaenoriaeth gennym yw bod rhoi losin a siocled i blant yn gyson yn gallu eu hatal rhag dysgu sut i aros i gael rhywbeth maen nhw ei eisiau. Gall methu gallu gohirio boddhad eu gwthio at ymddygiad mwy byrbwyll, a gysylltir yn gryf iawn â thramgwydd.”
Daeth yr ymchwilwyr i’r casgliad: “Mae angen sylw pellach ar y cysylltiad hwn rhwng bwyta melysion a thrais. Gall targedu adnoddau at wella diet plant wella iechyd a lleihau trais.”

