Skip to content
Skip to navigation menu

English

Llais ein hoes

16 Chwefror 2009

Mae cyfansoddwraig o amlygrwydd byd-eang o Gaerdydd wedi derbyn comisiwn newydd gan Gerddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd.

Derbyniodd Dr Arlene Sierra, Darlithwraig Cyfansoddi yn yr Ysgol Gerdd, y comisiwn fel rhan o fenter newydd Contact, the New Music series of the New York Philharmonic. Bydd y gyfres yn rhoi cyfle i’r genhedlaeth ifanc o gyfansoddwyr rhyngwladol, a ddisgrifir gan Gyfansoddwr Preswyl y Gerddorfa, Magnus Lindberg, fel "lleisiau ein hoes".

Darn ar gyfer cerddorfa siambr yw’r comisiwn, maes newydd i’r gyfansoddwraig a gafodd ei geni ym Miami sydd wedi ysgrifennu ar gyfer lleisiau, grwpiau siambr a cherddorfeydd mawr yn y gorffennol. Mae strategaeth filwrol a theori gemau wedi dylanwadu ar waith diweddar Dr Sierra ac yn debygol o gyfrannu at ei darn newydd hefyd.

Dywedodd Dr Sierra: "Wedi mynychu nifer o berfformiadau’r gerddorfa fel plentyn, mae’n anrhydedd enfawr derbyn comisiwn gan Gerddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd. Dyma rywbeth roeddwn yn gobeithio a fyddai’n digwydd ryw ddydd, efallai cyn i fi gyrraedd 60 oed, ond mae’n anhygoel ei fod yn digwydd tra fy mod i yn fy nhridegau."

Bydd perfformiad cyntaf darn newydd Sierra gan Gerddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd yn digwydd yn Efrog Newydd ym mis Rhagfyr 2009. Mae Dr Sierra hefyd yn gweithio ar goncerto piano i Gerddorfa Genedlaethol BBC Cymru a fydd yn cael ei berfformio am y tro cyntaf yn 2010 yn Neuadd Hoddinott, cartref newydd y gerddorfa yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Yn 2007, derbyniodd Dr Sierra Gymrodoriaeth Charles Ives gwerth $15,000 gan Academi Celfyddydau a Llenyddiaeth America, sy’n cael ei gyflwyno’n flynyddol i gyfansoddwyr â "dawn arbennig". Yn 2001, hi oedd y fenyw gyntaf i ennill Gwobr Toru Takemitsu am Gyfansoddi i Gerddorfeydd, un o’r gwobrau rhyngwladol mwyaf ei bri am gerddoriaeth newydd i gerddorfeydd.

Your computer cannot play the audio in your browser. To fix this, you need to make sure both Javascript and Adobe Flash are available.

Get the Adobe Flash plug-in by clicking here

To find out how to enable JavaScript, check the Help option for your browser.


Cardiff University campus users

If you are on the Cardiff University campus and have problems with plug-ins or browsers, you can contact the INSRV Helpdesk on extension 74487 or visit the INSRV webpages


Dr Sierra discusses her new commission from the New York Philharmonic Orchestra

Your computer cannot play the audio in your browser. To fix this, you need to make sure both Javascript and Adobe Flash are available.

Get the Adobe Flash plug-in by clicking here

To find out how to enable JavaScript, check the Help option for your browser.


Cardiff University campus users

If you are on the Cardiff University campus and have problems with plug-ins or browsers, you can contact the INSRV Helpdesk on extension 74487 or visit the INSRV webpages


Listen to an excerpt from "Aquilo", one of Dr Sierra’s compositions, performed by the Tokyo Philharmonic and conducted by Susanna Mälkki (2001).

Related links

Tags