Skip to content
Skip to navigation menu

English

Mynediad at Archaeoleg

23 Chwefror 2011

Reconstruction of Caerleon in the Roman period, showing the newly discovered monumental suburb (© 7reasons)Ail-luniad o Gaerllion yng nghyfnod y Rhufeiniaid, yn dangos y faestref anferthol a ddarganfuwyd (© 7reasons)

Yn 2010, gwnaeth myfyrwyr ac archaeolegwyr o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ddarganfyddiad a allai newid y ffordd rydym yn ei feddwl am goncwest a gwladychiad Prydain Rufeinig.

Datgelodd arolygon geoffisegol faestref o adeiladau anferthol wedi'u gwasgu i'r ddaear rhwng amffitheatr Caerllion ac Afon Wysg.

"Ar hyn o bryd ni allwn fod yn sicr pryd yr adeiladwyd yr adeiladau hyn, nac i ba bwrpas, ond mae eu maint a'u cynllun yn awgrymu mai adeiladau cyhoeddus oeddent, a allai fod wedi cynnwys marchnadoedd, adeiladau gweinyddol, baddondai a themlau efallai. Mae'r faestref hon o adeiladau dinesig yn edrych fel pe bai'n perthyn i ganol tref neu ddinas, ond hyd yn hyn does dim tystiolaeth sy'n dangos bod poblogaeth fawr yn byw o amgylch Caerllion", meddai Dr Peter Guest, archaeolegydd Rhufeinig ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Mae'r adeilad mwyaf yn anferthol, mae'n rhaid mai dyma un o'r adeiladau mwyaf sy'n hysbys i ni o Brydain Rufeinig. Gallwn ond ddyfalu beth oedd ei bwrpas, ond ar hyn o bryd rydyn ni'n gweithio ar y syniad mai rhywbeth i wneud gyda phorth ar yr afon ydoedd. Cloddiwyd ffosydd prawf yr haf diwethaf ac mae'n bosibl eu bod yn dangos lleoliad prif gei'r gaer, ond mae pwrpas yr adeiladau eraill yn dal i fod yn ddirgelwch," ychwanegodd.

2010 hefyd oedd tymor olaf y gwaith cloddio yng Nghae'r Priordy, Caerllion, lle mae archaeolegwyr o Brifysgol Caerdydd a Choleg Prifysgol Llundain wedi bod yn ymchwilio i weddillion prif stordy neu warws y lleng. Datgelwyd miloedd o bethau yn sgil y gwaith cloddio hwn, a bydd rhai ohonynt yn rhoi cipolwg gwerthfawr i fywydau'r milwyr oedd yn byw yng Nghaerllion bron i 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Adferwyd rhannau o arfwisgoedd ac offer milwrol arall yng Nghae'r Priordy yn 2010, sy'n cael eu harchwilio yn labordai'r Brifysgol yn ogystal ag yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Bydd Dr Guest yn traddodi darlith Dydd Gŵyl Dewi arbennig am yr hyn a ganfuwyd yng Nghaerllion i staff a myfyrwyr y Brifysgol ddydd Mawrth 1 Mawrth am 12 o'r gloch yn Theatr Ddarlithio Redwood (0.21), Adeilad Redwood. Does dim angen archebu lle ymlaen llaw - gall staff a myfyrwyr alw heibio ar y dydd.

Bydd darlith am ddim yng ngwesty'r Celtic Manor Resort yng Nghasnewydd ar Idiau Mawrth (15fed) yn rhoi cyfle i'r cyhoedd glywed manylion o lygad y ffynnon am y gwaith cloddio a gweld enghreifftiau o'r hyn a ddarganfuwyd.

Yn y calendr Rhufeinig, roedd Idiau Mawrth yn ddiwrnod o ddathliadau a gorymdeithiau milwrol, er ein bod yn cofio'r diwrnod fel y diwrnod y llofruddiwyd Iwl Cesar yn 44 CC. Bydd archaeolegwyr o Brifysgol Caerdydd a Choleg Prifysgol Llundain yn defnyddio'r digwyddiad i siarad am eu canfyddiadau rhyfeddol a'r hyn mae'n ei olygu i hanes Cymru a Phrydain.

Bydd y drafodaeth yn dechrau am 7.00pm yng ngwesty'r Celtic Manor Resort (Ystafell Augusta yn Nhŷ Clwb y 'Lodge'). Mae parcio am ddim ar gael ym maes parcio'r Lodge (mynediad drwy brif fynediad y gwesty, a mynediad Cats Ash Road - dilynwch yr arwyddion am 'The Lodge').

Mae'n hanfodol trefnu lle ymlaen llaw. I drefnu lle ar gyfer y digwyddiad yng ngwesty'r Celtic Manor, anfonwch neges ebost at publicbookings@cardiff.ac.uk neu ffoniwch 02920 876935.

Dolen perthnasol

Tags