Cynghori llywodraeth leol
01/10/2009
Bydd yr Athro Martin yn arwain y panel arbenigol
Mae tri arbenigwr blaenllaw ar lywodraeth leol o’r Brifysgol wedi’u penodi i banel arbenigwyr Llywodraeth y DU ar lywodraethu lleol.
Bydd yr Athro Steve Martin, Dr Rhys Andrews a Dr James Downe o Ysgol Fusnes Caerdydd yn cynghori gweinidogion a gweision sifil uwch ar ystod o faterion gan gynnwys gwella gwasanaethau cyhoeddus lleol, gweithio mewn partneriaeth yn lleol, democratiaeth leol a chynnwys y cyhoedd.
Mae’r Athro Steve Martin, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil i Lywodraeth Leol a Rhanbarthol y Brifysgol, wedi’i benodi i arwain y panel arbenigol. Dywedodd yr Athro Martin: “Mae’r swyddogaethau anrhydeddus newydd yn adlewyrchu ansawdd ymchwil yr Ysgol ym maes llywodraethu lleol a rheolaeth gyhoeddus, a’n hymrwymiad cadarn i ymgysylltu ag uwch lunwyr polisi, a nodwyd ar gyfer canmoliaeth yn yr Ymarfer Asesu Ymchwil yn ddiweddar.
“Fel aelodau o banel arbenigwyr y Llywodraeth, bydd gennym gyfle cyffrous i wneud gwahaniaeth drwy ddarparu cyngor arbenigol a chynnig adolygiadau annibynnol i raglen ymchwil y Llywodraeth gwerth £2.5 miliwn y flwyddyn ar lywodraethu lleol a grymuso cymunedau a’i herio.”
Fel aelod arweiniol y panel, mae’r Athro Martin yn gyfrifol am reoli’r rhaglen waith gyffredinol, cynghori ar ddyluniad aseiniadau unigol wedi eu comisiynu oddi wrth aelodau eraill o’r panel, ac am sicrwydd ansawdd eu gwaith.
Bydd Dr Andrews, Cymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Ymchwil i Lywodraeth Leol a Rhanbarthol, yn darparu cyngor arbenigol ar ddadansoddi ystadegau a pherfformiad. Mae Dr Downe, Uwch Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Ymchwili Lywodraeth Leol a Rhanbarthol, wedi’i ddewis i fod ar y panel oherwydd ei arbenigedd mewn democratiaeth leol a gwella gwasanaethau.

