Ni fyddai atal noddwyr alcohol yn cael ‘fawr o effaith’ ar yfed dan oed
11/02/2010
Ni fyddai gwahardd noddwyr alcohol yn cael fawr o effaith ei hun ar batrymau yfed ieuenctid, yn ôl gwaith ymchwil Dr Fiona Davies o Ysgol Fusnes Caerdydd.
Canfu’r astudiaeth, a gyhoeddwyd gan yr International Journal of Sports Marketing & Sponsorship, nad oedd unrhyw gysylltiadau ystadegol sylweddol rhwng ymwybyddiaeth o noddi chwaraeon ac agweddau at ddefnyddio alcohol.
Er bod bechgyn â gwell ymwybyddiaeth o noddi chwaraeon ychydig yn fwy tebygol o yfed alcohol, roedd maint eu hymgysylltiad mewn chwaraeon yn ffactor cryfach o lawer nag eu hymwybyddiaeth o wybodaeth noddwyr o ran bwriad i yfed alcohol neu i feddwi.
Esbonia Dr Davies: “Ymddengys fod bechgyn sydd â diddordeb mewn chwaraeon yn dod o dan ddylanwad yfed a meddwdod gan y diwylliant chwaraeon gwrywaidd traddodiadol yn hytrach na phresenoldeb noddwyr alcohol.
“Mae noddwyr alcohol yn rhannol gyfrifol am fytholi a normaleiddio’r diwylliant hwn, ac felly mae ganddo beth dylanwad ychwanegol. Ond mae’r canfyddiadau’n dangos na fyddai ei wahardd yn cael fawr o effaith ar arferion traddodiadol dynion o yfed ar ôl chwarae chwaraeon, gwylio gemau ar y teledu gyda chwrw yn eu llaw ac yn y blaen.”
Dangosodd yr arolwg nad oedd ymgysylltiad â chwaraeon yn cael unrhyw effaith ar agweddau merched at yfed.
“Efallai mai’r rheswm am hyn yw bod y chwaraeon sydd o ddiddordeb iddynt yn llai cysylltiedig ag alcohol, neu nad ydynt am ymuno â’r diwylliant chwaraeon gwrywaidd traddodiadol, hyd yn oed os oes ganddynt ddiddordeb mewn chwaraeon sy’n fwy gwrywaidd yn draddodiadol”, meddai Dr Davies.
Bu’r astudiaeth yn ymchwilio i agweddau at alcohol, chwaraeon a noddi chwaraeon ymhlith pobl ifanc rhwng 14 a 15 oed mewn dinas nodweddiadol yn y DU. Yn dilyn trafodaethau cychwynnol y grwpiau ffocws, llenwyd arolwg holiadur gan gyfanswm o 294 o ddisgyblion o bum ysgol.
Mae’r canlyniadau’n awgrymu y byddai noddwyr alcohol ond yn cael effaith sylweddol pe bai’n rhan o ymgyrch ehangach o lawer wedi’i chynllunio i dorri’r cysylltiadau hir dymor rhwng chwaraeon ac alcohol yn niwylliant gwrywaidd Prydain.

