Skip to content
Skip to navigation menu

English

Hen, hen iachâd

01 Mehefin 2011

SARTRE arthritis WEB

Gallai’r ateb i drin arthritis poenus orwedd mewn hen hen feddyginiaeth lysieuol – thus, yn ôl ymchwil gan y Brifysgol.

Mae gwyddonwyr o Ysgol y Biowyddorau wedi bod yn archwilio buddion posibl thus er mwyn helpu lleddfu a lliniaru symptomau’r cyflwr.

"Mae chwilio am ffyrdd newydd o liniaru symptomau arthritis ac osteoarthritis llidiol yn waith hir ac anodd," yn ôl Dr Emma Blain, sy’n arwain yr ymchwil gyda’i chyd-ymchwilwyr yr Athro Vic Duance o Ysgol y Biowyddorau, a Dr Ahmed Ali o’r Compton Group.

"Mae gan dde-orllewin Lloegr a Chymru gysylltiad hir â’r gymuned Somaliaid, sydd wedi defnyddio echdyniadau thus fel meddyginiaeth lysieuol draddodiadol i drin cyflyrau arthritig. Canolbwynt ein hymchwil ni oedd a all yr echdyniadau hyn helpu i liniaru’r llid sy’n achosi’r poen ai peidio, a sut gallai wneud hynny," ychwanegodd.

Cred gwyddonwyr Caerdydd eu bod wedi gallu dangos bod triniaeth sy’n defnyddio echdyniad o Boswellia frereana – rhywogaeth brin o thus – yn llesteirio cynhyrchu moleciwlau llidiol allweddol, gan helpu i atal yr ymddatod ym meinwe cartilag sy’n achosi’r cyflwr.

SARTRE -  logo WEB

Ychwanega Dr Ali: "Mae chwilio am gyffuriau newydd i liniaru symptomau cyflyrau fel arthritis ac osteoarthritis llidiol yn faes sy’n flaenoriaeth i wyddonwyr. Yr hyn y mae ein hymchwil wedi llwyddo i’w gyflawni yw defnyddio technegau echdynnu cemegol blaengar i ddod o hyd i’r cynhwysyn actif mewn thus.

"Yn sgil gwneud hyn, rydym nawr yn gallu nodweddu’r endid cemegol ymhellach a chymharu ei lwyddiant â llwyddiant cyffuriau gwrth-lid eraill sy’n cael eu defnyddio i drin y cyflwr hwn."

Daw’r ymchwil o ganlyniad i brosiect sbarduno, wedi’i ariannu gan Gynghrair Ymchwil Drosiannol Glannau Hafren (SARTRE), trwy bortffolio datganoledig Cynllun Cyllido Llwybrau Datblygiadol yr MRC.

Mae SARTRE yn brosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bryste i gyfuno a chyflymu ymchwil drosiannol.

Dolenni cysylltiedig

 

Tags