Skip to content Skip to navigation menu
23 Mawrth 2010
Gallai cyffur a ddatblygwyd gan y Brifysgol i helpu lliniaru dioddefaint oherwydd yr eryr ddod gam yn agosach i gleifion os yw’r cam profion olaf yn cael sêl bendith.
Mae cyffur newydd (FV-100) ar gyfer yr eryr, a ddarganfuwyd gan dîm yr Athro Chris McGuigan yn Ysgol Fferylliaeth Cymru yn y Brifysgol ynghyd â grŵp firoleg o Sefydliad Rega yng Ngwlad Belg a chwmni biofferyllol o’r Unol Daleithiau, Inhibitex Inc, ar fin cwblhau Cam II ei dreialon clinigol.
Os yw’r cyffur yn cwblhau Cam II bydd yn mynd ymlaen i’r trydydd cam, sef y cam terfynol, a allai olygu bod y cyffur ar gael i gleifion ymhen llai na thair blynedd.
Dywedodd yr Athro Cemeg Meddygol yn Ysgol Fferylliaeth Cymru, Chris McGuigan, sef arweinydd y tîm a wnaeth ddarganfod y cyffur gwrthfiraol newydd: "Rydym bellach ar gychwyn cam terfynol a phwysicaf y daith o ddarganfod cyffur newydd i ddod ag ef i’r farchnad.
"Os ydym yn cwblhau’r cam hwn yn llwyddiannus, byddai’r cyffur ar gael i helpu lliniaru poen a dioddefaint miliynau o ddioddefwyr yr eryr, nid yn unig yng Nghymru ond ym mhob cwr o’r byd."
Caiff yr eryr ei achosi gan yr un haint firaol sy’n achosi brech yr ieir. Amcangyfrifir y bydd y cyflwr yn effeithio ar un o bob pump o bobl yn yr Unol Daleithiau, Ewrop a Japan yn ystod eu bywyd.
Mae’r cyflwr yn cael ei nodweddu gan niwed, pothelli a brech ar y croen ynghyd â phoen acìwt ac, mewn sawl achos, niwralgia ôl-herpetig sy’n gyflwr poenus a thrallodus iawn yn aml. Mae hwn yn deillio o ddifrod i nerfau sy’n cael ei achosi gan y firws. Dangosodd profion cychwynnol ar FV-100 bod potensial ganddo i leihau’r holl symptomau hyn yn sylweddol.
Yng Ngham I treialon FV-100, ni chafwyd adroddiadau o ddigwyddiadau andwyol difrifol ymhlith gwirfoddolwyr iach ac roedd data’n cefnogi’r posibilrwydd o roi dosys unwaith y dydd mewn treialon canlynol.
Hefyd, mae ymchwil blaenorol yn y labordy wedi dangos bod y cyffur hyd at 10,000 gwaith yn fwy nerthol yn erbyn y firws na thriniaethau presennol.
Ychwanegodd yr Athro McGuigan, a gyflwynodd briff ar bwysigrwydd datblygu cyffuriau newydd i grŵp o Aelodau’r Cynulliad yr wythnos hon: "Credwn fod y cyffur hwn yn un sydd â’r potensial i fod yr atalydd mwyaf nerthol i drin yr eryr a gafodd ei ddarganfod erioed.
"Bob blwyddyn, dim ond 15 i 20 o feddyginiaethau newydd sy’n cael eu cymeradwyo at ddefnydd clinigol ac mae’r posibilrwydd y daw FV100 yn feddyginiaeth gymeradwy yn cynyddu wrth i ni symud ymhellach drwy bob un o’r camau clinigol yn llwyddiannus.
"Mae’r gobaith y daw FV-100 ar gael yn fasnachol yn y dyfodol, a’r posibilrwydd mai dyma’r cyffur cyntaf a ddarganfuwyd ym Mhrifysgol Caerdydd i gyrraedd y farchnad, yn hynod gyffrous i ni."
First science star for Wales announced 17/06/2013
Study reveals disease-causing parasites in dead otters 17/06/2013
Lansiwyd hwb cymunedol iaith Gymraeg 17/06/2013
Vice Chancellor to co-chair strategic forum for university and business leaders 13/06/2013
This is an externally hosted beta service offered by Google.