Skip to content
Skip to navigation menu

English

Araith Milliband yn Amlygu Materion sy’n gysylltiedig ag Ymchwil Prifysgol Caerdydd

15 Mehefin 2012

Milliband Speech Raises Issues  Related to Cardiff Research WEB

Canfu’r adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Ionawr gan Ganolfan Llywodraethu Cymru, Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus (IPPR) a Sefydliad Llywodraethu (Prifysgol Caeredin), fod mwy o bobl yn blaenoriaethu eu hunaniaeth Seisnig dros eu hunaniaeth Brydeinig yn sgil datganoli. Daeth i’r casgliad hefyd fod angen i wleidyddion fynd i’r afael â’r ‘Cwestiwn Seisnig’ yn ei rinwedd ei hun waeth beth fydd yn digwydd o ran annibyniaeth i’r Alban, neu byddant mewn perygl o ddod dan y lach.

Yn ei araith, cydnabu Mr Milliband fod Llafur wedi bod yn amharod i siarad am Loegr a Seisnigrwydd dros y blynyddoedd diwethaf a’u bod wedi anwybyddu’r genedl fwyaf yn y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, honnodd hefyd ei bod yn bosibl i fod â dwy hunaniaeth genedlaethol ar wahân ac i fod yn Brydeinig o hyd.

"Rywsut, er bod rhamantiaeth mewn rhannau o’r asgell chwith am hunaniaeth Gymreig [a] hunaniaeth Albanaidd, mae hunaniaeth Seisnig wedi bod yn bwnc caeëdig yn ddiweddar. Am rhy hir, mae pobl wedi bod o’r farn bod mynegi hunaniaeth Seisnig yn gyfystyr â thanseilio’r undeb. Ar yr un pryd, rydym wedi helpu i fynegi hunaniaeth Albanaidd o fewn yr undeb. Nid yw hyn yn gwneud synnwyr. Fe allwch fod yn falch o fod yn Albanaidd ac yn Brydeinig ac fe allwch fod yn falch o fod yn Seisnig ac yn Brydeinig, fel minnau."

Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethu Cymru Prifysgol Caerdydd a chydawdur yr adroddiad: "Mae Mr Milliband yn amlwg yn canolbwyntio ar y ffaith bod pobl yn Lloegr yn fwyfwy tebygol o flaenoriaethu eu hunaniaeth Seisnig dros eu hunaniaeth Brydeinig, a dyma un agwedd amlwg a ddaeth o’n hymchwil. Canfu ein hadroddiad hefyd nad oes gan bleidleiswyr yn Lloegr fawr o ffydd o ran gallu pleidiau gwleidyddol i sefyll dros fuddiannau Lloegr ar ôl datganoli ac mae araith Mr Milliband yn cydnabod bod hyn yn rhywbeth y mae angen i Lafur fynd i’r afael ag ef."

Bu Dan Wincott, Athro yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd yn gydawdur ar yr adroddiad hefyd ac ychwanegodd, "Canfuom dystiolaeth gref i awgrymu bod hunaniaeth Seisnig yn fater mwyfwy gwleidyddol erbyn hyn ac mae araith Mr Milliband yn adlewyrchu’r newid hwn. Fodd bynnag, mae’n bosibl bod bwlch wedi agor rhwng agweddau cyhoeddus yn Lloegr a barn arweinwyr gwleidyddol. Canfuom fod 59% o’r etholaeth yn Lloegr wedi dweud nad oeddent yn ymddiried yn llywodraeth y DU i weithio er buddiannau gorau hir dymor Lloegr. Ac wfftiodd Mr Milliband y syniad o senedd i Loegr – a ddaeth i’r amlwg fel y dewis mwyaf poblogaidd ar gyfer llywodraeth Lloegr yn ein hymchwil."

Dolenni cysylltiedig:

Canolfan Llywodraethu Cymru