Skip to content Skip to navigation menu
28 Hydref 2010
Yr Ysgol Addysg Feddygol a Deintyddol Ôl-raddedig yn gwobrwyo rhagoriaeth feddygol
Cafodd dau feddyg o Gymru ei hanrhydeddu gan Ysgol Addysg Feddygol a Deintyddol Ôl-raddedig y Brifysgol am eu rhagoriaeth yn addysgu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr iechyd proffesiynol ar draws Cymru.
Anrhydeddwyd Dr Liam McKnight, Radiolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Treforys, Abertawe, a Dr John Rees, meddyg teulu ym Meddygfa Llanfair, Llanymddyfri, yng ngwobrau BEST 2010.
Mae gwobrau BEST, sydd bellach yn eu hail flwyddyn, yn rhan o’r rhaglen ‘Goruchwylio'r Llwybr i Ragoriaeth’ sydd â’r nod o sicrhau rhagoriaeth mewn hyfforddiant meddygol trwy ddatblygu a chynorthwyo goruchwylwyr addysgol a chlinigol o ansawdd uchel ledled Cymru.
Roedd pob meddyg a deintydd dan hyfforddiant yng Nghymru yn gallu enwebu ymgynghorydd, meddyg teulu neu ddeintydd a oedd, yn eu barn nhw, yn perfformio’n eithriadol.
Dywedodd Dr John Rees: "Rwyf wrth fy modd yn ennill y wobr BEST hon sy’n cydnabod pwysigrwydd monitro meddygon iau. Rwy’n credu’n gryf y dylai addysgwyr meddygol yng Nghymru ddarparu peth o'r addysgu a hyfforddiant ôl-raddedig gorau yn y DG i feddygon dan hyfforddiant.
"Heb os, cael f’enwebu gan fy hyfforddai a chael fy newis gan fy nghyd-feddygon ar gyfer y wobr hon yw uchafbwynt fy ngyrfa fel addysgwr a fy nghyfranogiad i addysg feddygol."
Derbyniodd Dr McKnight a Dr Rees Fwrsariaeth Addysg gwerth £5,000 yr un.
Hefyd, anrhydeddwyd Dr Roger Ramsay, Dr Huw Mason, Dr Paul Das, Dr Lauren Kraaijeveld, Dr David Thomas a Dr Eamon Eales am eu cyfraniad i oruchwyliaeth addysgol.
Dywedodd yr Athro Derek Gallen, y Deon ôl-raddedig: "Mae goruchwylwyr a hyfforddwyr addysgol meddygol Cymru yn chwarae rhan hollbwysig wrth ddarparu hyfforddiant o safon uchel i’n meddygon sy’n cychwyn ar eu gyrfa ac yn denu mwy o hyfforddeion i weithio a byw yng Nghymru.
"Mae’r wobr hon yn cydnabod y rhan bwysig a dylanwadol sydd ganddyn nhw."
Mae’r Ysgol Addysg Feddygol a Deintyddol Ôl-raddedig yn gyfrifol am gomisiynu, goruchwylio a monitro’r ddarpariaeth o addysg a hyfforddiant ar gyfer tua 2,600 o feddygon a deintyddion dan hyfforddiant mewn swyddi ôl-raddedig yn y GIG ar draws Cymru.
Yr Ysgol Addysg Feddygol a Deintyddol Ôl-raddedig
First science star for Wales announced 17/06/2013
Study reveals disease-causing parasites in dead otters 17/06/2013
Lansiwyd hwb cymunedol iaith Gymraeg 17/06/2013
Vice Chancellor to co-chair strategic forum for university and business leaders 13/06/2013
This is an externally hosted beta service offered by Google.