Skip to content
Skip to navigation menu

English

Hwb i sgiliau iaith yng Nghymru

28 Mawrth 2012

Boost for Welsh langauge skills WebRhai o raddedigion y Diploma mewn Cyfieithu ar y Pryd i Wasanaethau Cyhoeddus gyda’r Prif Arolygydd Tony Wilcox (yn y rhes gefn) ac Elsa Cowie (ar y dde yn y rhes gefn).

Mae sgiliau iaith yng Nghymru wedi cael hwb wrth i’r grŵp cyntaf o fyfyrwyr ennill eu Diploma mewn Cyfieithu ar y Pryd i Wasanaethau Cyhoeddus yng Nghaerdydd.

Y Ganolfan ar gyfer Addysg Gydol Oes oedd y ganolfan arholi gyntaf yng Nghymru i gynnig y Diploma y llynedd. Erbyn hyn, mae tua 100 o fyfyrwyr wedi cwblhau cyrsiau’r flwyddyn gyntaf ac wedi derbyn eu Diplomâu yn seremoni wobrwyo flynyddol y Ganolfan. Mae’r rhaglen wedi’i chanmol yn fawr gan y myfyrwyr yn ogystal â gweithwyr proffesiynol y diwydiant sydd wedi sylwi ar sut mae eisoes wedi cael effaith gadarnhaol.

Meddai’r Prif Arolygydd Tony Wilcox, Rheolwr Gweithredol Gwasanaeth Cyfieithu ar y Pryd a Chyfieithu Cymru (WITS) oedd yn westai arbennig yn y seremoni wobrwyo: "Rhwng 2005 a 2009, prin fu’r newid yn nifer y cyfieithwyr ar y pryd cymwysedig oedd yn byw yng Nghymru oedd wedi cael eu cymeradwyo gan wiriadau diogelwch ac yn cael gweithio i’r heddlu. Ym mis Tachwedd 2009, roedd 22 cyfieithydd cymwysedig o’r fath yng Nghymru oedd yn gallu cynnig gwasanaeth mewn 15 iaith rhyngddynt. Erbyn hyn, mae 41 o gyfieithwyr ar y pryd cymwysedig sy’n byw yng Nghymru sydd wedi cael eu cymeradwyo gan wiriadau diogelwch ac yn cael gweithio i’r heddlu. Mae’r rhain yn gallu cynnig gwasanaeth mewn 20 iaith rhyngddynt. Does dim amheuaeth mai’r cyrsiau a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n gyfrifol am y cynnydd diweddaraf."

Meddai Elsa Cowie, Arweinydd Academaidd y Ganolfan ar gyfer Cyfieithu ar y Pryd i Wasanaethau Cyhoeddus: "Roedd galw mawr am y Diploma hwn gan ei fod yn gymhwyster cenedlaethol y mae cyrff cyhoeddus am weld eu cyfieithwyr ar y pryd yn ei hennill cyn rhoi gwaith iddynt. Yng Nghymru, dim ond 26 o bobl sydd ar Gofrestr Genedlaethol y Cyfieithwyr ar y Pryd i Wasanaethau Cyhoeddus (NRPSI) ar hyn o bryd. Y Diploma hwn yw’r prif ofyniad ar gyfer ymuno â’r gofrestr, felly mae’r galw yno."

Yn ogystal â myfyrwyr y Diploma, cafodd dros hanner cant o fyfyrwyr eu gwobrwyo gan y Ganolfan Dysgu Gydol Oes yn y seremoni mewn amrywiaeth o bynciau gan gynnwys: Y Dyniaethau, Astudiaethau Cyfrifiadurol, Gwyddoniaeth a’r Amgylchedd, Astudiaethau Busnes, Gwasanaethau Cymdeithasol ac ieithoedd. Dyma oedd barn Louise Ackland a dderbyniodd Dystysgrif Sylfaen mewn Astudiaethau Cymdeithasol yn y ganolfan: "Roedd y noswaith yn gyfle gwych i ddathlu fy nghyflawniad gyda fy nheulu, fy nghyd-fyfyrwyr a thiwtoriaid. Astudio yn y ganolfan yw un o’r pethau gorau rwyf erioed wedi’i wneud. Mae’r tiwtoriaid a staff y ganolfan mor gefnogol, mae mynd i addysg uwch fel myfyriwr ‘aeddfed’ wedi bod ychydig yn llai dychrynllyd na’r disgwyl. Byddwn yn argymell i bawb astudio yn y ganolfan, hyd yn oed os yw hynny er mwyn y profiad yn unig."

Dolen gysylltiedig:

Canolfan Caerdydd ar gyfer Addysg Gydol Oes