Skip to content
Skip to navigation menu

English

Rhoi hwb i wasanaethau iechyd Malta

13 Awst 2010

(Rhes flaen o’r chwith i’r dde)  Yr Athro Patricia Price yn llofnodi’r cytundeb gyda Dr Kenneth Grech, Ysgrifennydd Parhaol, y Gweinidog dros Iechyd, yr Henoed a Gofal Cymunedol a’r Athro Juanito Camilleri, Rheithor, Prifysgol Malta. (Rhes gefn o’r dde i’r chwith) Dr. Peter Micallef, Cynorthwy-ydd Seneddol, y Gweindog dros Iechyd, yr Henoed a Gofal Cymunedol, Anrhydedd, Dr Joseph Cassar, y Gweinidog dros Iechyd, yr Henoed a Gofal Cymunedol a Ms. Louise Stanton, Uchel Gomisiynydd Prydain i Malta.(Rhes flaen o’r chwith i’r dde) Yr Athro Patricia Price yn llofnodi’r cytundeb gyda Dr Kenneth Grech, Ysgrifennydd Parhaol, y Gweinidog dros Iechyd, yr Henoed a Gofal Cymunedol a’r Athro Juanito Camilleri, Rheithor, Prifysgol Malta. (Rhes gefn o’r dde i’r chwith) Dr. Peter Micallef, Cynorthwy-ydd Seneddol, y Gweindog dros Iechyd, yr Henoed a Gofal Cymunedol, Anrhydedd, Dr Joseph Cassar, y Gweinidog dros Iechyd, yr Henoed a Gofal Cymunedol a Ms. Louise Stanton, Uchel Gomisiynydd Prydain i Malta.

Mae’r Ysgol Astudiaethau Gofal Iechyd newydd lofnodi cytundeb ym Malta a fydd yn helpu i ehangu gwasanaethau canser ar yr ynys.

Aeth Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Patricia Price, â chynrychiolwyr o’r Adran Radiograffeg, i brifddinas Malta, sef Valetta, i lofnodi’r cytundeb gyda’r Adran Iechyd ym Malta a Phrifysgol Malta. Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn dechrau cyd-weithio ffurfiol rhwng y ddwy brifysgol o ran addysgu a hyfforddi deuddeg o radiograffwyr diagnostig a therapiwtig ar gwrs israddedig pedair blynedd.

Cynhaliwyd y seremoni lofnodi yn y Weinyddiaeth Iechyd ym mhalas hanesyddol Castellania Valetta, a fu’n Llysoedd Cyfiawnder Marchogion Malta gynt. Cafodd y digwyddiad proffil uchel, ym mhresenoldeb Dr Joe Cassar, sef y Gweinidog dros Iechyd, yr Henoed a Gofal Cymdeithasol, a Louise Stanton, Uwch-gomisiynydd Prydain i Malta, sylw helaeth yn y wasg ac ar deledu Malta.

Caiff y radd anrhydedd bedair blynedd newydd ei dyfarnu gan Brifysgol Malta, gyda chymorth arbenigol ar gyfer y rhaglen radiotherapi gyfan yn cael ei roi gan ddarlithwyr o Brifysgol Caerdydd. Caiff yr holl ddarlithoedd academaidd eu cynnal ym Malta ynghyd â rhywfaint o ddarpariaeth glinigol. Yn y drydedd flwyddyn bydd myfyrwyr o Malta’n gweithio ochr yn ochr â’u cymheiriad o Gymru, gan dreulio chwe mis o leoliad clinigol dwys ar draws y tair adran radiotherapi yng Nghymru yn Ysbyty Felindre, Caerdydd, Ysbyty Singleton, Abertawe ac Ysbyty Glan Clwyd, Y Rhyl.

Dywedodd yr Athro Price: "Mae hwn yn ddatblygiad hynod arwyddocaol i Malta, yr oedd lefel y sylw a roddwyd yn y wasg wedi adlewyrchu hyn. Mae’r cytundeb hwn yn rhan o ehangu mawr o ran gwasanaethau canser arfaethedig ym Malta, a fydd yn arwain yn y pen draw at agor canolfan oncoleg newydd yn Ysbyty Mater Dei, Valetta yn 2013. Mae’n bleser gan yr Ysgol Astudiaethau Gofal Iechyd chwarae ein rhan yn y datblygiad hwn’.

Mae gan yr Ysgol Astudiaethau Gofal Iechyd gysylltiadau eisoes â Phrifysgol Malta, drwy gynllun Erasmus, gyda’i Hadran Therapi Galwedigaethol, Cyfadran y Gwyddorau Iechyd.

Tags

Newyddion Diweddaraf Rhyngwladol