Skip to content
Skip to navigation menu

English

Perthynas yr ymennydd ag ymddygiad

21 Awst 2010

Yr Athro John Pearce FRSYr Athro John Pearce FRS

Sut wyddoch chi lle mae’ch allweddi? Pam ydym ni’n datblygu arferion a beth sy’n dylanwadu ar ein barn?

Ledled y Brifysgol, mae seicolegwyr, genetegwyr ymddygiadol a niwrolegwyr yn cydweithio i ddeall y mecanweithiau sylfaenol o ddysg a chof. Mae gan eu gwaith arwyddocâd o ran deall sut mae’r ymennydd yn gweithio a newid, yn ogystal â thaflu goleuni hollbwysig ar gyflyrau niwrolegol megis clefyd Alzheimer a sgitsoffrenia.

Un o’r rhai sydd ar flaen y gad yn hyn o beth yw’r Athro John Pearce FRS o’r Ysgol Seicoleg. Mae’r Athro Pierce yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei gyfraniad at astudio dysgu a chyflyru cysylltiadol mewn anifeiliaid, ac ar hyn o bryd mae’n defnyddio techneg newydd arloesol i ddarganfod lle bydd anifeiliaid yn cyfeirio’u sylw wrth ddysgu am newidiadau yn eu hamgylchedd. Mae llawer o’i ymchwil presennol yn canolbwyntio ar golomennod rasio; mae eu gweledigaeth anhygoel yn eu gwneud yn ddelfrydol ar gyfer astudio newid sylw yn ystod tasgau dysgu cymhleth.

"Mae’r term Saesneg 'bird brained' , sef bod yn benchwiban, yn gamarweiniol. Bydd colomennod – mewn rhai pethau o leiaf – yn dangos cryn ddeallusrwydd," meddai’r Athro Pearce. "Er enghraifft, maen nhw’n gallu cofio cannoedd o ffotograffau gwahanol, ac yn gallu ffurfio’r hyn sy’n berthynol i gysyniadau. Mae’r arbrofion yn ein siambrau profion yn dangos, nid yn annisgwyl, fod colomennod yn ymateb i ysgogiadau sy’n dynodi digwyddiadau pwysig megis darpariaeth bwyd neu ddŵr, ond maen nhw hefyd yn talu sylw pan na allan nhw benderfynu beth mae ysgogiad yn ei ddynodi."

Prif bwrpas ymchwil yr Athro Pearce yw darganfod set gyffredinol o egwyddorion sy’n dynodi lle bydd anifail yn cyfeirio’i sylw. Unwaith y bydd yr egwyddorion hyn yn amlwg, mae’n bwriadu darganfod y mecanweithiau niwral sy’n gyfrifol am newid sylw.

Mewn astudiaeth ar wahân, mae academyddion yng Nghaerdydd yn ymchwilio i sut mae pobl yn cofio gwybodaeth. Beth pe baech, bob tro y byddech yn ceisio cofio lle mae’ch allweddi, yn cofio pob lle rydych chi wedi gadael eich allweddi erioed?

Er mwyn cofio rhywbeth, mae angen i bobl alw i gof yr wybodaeth berthnasol, ond yr un mor bwysig yw osgoi galw gwybodaeth amherthnasol i gof.

Trwy ddefnyddio cyfuniad o dechnegau delweddu’r ymennydd i ddilyn trywydd newidiadau mewn gweithgaredd niwral mewn amser real, mae Dr Ed Wilding o’r Ysgol Seicoleg wedi archwilio i sut mae cofio llwyddiannus yn ymwneud a galw i gof rai mathau o wybodaeth ac atal eraill.

"Rydym wedi dangos fod pobl yn atal gwybodaeth amherthnasol yn awtomatig wrth geisio cofio, ac mae pa mor dda y gallwch atal gwybodaeth amherthnasol yn rhagfynegi pa mor dda yw’ch cof," medai Dr Wilding. "Erbyn hyn mae gennym syniad cliriach o swyddogaethau ataliad yn y broses o adalw cof. Mae hyn yn bwysig o ran deall pam mae galluoedd cof yn gallu dirywio wrth heneiddio, oherwydd mae ein gallu i atal gwybodaeth hefyd yn dirywio wrth i ni fynd yn hŷn."

Mae hwn yn ddetholiad o gylchgrawn chwarterol Cyngor Ymchwil y Gwasanaethau Biotechnoleg a Biolegol ac fe’i hatgynhyrchir â chaniatâd y Cyngor. Mae modd darllen yr erthygl lawn yn: http://www.bbsrc.ac.uk/publications/business/2010/summer/research-at-cardiff-university.aspx

Tags