Skip to content
Skip to navigation menu

English

Darganfyddiadau newydd ynglŷn â cheulo’r gwaed

16 Medi 2011

blood web

Cyfarfu arweinwyr y byd o ran pob agwedd ar anhwylderau ceulo a gwaedu i drafod y datblygiadau diweddaraf yn y maes mewn cynhadledd ddiweddar yn y Brifysgol.

Cynhaliodd Caerdydd trydyddCyfarfod ar ddeg Grŵp Platennau’r DU yn Neuadd y Brifysgol, a ddenodd mwy na 165 o gynrychiolwyr o ledled Ewrop a’r UDA.

Gus Born web welshYr Athro Gus Born yn annerch y gynhadledd.

Cafodd trafodaethau ymchwil blaengar eu cyflwyno mewn awyrgylch ysgogol ac anffurfiol. Gwnaethpwyd cyflwyniadau i’r grŵp cyfan gan arweinwyr rhyngwladol gan gynnwys Sidney Whiteheart (Lexington, Kentucky), Thomas Renne (Sefydliad Karolinska, Stockholm), Gus Born (Sefydliad Ymchwil William Harvey, Llundain), a Peter Collins (Caerdydd).

Cafwyd cyhoeddiad yn y gynhadledd am arloesiad newydd a allai helpu i atal y clotiau gwaed niweidiol sy’n gysylltiedig â chlefyd y galon a strôc, achos unigol mwyaf marwolaethau sy’n gysylltiedig â chlefydau ledled y byd. Mae tîm o Nottingham ac Atlanta wedi pennu strwythur protein pwysig sydd ar goll mewn cleifion sy’n dioddef o’r anhwylder gwaedu a etifeddir, sef Syndrom Bernard Soulier. Mae’n nodi cam mawr ymlaen ar y ffordd i ddeall anhwylderau gwaedu a datblygu triniaethau i fynd i’r afael â’r clefyd thrombotig. Cafodd yr astudiaethau, a gynhaliwyd yn labordy’r Athro Jonas Emsley yn Nottingham, eu hariannu gan Sefydliad Prydeinig y Galon, ar y cyd â Sefydliadau Iechyd Cenedlaethol, UDA a chânt eu cyhoeddi yr wythnos hon yn y cyfnodolyn mawreddog BLOOD.

Dywedodd y trefnydd, Yr Athro Valerie O’Donnell o’r Ysgol Feddygaeth: "Roeddem wrth ein bodd gyda lefel ddigynsail y diddordeb yn ein cyfarfod. Mae’n adlewyrchu’r diddordeb cynyddol mewn pwysigrwydd platennau ym mhob agwedd ar glefydau , thrombosis a llid fasgwlaidd."

 

Tags