Skip to content
Skip to navigation menu

English

Pontio’r bwlch

06 Mai 2010

Ffotograff wedi’i gymryd gan Ajiran OsmanFfotograff wedi’i gymryd gan Ajiran Osman

Mae prosiect ar y cyd sy’n cynnwys ymchwilwyr o Ganolfan Maes Danau Girang y Brifysgol yn Malaysia yn cynnig gobaith newydd o ran cadwraeth orang-wtangod ynysig yn Borneo.

Mae ffotograffydd wedi cael tystiolaeth yn ddiweddar o lwyddiant prosiect codi pontydd rhaff i ailgysylltu poblogaethau ynysig o orang-wtangod.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, oherwydd torri coed a datgoedwigo, mae orang-wtangod ar Afon Kinabatangan wedi cael eu rhannu’n boblogaethau tameidiog yma a thraw. Roedd yr anifeiliaid yn arfer croesi afonydd bach drwy ddefnyddio canopïau hen goedwigoedd ond, ers i’r coed gael eu torri i lawr, roedd angen strwythurau artiffisial.

Cafodd chwe phont raff eu hadeiladu’n rhan o brosiect sy’n cael ei redeg gan Brosiect Cadwraeth Orang-wtang Kinabatangan (Kinabatangan Orang-utan Conservation Project KOCP) ac Adran Bywyd Gwyllt Sabah.

Mae tystion lleol wedi dweud iddynt weld orang-wtangod yn defnyddio’r pontydd rhaff ond y ffotograffau a dynnwyd gan Ajiran Osman, sy’n dangos gwryw ifanc yn croesi un o lednentydd bach Kinabatangan, yw’r dystiolaeth galed gyntaf fod y pontydd yn gwneud gwahaniaeth.

Ffotograff wedi’i gymryd gan Ajiran OsmanFfotograff wedi’i gymryd gan Ajiran Osman

Meddai Dr Benoît Goossens, Ysgol y Biowyddorau a Chyfarwyddwr Canolfan Maes Danau Girang: "Mae’r Brifysgol, Danau Girang, KOCP ac Adran Bywyd Gwyllt Sabah wedi gwneud astudiaethau genetig. Mae’r data o’r rhain yn amcangyfrif y bydd poblogaethau orang-wtangod yn ardaloedd isaf afon Kinabatangan yn mynd yn ddiflanedig yn ystod ein hoes ni os na chân nhw eu hailgysylltu drwy gynlluniau fel y pontydd rhaff.

"Bydd pontydd tebyg yn cael eu codi ar lednentydd gerllaw’r ganolfan maes. Caiff y prosiect ei gefnogi gan Ymddiriedolaeth Cadwraeth Borneo o Japan a bydd ein staff a’n myfyrwyr ni yn ei fonitro."

Cyfleuster ymchwil a hyfforddiant ar y cyd yw Canolfan Maes Danau Girang sy’n cael ei reoli gan Brifysgol Caerdydd ac Adran Bywyd Gwyllt Sabah.

Mae’r ganolfan yng Ngwarchodfa Bywyd Gwyllt Kinabatangan Isaf yn Sabah, Malaysia. Mae hi ynghanol cymysgedd o fathau o goedwigoedd dipterocarp yr iseldir, sy’n amrywio o goedwig wreiddiol i goedwig eilaidd yr ymyrrwyd â hi, mewn tirwedd matrics gydag effaith ddynol sylweddol gan gynnwys pentrefi, amaethyddiaeth ar raddfa fach a phlanhigfeydd olew palmwydd.

Tags