Skip to content
Skip to navigation menu

English

Caerdydd yn fuddugol yng Ngêm y Prifysgolion

03 Mai 2012

Varsity triumph 1 - web

Mae myfyrwyr Caerdydd wedi curo eu gwrthwynebwyr, Abertawe, yng nghystadleuaeth Prifysgolion Cymru, trwy ennill Tarian y Prifysgolion ac adennill Cwpan y Prifysgolion ar gyfer y Brifysgol.

Mewn arddangosfa wych o chwarae, curodd myfyrwyr Caerdydd eu gwrthwynebwyr, Abertawe, ar draws mwy na 20 o chwaraeon gwahanol, gan gynnwys pêl fasged, sboncen a phêl droed, i ennill Tarian y Prifysgolion.

Ar ddiwedd y dydd (2 Mai), aeth tîm rygbi’r Brifysgol ar gae Stadiwm y Mileniwm i frwydro am Gwpan y Prifysgolion, gyda Jake Cooper-Woolley yn gapten.

Fe’i darlledwyd yn fyw ar S4C, ac roedd y gêm gyflym yn arddangos y gorau o ran dawn rygbi Caerdydd ac Abertawe. Aeth Abertawe ar y blaen yn gynnar gyda dwy gic gosb, ond erbyn hanner amser, roedd Caerdydd wedi cymryd rheolaeth o’r gêm, ac roeddent ar y blaen o 15 pwynt i 6.

Varsity triumph 2 - web

Yn yr ail hanner, aeth Caerdydd ymhellach ar y blaen, gan arwain at fuddugoliaeth gynhwysfawr a sgôr terfynol o 33-13.

Roedd mwy na 2,500 o wylwyr yn bresennol mewn digwyddiadau trwy gydol y dydd yn Athrofa Chwaraeon Cymru i gefnogi eu tîm, ac roedd torf o 16,000 yn Stadiwm y Mileniwm i wylio’r gêm rygbi.

Sgwad rygbi Caerdydd: Bradley Thayer; Ross Grimstone; Jake Cooper Wolley (Capten); Nic Huntley; Craig Lodge; Jordan Wood; Arthur Ellis; James Thomas; Johnny Macdonald; Cameron Pimlow (Is-gapten); Rhys Howells; Ross Wardle; Elliot Jones; Will Jones; Charlie Simpson; Geoff Lewin; Jamie Pincott; Llewellyn Jones; Lee Bray; Rhys Luckwell; Alex Devearux; Matt Purcell; Max Woodward; Steffan Morgan; Joe Casella

Dolenni cysylltiedig

Cystadlaethau Prifysgolion Cymru

Chwaraeon Prifysgol Caerdydd

Clwb Rygbi Prifysgol Caerdydd