Hwb i Gaerdydd gan Cancer Research UK
10/09/2009
Heddiw mae Caerdydd yn ymuno â chadwyn o Ganolfannau Cancer Research UK a fydd yn tynnu at ei gilydd ymchwil ac arbenigedd meddygol mwyaf blaenllaw’r byd i ddarparu’r canlyniadau gorau posibl i gleifion canser.
Fel un o’r canolfannau cyntaf i gael eu lansio, bydd Canolfan Cancer Research UK Caerdydd yn helpu i osod y cyflymdra ar gyfer cynnydd cenedlaethol a rhyngwladol mewn geneteg a biofarcwyr canser.
Bwriad ymchwilwyr y Brifysgol a phartneriaid yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre, Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro, Prifysgol Caerdydd a Cancer Research UK yw gwneud y Ganolfan yn arweinydd y byd o ran datblygu triniaethau wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer cleifion canser unigol. Mae’r dull wedi’i seilio ar ddealltwriaeth o fioleg y clefyd a’r ffordd y mae’n amrywio ymhlith cleifion.
Bydd y Ganolfan yn canolbwyntio ar fioleg a thriniaeth canser y coluddyn, canser y fron, canserau wrolegol a lewcemia, a bydd yn gweithio ar sut i sicrhau bod canser yn cael ei ganfod yn gynharach.
Gan weithio gyda Swyddfa Cymru ar gyfer Ymchwil a Datblygu Iechyd a Gofal Cymdeithasol, bydd ymchwilwyr yn y Ganolfan yn canolbwyntio ar ddealltwriaeth well ynglŷn â sut i atal canser hefyd. Bydd yn defnyddio arbenigedd gwyddonwyr sylfaenol, gwyddonwyr trosiadol, clinigwyr a nyrsys ymchwil.
Mae Cancer Research UK yn cefnogi ymchwil yng Nghaerdydd yn barod ond mae’n edrych ar gynyddu ei gyfraniad trwy wario £2 filiwn ychwanegol dros dair blynedd – sef hwb enfawr i sicrhau bod Caerdydd yn parhau i arwain y ffordd mewn ymchwil canser yng Nghymru.
Dywedodd yr Is-ganghellor, Dr David Grant: “Mae rhoi statws Canolfan Cancer Research UK yn brawf o gadernid arbenigedd canser ym Mhrifysgol Caerdydd ac ymhlith ein partneriaid yn y GIG. Mae’r Ganolfan yn addo bod yn dîm effeithiol ar gyfer gwella ein dealltwriaeth o ganserau gwahanol, gwella triniaethau a gwella canfod y clefydau hyn, a hefyd hyfforddi’r cenedlaethau nesaf o ymchwilwyr canser o ansawdd uchel.”
Dywedodd yr Athro Alan Clarke, sy’n Athro mewn Geneteg yn yr Ysgol Biowyddorau a chyfarwyddwr Canolfan Cancer Research UK Caerdydd: “Rydym wedi gwneud llawer o waith ar ddeall sut mae canserau, megis canserau’r coluddyn, yn datblygu, ac rydym yn dechrau deall y geneteg sydd y tu ôl i’r clefyd. Bydd y Ganolfan hon yn ei gwneud hy’n haws i gydweithio gyda meddygon sy’n trin cleifion canser, i gyflymu’r broses o drosi ein hymchwil genetig i welliannau mewn diagnosis a thriniaeth ar gyfer y clefyd hwn.”
Dywedodd yr Athro Tim Maughan, dirprwy gyfarwyddwr Canolfan Cancer Research UK Caerdydd a Chadeirydd Astudiaethau Canser yn yr Ysgol Feddygaeth: “Rydym yn cynnal arbrawf clinigol i ddarganfod a allwn ni ddewis y driniaeth orau ar gyfer pob claf unigol sydd â chanser y coluddyn sydd wedi lledu i rannau eraill o’r corff. Bydd defnyddio arbenigedd mathau eraill o wyddonwyr yn y Ganolfan yn sicrhau bod y profion a ddefnyddir o’r ansawdd uchaf er mwyn adnabod pa glaf a fydd yn cael pa driniaeth fel y bydd canlyniadau ein harbrawf yn cael eu defnyddio’n eang ac yn effeithiol. Mae dod yn Ganolfan Cancer Research UK yn garreg filltir bwysig wrth gyflawni ein gweledigaeth o guro canser.”
Cafodd Dr Montserrat Lunati o Gyncoed, sy’n ddarlithydd uwch mewn Astudiaethau Sbaenaidd yn yr Ysgol Astudiaethau Ewropeaidd, ddiagnosis o ganser y coluddyn yn 2008. Cafodd y cyfle i gymryd rhan yn arbrawf clinigol Dr Maughan. Roedd yr arbrawf – a elwir yn Quasar 2 – yn profi a fyddai ychwanegu cyffur o’r enw Avastin at gemotherapi yn gwneud y driniaeth yn fwy effeithiol.
Dywedodd Dr Lunati: “Roedd y chwe mis o gemotherapi’n anodd iawn, ond rwyf wedi bod yn teimlo’n well yn ddiweddar. Teimlaf yn ffodus iawn fy mod wedi cymryd rhan yn yr arbrawf hwn, ac roedd lefel y gofal a’r monitro a gefais gan yr Athro Maughan, fy nyrs ymchwil a’r holl staff yng Nghaerdydd o’r safon uchaf. Rwy’n falch fy mod wedi cael y cyfle i gyfrannu i’r ymchwil newydd a all wella’r driniaeth i gymaint o gleifion fel fi.”
Dywedodd Harpal Kumar, prif weithredwr Cancer Research UK: “Mae ariannu’r canolfannau rhagoriaeth hyn yn un o flaenoriaethau’r elusen a bydd yn ein galluogi ni i weithio tuag at nodau a osodwyd gennym i wella triniaeth ar gyfer cleifion canser a’u goroesiad. Rydym yn gallu lansio’r Ganolfan newydd hon diolch i gyfraniadau gan ein cefnogwyr yng Nghymru ond mae angen eu cefnogaeth barhaus os ydym eisiau adeiladu ar yr hyn a ddechreuwyd gennym heddiw.”
Mewn partneriaeth â’r Brifysgol, mae’r Ganolfan yn bwriadu cynnal rhagoriaeth mewn hyfforddi myfyrwyr gradd clinigol a di-glinigol trwy ehangu ei rhaglen doethuriaeth pedair blynedd bresennol.
Mae Canser Research UK yn bwriadu lansio mwy o ganolfannau o gwmpas y DU yn ystod 2009.

