Skip to content
Skip to navigation menu

English

Gwyddonydd glinigydd o Gaerdydd yn ennill gwobr genedlaethol

03 Ebrill 2009

Mae Cymrawd Clinigol o’r Ysgol Feddygaeth wedi ennill Gwobr Hamblin 2008 gan fforwm Lewcemia Lymphocytic Difrifol (CLL) y DU, y sefydliad i glinigwyr, gwyddonwyr a chleifion sy’n anelu at wella gofal y rhai sydd â’r ffurf yma o ganser.

Cafodd Dr Saman Hewamana, yr Ysgol Feddygaeth, y wobr faweddog hon i gydnabod ei waith fel awdur y papurau ymchwil mwyaf arwyddocaol ar CLL yn ystod y flwyddyn flaenorol, gan gynnwys papurau fel awdur cyntaf yn Blood, Clinical Cancer Research a’r Journal of Clinical Oncology.

Un o ddarganfyddiadau mwyaf arwyddocaol Dr Hewamana yn ystod y flwyddyn ddiwethaf oedd darganfod bod niferoedd uchel o’r protein a elwir yn NF-kB yn gysylltiedig â thyfiant lewcemia lymphocytic difrifol (CLL), y ffurf fwyaf cyffredin o’r afiechyd ymhlith oedolion yn y DU. Dangosodd bod cyffur arbrofol, a brofwyd yng nghelloedd y cleifion yn y labordy, yn gallu atal gweithrediadau NF-kB, gan achosi marwolaeth celloedd lewcemia.

Yn bwysig, darganfu ei ymchwil fod y cyffur newydd yn gallu lladd celloedd lewcemia mewn samplau a ddaeth o gleifion nad oedd yn ymateb i gemotherapi confensiynol.

Dywedodd Dr Chris Pepper a Dr Paul Brennan, yr Ysgol Feddygaeth, "Mae Sam yn llawn haeddu’r gydnabyddiaeth hon am y gwaith mae wedi ei wneud gyda ni dros y tair blynedd diwethaf. Mae yn wyddonydd glinigydd rhagorol, a dyfodol disglair ym myd meddygaeth trawsfudol o’i flaen."

Ariannwyd ymchwil Dr Hewamana gan Leukaemia Research UK.