Skip to content
Skip to navigation menu

English

Mae gyrfa arwain gŵr graddedig o Gaerdydd ar gynnydd

31 Awst 2011

Michael Francis - webMichael Francis (Credit: Chris Christodoulou)

Mae gŵr graddedig o’r Ysgol Gerddoriaeth am ddychwelyd i Gaerdydd yn ddiweddarach eleni er mwyn cychwyn ei yrfa fel arweinydd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Bydd Michael Francis, a raddiodd o’r Ysgol Gerddoriaeth ym 1997, yn cyfarwyddo perfformiad o 5ed Symffoni Beethoven, a fydd yn ymddangos yn ddiweddarach mewn cyfres BBC 4 ar hanes y symffoni.

Ac yntau’n cael ei ystyried yn un o’r talentau arwain mwyaf disglair y cyfnod hwn, ar hyn o bryd mae Michael yn Brif Arweinydd ac Ymgynghorydd Artistig i Gerddorfa Symffoni Norrkoping .

Mae gwaith blaenorol yn UDA wedi cynnwys arwain nifer o gerddorfeydd blaenllaw, gan gynnwys Cerddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd, Cerddorfa Symffoni San Francisco a Cherddorfa Symffoni Oregon. Ym mis Tachwedd 2010 cyfarwyddodd berfformiad cyntaf y byd o Lichtes Spiel Wolfgang Rihm ar gyfer y ffidl a cherddorfa, ac Anne-Sophie Mutter, sy’n fyd-enwog, oedd yr unawdydd.

Dolenni perthynol: