Skip to content
Skip to navigation menu

English

Gwyddonwyr o Gaerdydd yn cynorthwyo i archwilio asteroid a chomed

20 Gorffennaf 2010

Image of Luteria at closest approach (Pic courtesy ESA)

Mae’r Athro Chandra Wickramasinghe a Dr Max Wallis, o Ganolfan Astrobioleg Caerdydd, yn rhan o’r tîm rhyngwladol sy’n gweithio ar longofod yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, Rosetta.

Mae Rosetta newydd hedfan heibio’r asteroid Lutetia, ar ei ffordd i gyfarfod â’r gomed Churyumov-Gerasimenko y flwyddyn nesaf.

Mae’r Athro Wickramasinghe a Dr Wallis yn rhan o grŵp rhyngwladol dan arweiniad yr Almaen a fydd yn archwilio tu allan y gomed a’i maes disgyrchiant gyda thonnau radio ac yn archwilio ei niwclews gyda radar.

Yn y cyfamser, fe wnaeth y dynesiad agos at "Lutetia" - o fewn 3200 km i’r graig ofod - alluogi gwneud delweddau agos da o’r asteroid. Mae dynesiadau at asteroidau bob amser yn ddiddorol iawn i’r gymuned wyddonol, ac maent yn cynnig y posibilrwydd iddynt groeswirio damcaniaethau gyda data go iawn a anfonir o’r gofod. Bydd tîm Caerdydd yn gallu dadansoddi llwch a nwy o amgylch yr asteroid i’w cymharu â’r gomed y flwyddyn nesaf.

Dywedodd y gwyddonydd o Gaerdydd, yr Athro Wickramasinghe, a wnaeth, gyda’r diweddar Syr Fred Hoyle, arloesi â damcaniaethau yn cysylltu comedau a bywyd: "Dylai Taith Ofod Rosetta gynhyrchu gwybodaeth fanwl am gomedau a darparu’r profion llymaf i’n damcaniaethau."

Tags