Skip to content Skip to navigation menu
15 Rhagfyr 2008
Mae’r Brifysgol wedi ymuno â’r cwmni ymgynghori blaengar Mott MacDonald i rannu a hyrwyddo arbenigedd ymgynghori, peirianneg ac ymchwil.
Gallai’r trefniant cydweithio newydd weld y Brifysgol a Mott MacDonald yn cydweithio ar ystod o fentrau mewn sectorau gan gynnwys iechyd, cynaliadwyedd, tai, trafnidiaeth a dŵr gyda’r potensial ar gyfer noddi prosiectau, trosglwyddo sgiliau, cyngor arbenigol, cyfnewid staff ac ymchwil arbenigol.
Meddai Derek Jones, Cyfarwyddwr Busnes a Phartneriaethau Strategol: "Dyma ddatblygiad cyffrous iawn i allu llofnodi trefniad cydweithio gydag un o gwmnïau ymgynghori blaengar y byd ym maes rheoli a pheirianneg."
"Bydd y trefniant hwn yn galluogi Prifysgol Caerdydd a Mott MacDonald i rannu eu sgiliau helaeth, gwybodaeth a gallu ymchwil wrth gyflwyno prosiectau rheoli a pheirianneg ym mhob rhan o’r byd. Bydd yn mynd â’n perthnasoedd cyfredol gam mawr ymlaen.
"Er y bydd llawer o ganolbwynt gwreiddiol y trefniant ar gyfnewid sgiliau a chydweithio yn y meysydd peirianneg, gyda chymaint o feysydd eraill o ddiddordeb cyffredin – gan gynnwys iechyd, addysg, trafnidiaeth, adfywio a thai – rydyn ni’n hyderus y gellir datblygu’r cytundeb ymhellach o lawer, gan alluogi effeithiau mwy o’n hymchwil flaengar."
Mae Prifysgol Caerdydd a Mott MacDonald eisoes yn cydweithio ar nifer o brosiectau, gan gynnwys prosiect asesu effeithiau iechyd, economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol gyda Chyngor Sir Gaerfyrddin, Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin a’r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus. Bydd yr astudiaeth yn helpu codi ymwybyddiaeth o’r manteision y bydd rhaglen adfywio tai yn Sir Gaerfyrddin yn cael ar y gymuned.
Meddai Guy Leonard, Cyfarwyddwr Bwrdd Grŵp Mott MacDonald: "Bydd y bartneriaeth newydd hon yn ein helpu i ffurfio perthynas gref, gydfuddiol rhwng y ddau sefydliad. Mae llawer iawn gan fusnesau a phrifysgolion i’w ddysgu gan ei gilydd. Bydd Mott MacDonald yn dysgu o ymagwedd arloesol Prifysgol Caerdydd, a nod y Brifysgol yw elwa ar y cyfle i gyfnewid arbenigedd â gweithwyr proffesiynol busnes ym Mott MacDonald a chael adborth ymarferol oddi wrthyn nhw."
Ychwanegodd Ian Holt, Cyfarwyddwr Cyswllt Mott MacDonald ar gyfer y fenter: "Bydd y wybodaeth a meddwl cyfunedig a wnaethpwyd yn bosibl gan y fenter hon â Phrifysgol Caerdydd yn ein helpu i gyflwyno gweledigaethau newydd a rhoi cyngor craff i’n cleientiaid, a fydd, yn ei dro, yn eu galluogi i gael mantais gystadleuol."
Llofnodwyd y trefniant yn ffurfiol yr wythnos hon gan Brifysgol Caerdydd a Mott MacDonald gyda’r cynrychiolwyr yn cwrdd â Rhodri Morgan AC, Prif Weinidog Cymru, i drafod sut mae Mott MacDonald a Phrifysgol Caerdydd yn gallu helpu economi Cymru.
First science star for Wales announced 17/06/2013
Study reveals disease-causing parasites in dead otters 17/06/2013
Lansiwyd hwb cymunedol iaith Gymraeg 17/06/2013
Vice Chancellor to co-chair strategic forum for university and business leaders 13/06/2013
This is an externally hosted beta service offered by Google.