Skip to content
Skip to navigation menu

English

Dathlu Rhodri

13 Ebrill 2010

Rhodri Morgan raising a toast to Sir Martin Evans with Vice-Chancellor Dr David GrantRhodri Morgan yn cynnig llwncdestun i Syr Martin Evans gyda Is-Ganghellor Dr David Grant

Gellid dadlau mai Rhodri Morgan yw gwleidydd mwyaf adnabyddus Cymru a’r un uchaf ei barch, a bydd y Brifysgol yn nodi ei gyfraniad unigryw i fywyd diwylliannol a gwleidyddol Cymru gyda chinio dathlu i’w anrhydeddu.

Fe’i cynhelir gan Is-Ganghellor y Brifysgol Dr David Grant, a bydd cyfeillion o bob rhan o’r Brifysgol yn dod at ei gilydd i ddathlu’r amser pan oedd yn Brif Weinidog Cymru.

Dywedodd yr Is-Ganghellor, Dr David Grant: "Mae deallusrwydd Rhodri Morgan a’i allu anhygoel i gofio pethau gyda’r manylder mwyaf, wedi eu cyfuno â’i swyn naturiol, ei frwdfrydedd a’i bersonoliaeth ffwrdd â hi, wedi ennill calon cenedl y Cymry.

"Y peth y bydd cyfeillion a gwrthwynebwyr gwleidyddol fel ei gilydd yn ei gofio am Rhodri yw ei ymrwymiad digwestiwn i wead cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Cymru a’i phobl.

"Mae’r dathliad hwn yn gyfle i Brifysgol Caerdydd dalu teyrnged iddo, a dathlu a nodi ei gyfraniad unigryw i Gymru."

Mae cysylltiadau Rhodri Morgan â’r Brifysgol yn hirfaith. Mewn erthygl i ddathlu pen-blwydd y Brifysgol yn 125 oed, datgelodd fod ei dad, T. J. Morgan, wedi cael ei swydd gyntaf yn 1929 yn Ddarlithydd Cynorthwyol yn Ysgol y Gymraeg yn y Brifysgol. Heb y swydd honno, byddai priodi a magu teulu wedi bod yn amhosibl yn ystod amseroedd caled y "tridegau newynog" yng Nghymru.

Mae ganddo atgofion melys o sut byddai yn blentyn yn gwylio ei dad, wedi iddo ddychwelyd i’r Brifysgol ar ôl cyfnod byr yn y Weinyddiaeth Lafur, yn croesawu aelodau’r Dosbarth Anrhydedd yn eu blwyddyn olaf i'w cartref yn Radyr.

"Byddwn wrth fy modd yn rhannu picau ar y maen a bara brith a’r brechdanau samwn tun a oedd dan rasiwns i’r myfyrwyr Anrhydedd," meddai wrth gofio’n ôl. "Rydw i'n dal i weld rhai ohonyn nhw’n awr, yn bennaf Brinley Jones, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Trêt fawr i ’mrawd a finnau fyddai cael mynd i Noson Lawen myfyrwyr yr Adran Gymraeg – dyna fy nghyflwyniad cyntaf i jôcs a sgetsiau."

Gadawodd Rhodri Morgan Gymru i ddilyn astudiaethau ym mhrifysgolion Rhydychen a Harvard, ond wedi iddo ddychwelyd i Gaerdydd parhaodd ei gysylltiad oes gyda’r Brifysgol. Yn ystod ei gyfnod fel AS ac yna fel AC dros Orllewin Caerdydd, fel y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd ac yn olaf fel Prif Weinidog, y cadarnhawyd y berthynas honno.

Fel Prif Weinidog Cymru ymwelai â’r Brifysgol yn rheolaidd ac ymfalchïai’n fawr yn yr hyn a gyflawnai’r Brifysgol.

Daeth y deyrnged fwyaf a dalodd y cyn Brif Weinidog i’r Brifysgol yn 2009 pan ofynnwyd iddo beth yr oedd falchaf ohono yn ystod ei gyfnod yn Brif Weinidog – a’i ymateb oedd y newyddion bod Syr Martin Evans wedi ennill Gwobr Nobel am feddygaeth yn 2007.

Dywedodd Syr Martin Evans, Llywydd y Brifysgol erbyn hyn: "Yn ystod ei gyfnod yn Brif Weinidog, roedd Rhodri yn eiriolydd blaenllaw dros Addysg Uwch, ac fel ymwelydd rheolaidd â’r Brifysgol, rydym yn neilltuol o falch o’r gydberthynas ragorol a’r berthynas weithio a sefydlwyd gydag ef a oedd o fudd i’r ddwy ochr.

"Mae ei gefnogaeth i’r gwaith ymchwil o safon fyd-eang a wnawn ym Mhrifysgol Caerdydd yn rhywbeth y gwerthfawrogwn yn fawr. Mae'n briodol iawn ein bod yn nodi ei gyfraniad unigryw i Gymru gydag achlysur o’r fath."

Cynhelir y cinio dathlu yr wythnos hon yn Adeilad Morgannwg y Brifysgol lle cyflwynir llyfr dathlu i Rhodri Morgan o luniau o’i ymweliadau â’r Brifysgol yn ystod ei adeg yn Brif Weinidog.

Darllenwch beth sydd gan gydweithwyr y Brifysgol i’w ddweud am Rhodri Morgan.

Meddai’r Athro Terry Threadgold, Dirprwy Is-Ganghellor, Staff ac Amrywiaeth: "Cyrhaeddais Gymru o Brifysgol Monash yn Victoria yng nghanol 1999 ac, mewn un ystyr, yng nghanol datganoli yn cyrraedd go iawn yng Nghymru.

"Ac felly roeddwn i yma – am ychydig – ar gyfer y dadleuon a arweiniodd at benodi Rhodri Morgan fel Prif Weinidog cyntaf Cymru (o leiaf gyda’r teitl hwnnw) ym Medi 2000. F’atgofion i yw rhai am arth fawr o ddyn gyda mop o wallt brith a oedd yn ddi-flewyn-ar-dafod, yn ‘strêt’ iawn ys dywedai’r Awstraliaid. Roeddech yn gwybod yn union lle roedd yn sefyll – ac yn annibynnol iawn ar San Steffan fel Arweinydd Llafur yng Nghymru.

"Roedd ei gael yma ac acw o amgylch Cymru pan gyrhaeddais yma o Awstralia yn gwneud imi deimlo’n gartrefol iawn. Roedd yna ryw fath o laricaniaeth roeddwn yn ei hadnabod ac yn ei pharchu. Roedd hefyd wrth gwrs yn llywio cytundeb rhyngbleidiol Llywodraeth y Cynulliad ar y ddyletswydd statudol i hyrwyddo cydraddoldeb yng Nghymru, camp fawr, fel rwyf yn ei deall ond yn rhy dda yn fy swydd bresennol, ac mae hynny wedi cynhyrchu agenda benodol yng Nghymru dros y blynyddoedd.

"Roedd Rhodri hefyd bob amser yn gefnogwr brwd o’r Brifysgol a’i gweithgareddau. Byddai wedi gwneud ei waith cartref bob amser ac yn ardderchog gyda phobl. Mae gennyf ddau atgof amdano mewn digwyddiadau lle roeddwn innau yn bresennol – un mewn ysgol uwchradd ym Meijing, yn ‘rhyngwladoli’ Cymru, a’r llall yn angladd y diweddar Geoff Mungham. Bu farw Geoff pan oeddwn i’n bennaeth Newyddiaduraeth. Gwyddai Rhodri i’r dim sut oedd ‘bod’ yn y ddau le – ac mae hynny yn gryn gamp."

Meddai’r Athro Kevin Morgan, Ysgol Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol Caerdydd: "Cwrddais gyntaf â Rhodri pan oeddwn i’n fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Sussex ac yntau’n brif swyddog datblygu economaidd Cyngor Sir De Morgannwg, cyfweliad cofiadwy mewn mwy nag un ffordd am ei fod newydd ddychwelyd o redeg yn yr awr ginio ac roedd y cit chwyslyd – esgidiau rhedeg, trowsus bach a fest yn addurno’r swyddfa wrth sychu ar y system wresogi!

"Yn y 70au hwyr oedd hynny ac rwyf wedi bod ar delerau da ag ef fyth ers hynny, er gwaetha’r dechrau anaddawol hwnnw! O edrych yn ôl ar ei yrfa fel gwleidydd, yn enwedig ei gyfnod fel Prif Weinidog, byddwn yn dweud bod ei boblogrwydd yn codi o un peth yn anad dim – does ganddo ddim asgwrn ymhongar yn ei gorff ac mae hynny yn rhywbeth sy’n cyd-daro yng Nghymru â phobl o bob plaid a phobl heb blaid.

"Yn fyr, rhoddodd enw da i wleidyddion – ac yn yr oes sydd ohoni dyna gamp unigryw."

Meddai Louise Casella, Cyfarwyddwr Datblygu Strategol: "Un atgof neilltuol sy’n sefyll allan i mi, pan oedd Rhodri Morgan yn ŵr gwadd er anrhydedd yng Nghinio Blynyddol CBI Cymru yn Rhagfyr 2009.

"Yn ogystal â dysgu mai ei hoff fisgïen yw bisgis gwenith siocled plaen, rhannodd â’r cwmni a ddaeth ynghyd ei uchafbwyntiau o’i dymor fel Prif Weinidog.

"Mae hi’n wych bod gwaith arloesol Prifysgol Caerdydd a Syr Martin yn flaenllaw yn ei feddyliau fel hyn."

Meddai’r Athro Syr Mansel Aylward Cyfarwyddwr CB, Y Ganolfan Ymchwil Seicogymdeithasol ac Anabledd: "Mae Rhodri Morgan yn un o’r ychydig bobl hynny rwyf wedi cwrdd â nhw mewn bywyd sy’n gallu cyflwyno sgwrs ddeniadol, amserol, ddoniol ac addysgiadol yn y fan a’r lle i gynulleidfa o unrhyw faint, unrhyw gymysgedd, argyhoeddiad gwleidyddol neu ymarweddiad, ac ar unrhyw bwnc.

"Heb os dyma allu hynod i ddyn a edmygir fel gwladweinydd y mae ei briodoleddau yn mynd yn llawer pellach na’r rhai sydd eu hangen ar wleidydd enwog fel ef. Rwyf wedi rhyfeddu at y ffordd y bydd yn rhoi ychydig bwyntiau bwled ar unrhyw ddarn o bapur a ddaw i law ac yn dechrau ar araith a fyddai cystal ag unrhyw un y byddai Cicero wedi llafurio drosti am ddyddiau lawer.

"Bydd anecdotau yn byrlymu ohono a phob un yn berthnasol i’r pwnc. Bydd yn consurio ffeithiau a data i ddarlunio’r pwyntiau fydd ganddo. Mae’r perthnasoldeb i Gymru a’i bywyd a’i hanes yno bob amser. Weithiau bydd yn crwydro i draethu’n hardd a bydd rhywun yn dyfalu sut bydd am ddychwelyd at ei bwynt ar y diwedd. Ond bydd yn gwneud hynny bob amser ac yna bydd perthnasedd pob dim y bydd wedi ei ddweud cyn hynny yn syrthio’n syml ac yn syth i’w le. Am ddawn! Am bleser yw ei wylio."

Meddai’r Athro Derek Jones – Cyfarwyddwr Busnes a Phartneriaethau Strategol: "Mae Rhodri wedi mynd yn sefydliad Cymreig o bwys. Mae ganddo wybodaeth i ryfeddu ati am Gaerdydd, ei phobl, ei hanes, ei heconomi – ac am chwaraeon.

"Wedi gweithio gydag ef mewn llywodraeth am flynyddoedd lawer, mae gennyf un uchelgais ysol o hyd, sef gallu cofio rhywbeth am Gaerdydd y mae e wedi’i anghofio!"

Your computer cannot play the audio in your browser. To fix this, you need to make sure both Javascript and Adobe Flash are available.

Get the Adobe Flash plug-in by clicking here

To find out how to enable JavaScript, check the Help option for your browser.


Cardiff University campus users

If you are on the Cardiff University campus and have problems with plug-ins or browsers, you can contact the INSRV Helpdesk on extension 74487 or visit the INSRV webpages