Skip to content
Skip to navigation menu

English

Herio Einstein

24 Ebrill 2008

Gallai gwyddonwyr sy’n archwilio i gorneli pellaf y gofod ryw ddydd dystio i ddigwyddiadau grymus yng nghreadigaeth a datblygiad y bydysawd diolch i brosiect mae’r Brifysgol yn rhan ohono.

Mae’r Athro Sathyaprakash o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yn arwain tîm sy’n dadansoddi data a gasglwyd gan Arsyllfeydd Ymyriadur Laser o Donnau disgyrchol, yn Ewrop ac America. Mae’r Arsyllfeydd yn defnyddio laserau a chanfodyddion i chwilio’r bydysawd am grychdonnau yn y gofod a elwir yn donnau disgyrchol.

Sbardunir y tonnau disgyrchol gan symudiad gwrthrychau anferthol yn y gofod, fel sêr yn gwrthdaro a’r dirgryniadau o dyllau du. Wrth i’r digwyddiadau hyn ddigwydd mae’r grym mor fawr fel y crëir crychdonnau yn y gofod, tebyg iawn i’r rhai fyddai’n ymddangos ar wyneb llyn ar ôl taflu carreg.

Rhagfynegwyd y tonnau ym 1916 gan Albert Einstein fel rhan o’i theori perthynoledd cyffredinol, ond hyd yn hyn nid ydynt wedi cael eu canfod yn uniongyrchol.

Yn awr, yn dilyn uwchraddiad barodd am saith mlynedd ac oedd yn werth 100 miliwn o bunnoedd i’r canfodyddion a leolir yn Arsyllfa America, gall yr Athro Sathyaprakash a’i dîm yn y dyfodol gynorthwyo i ganfod tonnau disgyrchol wrth iddynt deithio tua’r Ddaear cyn-amled ag unwaith yr wythnos.

Dywedodd yr Athro Sathyaprakash, o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth:"Mae’r Grŵp Ffiseg Ddisgyrchol yng Nghaerdydd yn ymwneud â’r chwiliad am y ffenomena mwyaf nerthol yn y Bydysawd, sef gwrthdrawiad sêr niwtron a thyllau du, cychwynwyr ffrwydradau pelydrau gama ac uwchnofâu. Drwy arsylwi tonnau disgyrchol byddwn yn rhoi’r prawf llymaf erioed i theori Einstein."

Tags