Skip to content
Skip to navigation menu

English

Newid yn yr Hinsawdd yn Dod yn Berthnasol

21 Mawrth 2011

Athro Nick PidgeonAthro Nick Pidgeon

Mae profiad uniongyrchol o dywydd eithafol yn cynyddu pryder am newid yn yr hinsawdd a pharodrwydd i ymddwyn mewn modd sy’n arbed ynni, yn ôl papur ymchwil newydd a gyhoeddwyd yn rhifyn cyntaf y cyfnodolyn Nature Climate Change yr wythnos hon.

Yn benodol, mae aelodau o’r cyhoedd Prydeinig yn fwy parod i gymryd camau personol a lleihau eu defnydd o ynni pan fyddant yn gweld bod eu hardal leol yn fwy agored i lifogydd, yn ôl yr ymchwil gan Brifysgolion Caerdydd a Nottingham.

Er na ellir priodoli un achos o lifogydd i newid yn yr hinsawdd, mae cyfres o ddigwyddiadau mawr o ran llifogydd wedi bod ym Mhrydain dros y degawd diwethaf, a disgwylir i hyn gynyddu yn y blynyddoedd nesaf o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd y seicolegydd Dr Alexa Spence, sy’n rhan o dîm ymchwil yr Ysgol Seicoleg ond sydd ym Mhrifysgol Nottingham erbyn hyn: "Gwyddom fod llawer o bobl yn tueddu i weld newid yn yr hinsawdd fel rhywbeth o bell, sy’n effeithio ar bobl a lleoedd eraill. Fodd bynnag, mae gan brofiadau o dywydd eithafol fel llifogydd y potensial i newid y ffordd y mae pobl yn gweld newid yn yr hinsawdd, trwy ei wneud yn fwy byw a phendant, ac sydd yn y pen draw yn arwain at fwriadau gwell i weithredu mewn ffyrdd cynaliadwy."

Cynhaliodd y tîm ymchwil ac Ipsos-MORI arolwg o 1,822 o aelodau o’r cyhoedd Prydeinig i brofi a oedd profiad personol o lifogydd wedi effeithio ar ganfyddiadau am newid yn yr hinsawdd. Fe wnaethant hefyd edrych ar a fyddai’r canfyddiadau hynny yn effeithio ar fwriadau ymatebwyr ynghylch defnyddio ynni. Amlygodd yr astudiaeth fod canfyddiadau pobl o newid yn yr hinsawdd a soniodd am brofiadau o lifogydd yn wahanol iawn, o’i gymharu â’r rheiny nad oeddent wedi profi llifogydd. Roedd y canfyddiadau hyn, yn eu tro, yn gysylltiedig â mwy o barodrwydd i arbed ynni. Yn benodol:

• Roedd y rheiny a soniodd am lifogydd yn eu hardal leol yn fwy tebygol o fod yn bryderus ynglŷn â newid yn yr hinsawdd, canfod mwy o wendid lleol i’w effeithiau, ac roeddent hefyd yn teimlo’n fwy abl o effeithio (cymorth canfyddedig) ar y mater.
• Roedd profiadau o lifogydd hefyd yn gysylltiedig â lefelau is o ansicrwydd ynglŷn â bodolaeth newid yn yr hinsawdd.
• Canfuwyd bod cymorth canfyddedig, pryder a gwendid lleol canfyddedig yn cyfryngu’r berthynas rhwng profiad o lifogydd a pharodrwydd i leihau’r defnydd o ynni.

Ychwanegodd yr Athro Nick Pidgeon, yr Ysgol Seicoleg, a arweiniodd y tîm ymchwil: "Yr astudiaeth bwysig hon yw’r dystiolaeth gadarn gyntaf ar gyfer rhywbeth sydd wedi cael ei amau ers tro – y bydd profiad lleol pobl o ddigwyddiadau yn gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd fel llifogydd yn hyrwyddo ymwybyddiaeth well o’r broblem. O ganlyniad, mae’n awgrymu ffyrdd newydd ar gyfer ennyn diddordeb pobl gyda’r mater hollbwysig ac enbyd hwn ymhlith materion amgylcheddol."

Ariannwyd yr ymchwil ar y cyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ac Ymddiriedolaeth Leverhulme. Cafwyd cymorth ychwanegol gan Horizon Digital Economy Research.


Dolenni cysylltiedig