Skip to content
Skip to navigation menu

English

Cadair Cochrane mewn Iechyd Cyhoeddus

01 Gorffennaf 2010

Cadair Cochrane, yr Athro Stephen PalmerCadair Cochrane, yr Athro Stephen Palmer

Bydd arbenigwr amlwg ar iechyd cyhoeddus o’r Brifysgol yn anrhydeddu coffadwriaeth un o feddylwyr mwyaf dylanwadol y Brifysgol ym maes iechyd ac yn gwella enw da Caerdydd am ymchwil arloesol ym maes iechyd cyhoeddus.

Penodwyd yr Athro Stephen Palmer, o’r Ysgol Feddygaeth, i Gadair Cochrane gyntaf mewn Epidemioleg ac Iechyd Cyhoeddus y Brifysgol.

Enwyd y Gadair newydd ar ôl arloeswr meddygol y Brifysgol, Archie Cochrane. Cafodd ei gydnabod fel un o’r ymchwilwyr mwyaf dylanwadol ym maes iechyd, a thra roedd yn Athro yn y Brifysgol yn y 1960au a’r 1970au, ymhlith gweithiau eraill, arweiniodd gyfres o astudiaethau ar iechyd poblogaeth y Rhondda Fach.

Wrth hyrwyddo hapbrofion gyda rheolydd a syntheseiddio gwybodaeth, arweiniodd y chwyldro mewn meddygaeth yn seiliedig ar dystiolaeth.

Yn ogystal â’r Gadair Cochrane newydd, caiff cartref newydd yr Ysgol Feddygaeth, sydd yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd ar gampws Parc y Waun, ei enwi ar ôl Archie Cochrane.

"Archie Cochrane, heb os, yw un o arloeswyr meddygol pwysicaf y byd," dywedodd yr Athro Palmer. "Mae ei astudiaethau ar iechyd poblogaeth y Rhondda Fach, yn enwedig, wedi helpu creu meddygaeth yn seiliedig ar dystiolaeth a sicrhau bod gwybodaeth yn llywio’r ffordd rydym yn ymdrin ag afiechyd.

"Hyd yn hyn, nid ydym wedi manteisio’n llawn ar enw da rhyngwladol Archie Cochrane - rwy’n gobeithio y bydd y Gadair newydd o gymorth yn hyn o beth. Rwyf wrth fy modd yn derbyn swydd sydd ag enw mor arbennig," ychwanegodd yr Athro Palmer.

Fel deiliad y Gadair, yr Athro Palmer fydd yn arwain ymchwil iechyd cyhoeddus y Brifysgol a bydd yn rhoi arweiniad academaidd mewn epidemioleg ac ymchwil ar sgrinio.

Hefyd bydd y Gadair newydd yn adeiladu seilweithiau, rhwydweithiau a phartneriaethau newydd i helpu denu grantiau ymchwil mawr i Gaerdydd a chreu amgylchedd a fydd yn denu’r ymchwilwyr gorau.

Yr Athro Palmer yw un o arweinwyr y DU ym maes iechyd cyhoeddus. Mae’n gyn Epidemiolegydd Rhanbarthol dros Gymru a chafodd ei benodi i Gadair Mansel Talbot mewn Epidemioleg ac Iechyd Cyhoeddus yn hen Goleg Meddygaeth Prifysgol Cymru ym 1998.

Yn ogystal â bod yn Bennaeth Adran Epidemioleg, Ystadegau ac Iechyd Cyhoeddus yr Ysgol Feddygaeth, ymunodd ag Asiantaeth Diogelu Iechyd newydd y DU fel cyfarwyddwr sefydlol yr Adran Peryglon Cemegol a Gwenwynau yn wreiddiol, a rhwng 2006 a 2009 ef oedd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Lleol a Rhanbarthol yr Asiantaeth Diogelu Iechyd dros Loegr.

Ers 2009, mae wedi bod yn Bennaeth Proffesiwn dros Epidemioleg.

Croesawyd penodiad yr Athro Palmer ledled y gymuned feddygol yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart: "Rwy’n croesawu penodiad yr Athro Palmer i’r swydd bwysig hon. Ers amser hir, mae Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd iechyd cyhoeddus a buddsoddi mewn addysg ac atal yn ogystal â thrin pobl pan maen nhw’n sâl. Bydd gwaith yr Athro Palmer yn ategu amrywiaeth o fentrau sydd ar waith yn barod i wella iechyd pobl."

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell: "Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd newydd gael ei sefydlu, yn datblygu Sefydliad Iechyd y Cyhoedd a fydd yn canolbwyntio ar addysgu ac ymchwil cyhoeddus a bydd yn rhoi mwy o wybodaeth ynghylch iechyd pobl Cymru. Bydd y Sefydliad yn gweithio’n agos â’r Athro Palmer i sicrhau statws Cymru mewn gwella iechyd y cyhoedd."

Ychwanegodd yr Athro Paul Morgan, Deon yr Ysgol Feddygaeth: "Bydd creu Cadair Cochrane a phenodiad yr Athro Palmer yn helpu atgyfnerthu arweinyddiaeth Cymru ym maes ymchwil ar iechyd cyhoeddus. Bu recriwtio eang ar gyfer llenwi’r swydd hon ond yn y pen draw sylweddolwyd bod yr ymgeisydd perffaith wrth law. Rwyf wrth fy modd bod yr Athro Palmer wedi derbyn y swydd.

"Mae Cymru wedi cychwyn ar raglen iechyd cyhoeddus uchelgeisiol. Mae creu gwasanaeth iechyd cyhoeddus i Gymru gyfan a’r angen am bolisïau integredig ar gyfer iechyd a lles ar lefel genedlaethol a lleol yn her bwysig.

"Bydd Cadair Cochrane yn gymorth i ni gwrdd â’r her, a helpu cynnal enw da rhyngwladol Cymru am ymchwil arloesol, a sicrhau y bydd Archie Cochrane yn cael ei goffáu ac y bydd ei waith arloesol yn parhau."

Caiff Prifysgol Caerdydd gydnabyddiaeth eang eisoes am ymchwil feddygol yn seiliedig ar dystiolaeth.

Bydd Biobanc Cymru, ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ceisio olrhain iechyd pobl dros y 30 mlynedd nesaf a mwy. Wrth i’r sefydliad aeddfedu, bydd y Biobanc yn dod yn ffynhonnell ddigyffelyb o wybodaeth hanfodol ynglŷn ag amrywiaeth o afiechydon gan gynnwys canser, clefyd y galon, diabetes, strôc, dementia, iselder ysbryd, arthritis, osteoporosis a llawer o gyflyrau eraill sy’n peryglu a gwanychu bywyd.

Hefyd bydd y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) yn dod ag arbenigwyr mewn nifer o ddisgyblaethau gwahanol ynghyd i fynd i’r afael â materion yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd megis diet a maeth, gweithgaredd corfforol; ac alcohol, tybaco a chyffuriau, gan ganolbwyntio’n arbennig ar ddatblygu a gwerthuso ymyriadau aml-lefel a fydd yn cael effaith ar iechyd a lles plant a phobl ifanc.

Y Brifysgol yw cartref Uned Ymchwil De-ddwyrain Cymru hefyd. Mae’n cynnal ymchwil o ansawdd uchel mewn iechyd a gofal cymdeithasol.