Skip to content
Skip to navigation menu

English

Datgelu ffactorau risg genetig cyffredin ar gyfyer yr anhwylderau seiciatrig mwyaf

02 Gorffennaf 2009

Mae gwyddonwyr o Ganolfan Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig yn y Brifysgol, a lansiwyd heddiw gan Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, yn rhan o dîm ymchwil rhyngwladol sydd wedi darganfod bod y rhan fwyaf o’r sail geneteg ar gyfer sgitsoffrenia wedi dod o groniad effeithiau bach o filoedd o amrywiadau genetig cyffredin. Rhennir llawer o’r effeithiau genetig hyn hefyd gan unigolion sydd ag anhwylder deubegynol.

Mewn defnydd newydd o ddata sglodyn genom, gwelodd y Consortiwm Rhyngwladol ar gyfer Sgitsoffrenia fod miloedd o amrywiadau genetig yn cael dylanwad bach ar wahân ond gyda’i gilydd maent yn cael effaith gref ar risg rhywun o ddatblygu sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol, mewn adroddiad a gyhoeddwyd ar-lein heddiw gan y cylchgrawn Nature.

Dywedodd Michael O'Donovan, Athro Geneteg Seiciatrig yng Nghanolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig, sy’n rhan o’r Ysgol Feddygaeth, "Cawsom ein synnu ar y dechrau gan y nifer fawr o gyfraniadau genetig ond gwelsom yr un patrwm ar draws llawer o samplau, sy’n ein gwneud yn hyderus ein bod yn mesur rhywbeth real a pherthnasol."

Mae sgitsoffrenia’n anhwylder ar yr ymennydd sy’n gyffredin, yn gronig ac yn aml yn ddifrodol, a nodweddir gan rithdybiau a rhithweledigaethau parhaus. Mae’n effeithio tua un unigolyn allan o 100 ac mae’n taro fel arfer yn hwyr mewn llencyndod neu’n gynnar mewn oedolaeth.

Er bod triniaethau effeithiol ar gael, mae cwrs y salwch fel arfer yn gronig ac mae’r ymateb i driniaethau yn aml yn gyfyngedig, sy’n arwain at anabledd a dioddefaint personol hirfaith. Mae hanes teuluol, sy’n golygu etifeddiaeth enetig, yn ffactor risg cryf ar gyfer sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol. Y llynedd, darganfyddodd y Consortiwm Rhyngwladol ar gyfer Sgitsoffrenia fod dileadau a dyblygiadau cromosomaidd prin o bob math yn cynyddu’r risg o ddatblygu sgitsoffrenia.

Wedi’i ffurfio yn 2006, arweinir y Consortiwm Rhyngwladol ar gyfer Sgitsoffrenia gan uwch-ymchwilwyr o 11 o sefydliadau yn Ewrop a’r UDA. Yn hanfodol i lwyddiant y prosiect oedd parodrwydd grwpiau’r Consortiwm i gronni adnoddau DNA sydd wedi cymryd blynyddoedd iddynt eu casglu, a oedd yn gwneud cyfanswm o 3,391 o unigolion gyda sgitsoffrenia a 3,181 o unigolion cysylltiedig heb yr anhwylder.

Defnyddiodd yr ymchwilwyr dechnolegau genomig newydd a thechnegau dadansoddol newydd. Wedi’i seilio ar fodelau damcaniaethol aelodau’r Consortiwm Dr. Naomi Wray a Dr. Peter Visscher (Athrofa Queensland ar gyfer Ymchwil Feddygol, Brisbane, Awstralia), gwnaeth y consortiwm brofion ar filoedd o amrywiadau genetig er mwyn darganfod y rhai a oedd yn fwy cyffredin mewn cleifion gyda sgitsoffrenia na mewn pobl heb yr anhwylder.

Aethant ati wedyn i brofi is-set o tua 30,000 o’r amrywiadau hyn mewn pobl ychwanegol sydd â sgitsoffrenia a hefyd mewn pobl sydd ag anhwylder deubegynol. Y canfyddiad allweddol oedd y darganfuwyd yr un grŵp mawr o amrywiadau genetig yn y samplau newydd o gleifion â sgitsoffrenia, hyd yn oed pan y’u casglwyd gan lawer o ymchwilwyr gwahanol a’u profi mewn labordai gwahanol.

Yn rhyfedd, roedd y grŵp hwn o amrywiadau a oedd yn gysylltiedig â sgitsoffrenia hefyd yn fwy cyffredin mewn pobl sydd ag anhwylder deubegynol. Mae’r canlyniadau hyn yn mynd yn groes i’r uniongrededd yn seiciatreg bod y ddau anhwylder ar wahân. Roedd y canfyddiad yn weddol benodol i anhwylderau seiciatrig yn hytrach nag i salwch cyffredinol, gan na ddarganfuwyd yr amrywiadau’n ormodol mewn pobl ag ystod o afiechydon eraill megis diabetes a chlefyd y galon.

Dywedodd Eric Lander, sy’n gyfarwyddwr sefydlu partner y Consortiwm, The Broad Institute, ac aelod Cyngor Cynghorwyr yr Arlywydd Obama ar Wyddoniaeth a Thechnoleg: "Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan ddefnyddio technegau a gynlluniwyd i astudio newidiadau cyffredin mewn DNA, mae genetegwyr afiechydon seiciatrig wedi canfod canfyddiadau mwy ysgogol yn ystadegol nag yn y 100 mlynedd flaenorol."

Dywedodd Dr Thomas Insel, cyfarwyddwr y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd Meddwl , a ariannodd yr astudiaeth yn rhannol: "Os yw rhai o’r un risgiau genetig yn waelodol i sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol, efallai bod yr anhwylderau hyn yn tarddu o ryw wendid o ran datblygiad yr ymennydd. Wrth gwrs y cwestiwn mawr yw sut bydd rhai pobl yn datblygu sgitsoffrenia a rhai eraill yn datblygu anhwylder deubegynol."

Dywedodd Professor Ian Hickie, Cyfarwyddwr Gweithredol Sefydliad yr Ymennydd a’r Meddwl, ym Mhrifysgol Sydney, Awstralia: "Dyma astudiaeth allweddol o safbwynt cysyniadol ac ymarferol. Mae’n darparu tystiolaeth drawiadol dros y ffactorau risg genetig cyffredin ar gyfer y prif anhwylderau seiciatrig. Rydym yn gwneud cynnydd da o ran dymchwel y systemau dosbarthu yn seiciatreg sydd yn gan mlwydd oed ac sydd wedi profi i fod yn gynrychioliadau gwael o’r fioleg waelodol."

Cefnogwyd yr astudiaeth gan grantiau o’r Cyngor Ymchwil Feddygol, Wellcome Trust, Sefydliad Gwyddoniaeth Iwerddon, Sefydliad Ymchwil Feddygol Stanley, Sefydliad Cenedlaethol Iechyd Meddwl a Sefydliad Sylvan Herman.

Tags