Skip to content
Skip to navigation menu

English

Casgliadau McKay

25 Mawrth 2013

Houses of Parliament

Cyhoeddwyd heddiw adroddiad hirddisgwyliedig Comisiwn McKay ynglŷn â goblygiadau datganoli ar ddeddfu yn Nhŷ’r Cyffredin. Mae’r adroddiad yn gwneud defnydd helaeth o waith ymchwil gan yr Athrawon Richard Wyn Jones a Dan Wincott o Brifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad â chydweithwyr yng Nghaeredin.

Mae casgliadau Comisiwn Cwestiwn Gorllewin Lothian Llywodraeth y DU, a ystyriodd allu Aelodau Seneddol Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i bleidleisio ar faterion sy’n ymwneud â Lloegr yn unig, yn argymell mai dim ond gyda sêl bendith mwyafrif ASau Lloegr y dylai penderfyniadau sy’n effeithio ar Loegr yn benodol ac ar wahân gael eu gwneud yn Nhŷ’r Cyffredin fel arfer.

Daeth hefyd i’r casgliad fod pobl yn Lloegr yn anfodlon â’r trefniadau presennol a bod angen eu diwygio.

Casglodd y Comisiwn dystiolaeth o bob rhan o’r Deyrnas Unedig a chan amrywiaeth o bobl gan gynnwys academyddion, gwleidyddion, swyddogion Tŷ’r Cyffredin a’r cyrff deddfu datganoledig, sylwebwyr a’r cyhoedd.

Yn ei adroddiad terfynol, mae’r Comisiwn yn gwneud defnydd helaeth o arolwg Dyfodol Lloegr ynghylch agweddau’r cyhoedd yn Lloegr. Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caedydd a Sefydliad Llywodraethiant Caeredin a gynhaliodd yr arolwg mewn partneriaeth â’r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus (IPPR). Cyhoeddwyd yr adroddiad cyntaf am yr arolwg – The Dog that Finally Barked: England as an Emerging Political Community – ym mis Ionawr 2012 a chafwyd cryn drafod yn y cyfryngau ynghylch ei gasgliadau, sef bod pobl Lloegr yn fwyfwy anfodlon â’r ffordd y llywodraethir Lloegr o fewn yn DU. Yn benodol, roedd mwyafrif llethol yn credu na ddylai ASau’r Alban gael pleidleisio ar faterion sy’n effeithio ar Loegr yn unig, ac y dylai Lloegr gael ei chydnabod fel uned wleidyddol o’r Undeb ar ei phen ei hun.

Cafodd y Comisiwn gyfle arbennig hefyd i weld canlyniadau Arolwg Dyfodol Lloegr 2012 ymlaen llaw (a gaiff eu cyhoeddi’n llawn ar Ddydd San Siôr 2013) sy’n cadarnhau canfyddiadau’r astudiaeth flaenorol.

Meddai’r Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru ac aelod allweddol o’r tîm ymchwil:

"Hwyrach y byddai rhai’n gweld eironi yn y ffaith mai ymchwilwyr yng Nghymru a’r Alban sydd wedi bod brysuraf yn ddiweddar yn tynnu sylw at agweddau yn Lloegr mewn ymateb i’r broses ddatganoli, ond efallai nad yw hynny’n annisgwyl. Ers cryn amser bellach, rydym wedi bod yn cymryd sylw o’r gwahanol agweddau sydd i’w canfod ledled y DU ac rydym wedi datblygu technegau a damcaniaethau sy’n ein galluogi i’w holrhain a’u dadansoddi. Erbyn hyn, rydym wedi defnyddio’r technegau a’r damcaniaethau hyn yng nghyd-destun Lloegr.

"Mae adroddiad Comisiwn McKay ynddo’i hun yn garreg filltir yn hanes y modd mae tiriogaethau’r Deyrnas Unedig yn cael eu llywodraethu. Er mai digon cyfyngedig yw’r newidiadau a argymhellir gan y Comisiwn, byddent yn cynrychioli newid o bwys pe baent yn cael eu rhoi ar waith. Yn hytrach na thrin Lloegr fel rhyw fath o gategori dros ben – neu’r hyn sy’n weddill pan fo Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi mynd ar eu trywydd eu hunain – byddai Lloegr yn cael ei chydnabod yn glir fel rhan lawn o’r Undeb a bod ganddi (o bosibl, o leiaf) ei barn a’i llais ei hun. Ar lefel gyfansoddiadol, byddai’r DU yn datblygu i fod yn wladwriaeth amlgenedl, sef yr hyn ydyw mewn gwirionedd."

Cewch gopi o The Dog that Finally Barked: England as an Emerging Political Community yn:

http://www.ippr.org/images/media/files/publication/2012/02/dog-that-finally-barked_englishness_Jan2012_8542.pdf

Dolenni cysylltiedig

Canolfan Llywodraethiant Cymru

Comisiwn McKay