Skip to content
Skip to navigation menu

English

Y Cwnsler Cyffredinol yn traddodi Darlith Ewan Davies 2009

27 Mai 2009

Mr Carwyn Jones AMMr Carwyn Jones AM

Dyfodol tirlun cyfreithiol Cymru oedd canolbwynt darlith flynyddol glodfawr Ewan Davies eleni yn Ysgol y Gyfraith Caerdydd.

Wedi’i threfnu gan y Ganolfan Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol, anerchodd Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru ac Arweinydd y Tŷ Carwyn Jones AC gynulleidfa lawn o weithwyr cyfreithwyr proffesiynol, gan ddisgrifio sut y mae Cymru’n cychwyn ar un o’r degawdau mwyaf cyffrous a phwysig hyd yn hyn i Gymru Gyfreithiol.

Ac yntau’n fargyfreithiwr ac yn gyn-diwtor yn Ysgol y Gyfraith Caerdydd, edrychodd Carwyn Jones ar yr hyn mae pwerau deddfu Cynulliad Cymru yn eu golygu i gyfreithwyr, a pha effaith y bydd newid llywodraeth yn Llundain yn ei gael ar y Cynulliad. Edrychodd ei ddarlith ‘Getting the Devolution Dividend; Legal Wales in the next ten years,’ hefyd ar sut y cafodd y newidiadau hyn fwy o effaith nag y disgwylid a sut oedd y Ddeddf yn cynrychioli’r potensial mwyaf o ran trosglwyddo pwerau ers creu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999.

Dywedodd Carwyn Jones AC, : "Mae angen i ni barhau i ddatblygu ac i newid er mwyn cwrdd â gofynion newydd datganoli yng Nghymru. Gwir brawf y system fydd sut y mae’n gweithredu pan fydd llywodraethau gwahanol eu naws wleidyddol yng Nghaerdydd ac yn Llundain.

"Y ddeng mlynedd nesaf ym mywyd Cymru Gyfreithiol fydd y rhai mwyaf cyffrous a phwysig, yn sicr ers diddymu Llys y Sesiwn Fawr ac o bosibl ers y flwyddyn 1536. Mae’n hanfodol ein bod i gyd yn barod ar gyfer yr heriau hynny er mwyn cael y difidend datganoli."

Yn ystod y ddarlith esboniodd hefyd sut mae’r system ddeddfu newydd yn gweithio a sut mae’r Cynulliad wedi mynd ati i gynhyrchu deddfwriaeth newydd, megis y Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2008, er mwyn dod yr un mor gynhyrchiol â Senedd yr Alban, er gwaethaf yr heriau yr oedd yn wynebu wrth ddatblygu maes newydd o arbenigedd. Siaradodd wedyn am y broses o ddargyfeiredd rhwng cyfraith Lloegr a chyfraith Cymru a’i oblygiadau cadarnhaol ar gyfer dyfodol Cymru Gyfreithiol, gan gynnwys cyfleoedd i bobl academaidd archwilio ac adolygu cyfraith Cymru, a ‘difidend datganoli’ ar gyfer cyfreithwyr sy’n ymarfer.

Dywedodd Ian Brookfield, Cyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol yn yr Ysgol: "Roeddem yn falch iawn o groesawu Carwyn Jones yn ôl i Ysgol y Gyfraith. Rhoddodd ei ddarlith fewnwelediad diddorol iawn i ni i’r datblygiadau cyffrous sy’n digwydd yng Nghymru a’r effaith y byddant yn eu cael i bawb sy’n byw yma yn ogystal ag ar bawb sy’n ymwneud â’r proffesiwn cyfreithiol, addysgu ac ymchwil."

Gwnaeth Ewan Davies gyfraniad sylweddol i’r gymuned gyfreithiol ac i gymuned y Brifysgol; roedd yn Ynad Heddwch, yn Gadeirydd Ustusiaid Caerdydd ac yn gadeirydd Cymdeithas Gyfreithiol Caerdydd. Pymthegfed ddarlith yng nghyfres Ewan Davies oedd darlith eleni ac mae siaradwyr blaenorol yn cynnwys Cherie Booth QC, Carolyn Kirby, Arlywydd y Gymdeithas Gyfreithiol, Y Fonesig Elizabeth Butler-Sloss, a Roy Morgan, Cadeirydd Cymdeithas Gyfreithiol Caerdydd a’r Cylch.

Er mwyn darllen trawsgrifiad y ddarlith yn llawn, ewch i: http://www.law.cf.ac.uk/publiclecture/transcripts/index.html

Tags