Skip to content
Skip to navigation menu

English

Cymru: Cyflwr y Genedl, 2012

01 Mai 2012

WGC State of the Nation Web = web

Mae dau o ddadansoddwyr pleidleisiau mwyaf blaenllaw Cymru wedi datgelu agweddau’r cyhoedd at wleidyddiaeth yng Nghymru.

Mae’r Athro Roger Scully a’r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethu Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cyflwyno eu canfyddiadau o arolwg mawr newydd o etholaeth Cymru mewn digwyddiad heddiw ym Mae Caerdydd (1 Mai 2012).

Mae canfyddiadau’r arolwg a gyhoeddwyd ddeuddydd cyn yr etholaethau lleol yn ymdrin â meysydd yn ymwneud ag agweddau’r cyhoedd at ddatganoli, rhagolygon pleidiau gwleidyddol ar gyfer yr etholiadau sydd i ddod a safbwynt y cyhoedd o ran y Comisiwn Silk.

Cysylltodd Laurence Janta-Lipinski, Rheolwr Ymchwil ar gyfer Ymchwil Wleidyddol a Chymdeithasol yn YouGov y canfyddiadau ag astudiaethau cyfochrol yn Lloegr a’r Alban i ofyn sut mae agweddau yng Nghymru at newid sefydliadol yn cymharu â rhai yn Lloegr a’r Alban.

Ymhlith y prif ganfyddiadau, mae’r canlynol:

· Mae Llafur yn parhau i fod ymhell ar y blaen i’r holl bleidiau eraill o ran cefnogaeth dros San Steffan, y Cynulliad Cenedlaethol ac o ran etholiadau lleol yr wythnos hon:

o Mae bwriadau pleidleisio ar gyfer etholiad cyffredinol yn gosod Llafur ar 50% (cynnydd o 14% ar etholiad cyffredinol Mai 2010), y Ceidwadwyr ar 23% (lleihad o 3%), Plaid Cymru ar 12% (cynnydd o 1%) a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 7% (lleihad o 13%), gyda phleidiau eraill â chyfanswm o 9%.

o Mae bwriadu pleidleisio ar gyfer pleidlais etholaeth y Cynulliad Cenedlaethol yn gosod Llafur ymhell ar y blaen ar 48% (cynnydd o 6% ar eu perfformiad fis Mai diwethaf), y Ceidwadwyr ar 19% (lleihad o 6% o’i gymharu â’r llynedd), Plaid Cymru ar 18% (lleihad o 1%), a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 7% (lleihad o 4% o’i gymharu â 2011). Mae bwriadau pleidleisio o ran pleidlais y rhestr ranbarthol yn dangos bod gan Lafur gefnogaeth o 33% (lleihad o 4% o’i gymharu â Mai 2011), bod gan Blaid Cymru 22% (cynnydd o 4%), ac mae’r Ceidwadwyr ar 13% (lleihad o 10%) a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 9% (cynnydd o 1%), gydag amrywiaeth o bleidiau eraill yn cael 23% o gefnogaeth rhyngddynt.

o Adroddwyd bod bwriadau pleidleisio ar gyfer etholiadau’r cyngor lleol ar lefel 48% ar gyfer Llafur (21% yn uwch na chyfran y pleidleisiau a enillwyd gan Lafur yn etholiadau llywodraeth leol 2008 yng Nghymru), 17% ar gyfer y Ceidwadwyr (cynnydd o 1% ar 2008), 14% ar gyfer Plaid Cymru (lleihad o 3%) a 7% ar gyfer y Democratiaid Rhyddfrydol (lleihad o 6%). Dangosodd rhyw 15% o ymatebwyr y byddent yn pleidleisio am ymgeiswyr annibynnol neu ymgeiswyr eraill (lleihad o 13% ar y gyfran a oedd yn gwneud hynny mewn gwirionedd yn 2008).

· Carwyn Jones yw’r arweinydd gwleidyddol mwyaf poblogaidd yng Nghymru o hyd. Fodd bynnag, mae Leanne Wood wedi gwneud argraff gynnar gweddol dda ar y cyhoedd yng Nghymru, gan mai hi yw’r mwyaf poblogaidd o blith arweinwyr pleidiau yng Nghymru a’r DU. Mae David Cameron yn parhau i fod yn boblogaidd iawn ymysg pleidleiswyr y Ceidwadwyr, ond nid yw mwyfwy o bobl yn ei hoffi yng Nghymru. Ac mae Andrew RT Davies heb wneud argraff ffafriol hyd yn hyn. Nid yn unig y mae’n parhau i fod yn anghyfarwydd i lawer o bleidleiswyr; ond nid yw wedi gwneud argraff dda iawn ar y rhai sy’n ymwybodol ohono. Yn wir, hyd yn oed ymhlith cefnogwyr y Ceidwadwyr yn yr arolwg hwn, nid oedd y rhan fwyaf yn ei hoffi.

o Sgoriodd Carwyn Jones gyfartaledd o 4.7 ar raddfa boblogrwydd o 0-10 a gymhwyswyd i’r holl brif arweinwyr pleidiau yn y DU a Chymru. Cafodd Leanne Wood gyfartaledd o 3.9, a chafodd Ed Miliband 3.8, Kirsty Williams 3.5, David Cameron 3.1, Andrew RT Davies 3.0, a Nick Clegg 2.7.

· Mae cefnogaeth gref dros ddatganoli yng Nghymru ymhlith y mwyafrif; mae mwyafrif clir hefyd yn cefnogi datganoli o leiaf rhai pwerau mewn perthynas â threthu. Fodd bynnag, nid yw’r rhan fwyaf o bleidleiswyr yn cefnogi’r syniad o gynnal refferendwm mewn perthynas â datganoli pwerau trethu penodol.

o Mewn cwestiwn a oedd yn rhoi nifer o ddewisiadau i ymgeiswyr o ran sut y dylid llywodraethu Cymru, dim ond 16% a oedd yn ffafrio dewis ‘llywodraeth heb ei datganoli’. Roedd rhyw 5% yn ffafrio Cynulliad Cenedlaethol â ‘llai o bwerau’; roedd 31% o’r farn ‘y dylem adael pethau fel y maent ar hyn o bryd’; roedd 30% o’r farn y dylai fod gan y Cynulliad ‘fwy o bwerau’; ac roedd 10% yn ffafrio annibyniaeth. Dewisodd 9% arall y dewis ‘Ddim yn Gwybod’.

o Roedd 51% o’r rhai a atebodd yr arolwg o’r farn mai’r Cynulliad Cenedlaethol ‘ddylai fod â’r dylanwad mwyaf ar sut y caiff Cymru ei gweinyddu’, o’u cymharu â dim ond 26% a oedd o’r farn y dylai llywodraeth y DU yn San Steffan fod â’r dylanwad mwyaf.

o O ran treth, cytunodd rhyw 24% o ymatebwyr ‘y dylai fod gan y Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i gynyddu neu i leihau’r holl drethi yng Nghymru’; roedd 31% arall o’r farn ‘y dylai fod gan y Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i gynyddu neu i leihau rhai trethi yng Nghymru, ond nid pob un ohonynt, o fewn terfynau a gytunir gyda Llywodraeth y DU yn San Steffan,’ lle roedd 34% yn cytuno ‘na ddylai’r Cynulliad Cenedlaethol fod ag unrhyw bwerau i gynyddu neu i leihau trethi yng Nghymru’. Dewisodd 11% o ymatebwyr y dewis ‘Ddim yn Gwybod’.

o Roedd rhyw 80% o’r rhai a atebodd yr arolwg o’r farn y dylid gwneud unrhyw benderfyniad yn y dyfodol mewn perthynas ag annibyniaeth i Gymru drwy refferendwm, yn hytrach na bod gwleidyddion yn penderfynu; roedd 70% o’r farn y byddai angen refferendwm ar gyfer unrhyw benderfyniad mewn perthynas â diddymu’r Frenhiniaeth ac roedd 53% yn ffafrio refferendwm ar gyfer datganoli pwerau mewn perthynas â phob treth. Fodd bynnag, dim ond 41% a oedd o’r farn y dylid defnyddio refferendwm i benderfynu ar p’un a ellid rhoi pwerau cyfyngedig i amrywio treth incwm i’r Cynulliad ai peidio (o’u cymharu â 44% a oedd o’r farn y dylai gwleidyddion benderfynu ar fater o’r fath).

· Mae gwrthwynebiad cryf tuag at annibyniaeth i’r Alban ledled Prydain ac mae lefelau tebyg o oedolion yn Lloegr (46%), yn Yr Alban (51%) ac yng Nghymru (50%) yn ei wrthwynebu.

· Pobl Cymru (62%) sy’n anghytuno fwyaf â’r gosodiad "Os bydd yr Alban yn dod yn wlad annibynnol, dylai Cymru wneud yr un peth." Fel arwydd o gadernid, yr Albanwyr yw’r unig ranbarth lle mae mwy o ymatebwyr yn cytuno (29%) nac yn anghytuno (19%).

· Wrth reswm, pobl Lloegr sydd fwyaf tebygol o ystyried bod yr Alban yn elwa’n fwy ar yr Undeb (52%) na Lloegr a Chymru (9%), ac mae pobl yr Alban yn fwy tebygol o ystyried bod Cymru a Lloegr yn elwa mwy (32%) na’r Alban (21%). Pobl Cymru sy’n aros ar y tir canol, gyda lluosogaeth (46%) yn dewis y ddau ddewis, yn bragmataidd iawn.

· Ychydig iawn o oedolion yn Lloegr, yr Alban a Chymru a fyddai’n falch o weld Cymru yn ennill annibyniaeth; fodd bynnag, er mai’r opsiwn a ddewiswyd fwyaf yn Lloegr a’r Alban oedd difaterwch (dewisodd 57% a 45% ‘ddim yn falch nac yn siomedig’), nododd mwyafrif (57%) yr ymatebwyr yng Nghymru y byddent yn teimlo’n siomedig.

o Byddai pobl Lloegr yr un mor siomedig pe bai naill ai’r Alban neu Gymru yn ennill annibyniaeth, a dywedodd 39% o oedolion yn Lloegr y byddent yn teimlo’n siomedig pe bai’r Alban yn gadael yr undeb a dywedodd 40% yr un peth yn achos Cymru

· Ychydig o ymatebwyr ledled Prydain sydd o’r farn y bydd Cymru yn ennill annibyniaeth dros y deng mlynedd nesaf ond stori wahanol yw hi i’r Alban. Mae mwy o ymatebwyr yn Lloegr a’r Alban fel ei gilydd (47%) o’r farn y bydd yr Alban yn ennill annibyniaeth nag sydd o’r farn ei bod yn annhebygol (38% a 39% yn eu trefn).

· Wrth ystyried mater cryfder economaidd os bydd yr Alban a Chymru yn ennill annibyniaeth, ymddengys fod pobl Lloegr mewn hwyliau arbennig o ormesol. Er bod mwy o ymatebwyr yn yr Alban a Chymru yn dweud y byddai economi tair cenedl yn wannach – yn hytrach na’r rhai yn dweud y byddai’n gryfach – mae gan bobl Lloegr safbwynt gwahanol iawn. Er bod pobl Lloegr yn cytuno y bydd yr Alban a Chymru yn dioddef, mae mwy o Saeson o’r farn y bydd economi eu cenedl yn gryfach na’r rhai sydd o’r farn y bydd yn wannach.

Wrth sôn am ganfyddiadau’r arolwg, sylwodd yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethu Cymru: "Mae’r canfyddiadau hyn yn newyddion gwych i Lafur Cymru ac maent yn awgrymu eu bod ar y trywydd cywir i ennill cynnydd ar raddfa ysgubol yn yr etholiadau lleol yr wythnos hon. Beth bynnag fo’u problemau mewn mannau eraill ym Mhrydain, ac er gwaethaf cyfnod cythryblus dros y blynyddoedd diwethaf, mae Cymru yn cadw ei statws fel bastiwn o ran y Blaid Lafur."

Ychwanegodd yr Athro Roger Scully, "Mae rhai o ganfyddiadau mwyaf diddorol yr arolwg hwn yn ymwneud ag agweddau’r cyhoedd at refferenda mewn perthynas â datganoli yn y dyfodol. Mae’n amlwg bod y mwyafrif yn cefnogi’r syniad y dylai fod angen refferenda ar gyfer newidiadau etholiadol mawr, megis diddymu’r Frenhiniaeth, annibyniaeth i Gymru, neu hyd yn oed datganoli pob pŵer deddfu. Ond nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn cefnogi cynnal refferenda ar gyfer newidiadau llai o faint, gan gynnwys y rhai a fyddai’n rhoi rhywfaint o bwerau trethu i’r Cynulliad Cenedlaethol. Dylai’r rhai sy’n mynnu y byddai angen refferenda ar gyfer unrhyw gamau pellach o ran datganoli ystyried nad yw’r cyhoedd i’w weld yn cytuno â nhw."

Dywedodd Laurence Janta-Lipinski, YouGov, hefyd "Mewn llawer o ffyrdd, mae pobl Cymru yn cynnig llais cytbwys o ran y barnau mwyaf eithafol ar ddatganoli a fynegir yn yr Alban a Lloegr. Fodd bynnag, ymddengys fod cefnogaeth dros yr undeb yn gryf ledled Prydain, gan gyfyngu’r rhai sy’n cefnogi annibyniaeth i leiafswm brwd."

Yr Arolwg

Daw’r holl ffigurau, oni nodir yn wahanol, o YouGov Plc. Cyfanswm maint y sampl oedd 1,650 o oedolion o Loegr, 959 o oedolion o’r Alban a 1,039 o oedolion o Gymru. Gwnaed gwaith maes yn Lloegr rhwng 24 a 25 Ebrill, yn yr Alban rhwng 23 a 25 Ebrill ac yng Nghymru rhwng 12 a 16 Ebrill 2012. Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein. Mae’r ffigurau wedi’u pwysoli ac maent yn cynrychioli’r holl oedolion o Loegr, yr Alban a Chymru (18 oed neu’n hŷn).

Dolenni cysylltiedig:

Canolfan Llywodraethu Cymru