Skip to content
Skip to navigation menu

English

Cystadleurwydd y DU wedi ei ganolbwyntio fwyfwy yn Llundain

11 Tachwedd 2013

big ben1 web

Ers yr argyfwng ariannol, mae Dinas Llundain wedi dod yn ffynhonnell fwy pwysig o gystadleurwydd a thwf ar gyfer y dyfodol i economi Prydain yn gyffredinol.

Dyma un o ganfyddiadau adroddiad Mynegai Cystadleurwydd y DU 2013, a luniwyd gan yr Athro Robert Huggins o Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth y Brifysgol a Dr Piers Thompson o Brifysgol Nottingham Trent, sy’n meincnodi cystadleurwydd pob ardal awdurdod lleol ym Mhrydain.

Mae bwrdeistrefi Llundain yn cyfrif am y naw man mwyaf cystadleuol ym Mhrydain, gyda Dinas Llundain ar y blaen o gryn bellter, a San Steffan, Camden, a Southwark yn ei dilyn. Mae nifer o ddinasoedd mwyaf Lloegr - gan gynnwys Bryste, Leeds, Nottingham, Newcastle, Birmingham, a Lerpwl - wedi gweld eu sefyllfa yn gwella ers mynegai 2010, sy’n awgrymu dadeni trefol parhaus yn y dinasoedd craidd hyn.

Yn yr Alban, mae Glasgow hefyd wedi gwella o ran cystadleurwydd, ond yng Nghymru, mae Caerdydd wedi gweld gostyngiad o ran cystadleurwydd. Ymhlith y dinasoedd sydd wedi gwella eu sefyllfa, yr un fwyaf nodedig yw Manceinion, ac mae rhanbarth Gogledd Orllewin Lloegr yn gyffredinol yn dangos gwelliannau o ran cystadleurwydd.

Yn achos y gweinyddiaethau datganoledig, mae ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru a’r Alban ar y cyfan wedi methu dangos unrhyw gynnydd cyffredinol, ac maen nhw’n parhau i golli tir. Yr ardal leiaf cystadleuol ym Mhrydain yw Blaenau Gwent yng nghymoedd De Cymru, sydd wedi parhau i weld erydiad diddarfod o ran cystadleurwydd.

Blackpool yw’r ardal â’r safle isaf yn Lloegr; ac ardal arfordirol arall, sef Gosport yn Ne Ddwyrain Lloegr, sydd yn y safle ail isaf. Yn yr Alban, yr ardal â’r safle isaf yw Gogledd Swydd Ayr, sydd wedi gweld gostyngiad sylweddol o ran cystadleurwydd yn ystod y cyfnod.

Yn Lloegr, ardaloedd Partneriaethau Menter Lleol yn Ne Ddwyrain Lloegr Fwyaf yw’r ardaloedd mwyaf cystadleuol o bell ffordd, gydag ardal Partneriaeth Fenter Leol (PFL) Dyffryn Tafwys Berkshire ar y blaen, ac fe’i dilynir gan ardal PFL Llundain ac ardal PFL Menter yr M3 (sy’n cynnwys lleoliadau ger ac ar hyd traffordd yr M3). Ar waelod y rhestr o ardaloedd Partneriaethau Menter Lleol y mae economïau trefol rhannau mwy gogleddol Lloegr, a’r ardal leiaf cystadleuol yw ardal PFL Black Country, ac fe’i dilynir gan Ranbarth Dinas Lerpwl ac ardal PFL y Gogledd Ddwyrain.

Yn ôl yr Athro Huggins: "Mae’r mynegeion yn awgrymu anghysondebau economaidd parhaus ledled Prydain. Y duedd amlycaf yw’r crynodiad uwch yn Llundain o gystadleurwydd economaidd a chapasiti am dwf Prydain, yn enwedig y Ddinas. Yn ystod y cyfnod yn dilyn cyflwyniad asiantaethau datblygu rhanbarthol (ADRhau) yn Lloegr, roedd cystadleurwydd wedi dechrau lledaenu’n fwy cytbwys ar draws rhanbarthau penodol. Er y cafodd y Partneriaethau Menter Lleol eu cyflwyno gan y llywodraeth glymblaid i ddisodli ADRhau, nid oes ganddynt rym ariannol yr ADRhau, ac mae’n ymddangos nad ydynt wedi datblygu rhai o’r gwelliannau mewn capasiti a gallu economaidd rhanbarthol a oedd yn dechrau dod i’r amlwg cyn eu tranc.

"Y tu allan i Loegr, nid oes llawer i awgrymu bod y pwerau a sefydliadau economaidd a roddwyd i Gymru a’r Alban wedi galluogi eu hardaloedd lleol i gystadlu’n fwy effeithiol â’u cymheiriaid yn Lloegr. Mae hyn yn dangos y cyfyngiadau posibl ar sefydliadau gwleidyddol o ran hyrwyddo datblygiad economaidd mewn lleoedd heb lawer o allu i gystadlu mewn amgylchedd economaidd ôl-ddiwydiannol."

Daw’r adroddiad i’r casgliad, er bod asiantaethau’r llywodraeth a sefydliadau gwleidyddol datganoledig wedi rhoi’r cyfle i economi Prydain arallgyfeirio cystadleurwydd i ffwrdd rhag dibyniaeth ar y sector ariannol, ni achubwyd ar y cyfle hwn.

Mae’r adroddiad llawn ar gael yma.

Dolenni cysylltiedig

Yr Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth