Skip to content
Skip to navigation menu

English

Darlith wadd seren y Llewod, Dr Jamie Roberts

11 Tachwedd 2013

Jamie roberts web 2

Bydd arwr rygbi Cymru a chyn-fyfyriwr Caerdydd, Dr Jamie Roberts, yn dychwelyd i’r Brifysgol am y tro cyntaf ers graddio yn gynt eleni, i roi sgwrs ar gyfuno astudio â chwaraeon elit.

Ers llofnodi ar gyfer Racing Metro 92 ym mis Awst, mae seren Llewod Prydain ac Iwerddon wedi bod yn byw ym Mharis, ond bydd yn teithio adref wythnos nesaf i gynnig cipolwg a chyngor ar jyglo gradd mewn Meddygaeth gydag ymrwymiadau rygbi proffesiynol.

Graddiodd Jamie o Ysgol Feddygaeth Caerdydd gydag anrhydedd ym mis Gorffennaf, ar ôl jyglo gemau dirifedi ar gyfer ei gyn glwb, Gleision Caerdydd, Pencampwriaethau’r Chwe Gwlad, pencampwriaethau Cwpan y Byd a nifer fawr o deithiau rhyngwladol gyda thîm Cymru a thîm Llewod Prydain ac Iwerddon am wyth mlynedd, gydag efallai un o’r graddau anoddaf a mwyaf dwys y gallwch ei hastudio.

Bydd y sgwrs yn agored i bob myfyriwr presennol, ac fe’i cynhelir am 10am, dydd Mercher 13 Tachwedd 2013, yn Narlithfa 2, prif adeilad Ysbyty Athrofaol Cymru.

Dolenni defnyddiol

Yr Ysgol Feddygaeth

Arwr y Llewod, Jamie Roberts, yn graddio gydag anrhydedd feddygol