Skip to content
Skip to navigation menu

English

Datblygu brechlyn rhag anthracs

17 Medi 2012

Developing an anthrax vaccine

Mae tîm o wyddonwyr o’r Brifysgol yn arwain ymchwil newydd i ddatblygu brechlyn rhag anthracs i helpu i atal bygythiad biofrawychiaeth.

Gan gydweithio â gwyddonwyr o Weriniaeth Georgia, Twrci a’r Unol Daleithiau, mae’r Athro Les Baillie o’r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol yn arwain prosiect gan NATO i fynd i’r afael â’r posibilrwydd o gamddefnyddio anthracs.

"Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o boblogaeth y byd yn agored i gael eu heintio â Bacillus anthracis sef y bacteriwm sy’n achosi anthracs," yn ôl yr Athro Baillie, sy’n arwain yr ymchwil gydweithredol ryngwladol.

"Dangosodd yr ymosodiadau drwy’r post yn yr Unol Daleithiau yn 2001 fod poblogaethau sifil yn agored i niwed, gan danlinellu bod angen datblygu gwrthfesurau meddygol effeithiol, cyflym a chadarn i atal y bygythiad y bydd brawychwyr yn defnyddio’r organeb yma," meddai.

Y pryder cynyddol ynglŷn â bygythiad biofrawychiaeth sydd wedi arwain awdurdodau fel NATO drwy gyfrwng ei raglen Gwyddoniaeth dros Heddwch a Diogelwch i helpu ymdrechion i ddatblygu brechlynnau a gwrthfesurau meddygol mwy effeithiol.  

Mae’r ymdrechion hyd yn hyn wedi’u llyffetheirio gan y ffaith mai prin yw’r achosion o heintiad naturiol ymhlith pobl gwledydd NATO.  Oherwydd hynny, mae’r ymchwilwyr wedi’u gorfodi i ddefnyddio modelau anifeilaidd i ddatblygu brechlynnau newydd.

Y broblem yn y dull hwn yw bod ymatebion imiwn anifeiliaid a phobl yn wahanol, ac yn sgil hynny mae treialon clinigol mewn pobl yn elfen hanfodol er mwyn cadarnhau bod unrhyw frechlyn newydd yn effeithiol. 

Mae treialon o’r fath yn golygu bod angen rhai miloedd o wirfoddolwyr a fyddai’n agored i gael eu heintio, ac oherwydd hynny maen nhw bron yn amhosibl eu cynnal yng Ngorllewin Ewrop neu’r Unol Daleithiau.

Ar y llaw arall, mae anthracs yn glefyd arwyddocaol ymhlith anifeiliaid a phobl yn y Cawcasws a Chanol Asia. Gan hynny, mae ymchwilwyr o’r Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau wedi ymuno â chydweithwyr yn Nhwrci a chyn weriniaeth Sofietaidd Georgia  i fynd i’r afael â’r broblem.

Ychwanegodd yr Athro Baillie: "Mae’r adnoddau unigryw hyn, ar y cyd ag arbenigedd ymchwilwyr NATO, yn cynnig cyfle heb ei ail inni." 

Y disgwyl yw y bydd allbwn yr astudiaeth yn sail ar gyfer datblygu brechlynnau yn y dyfodol a fydd yn gallu rhoi amddiffyniad cadarn ar draws rhychwant eang, a hynny yn sgil dos bach iawn. 

Byddai brechlynnau o’r fath yn cael effaith ar ddwy lefel. Yn lleol fe fydden nhw’n gwella bywydau gweithwyr sydd mewn perygl o gael anthracs, fel ffermwyr, ac yn fyd-eang fe fydden nhw’n cyfrannu at amddiffyn dinasyddion rhag defnyddio anthracs fel cyfrwng mewn biofrawychiaeth. 

Un fantais ychwanegol yn sgil y gwaith yma fydd sefydlu canolfan ymchwil yn Georgia a fydd yn helpu ymchwil mewn clefydau heintus ac yn y pen draw yn gwella bywydau holl bobl y rhanbarth.

 

Dolenni perthynol

Yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol

NATO