Skip to content
Skip to navigation menu

English

Datganoli yw’r grym sy’n gyrru’r agenda ynni adnewyddadwy yn y DU

24 Ionawr 2013

wind turbine

Mae astudiaeth newydd yn dod i’r casgliad bod datganoli wedi chwarae rôl sylweddol o ran ehangu’r defnydd o ynni adnewyddadwy yn y DU, gyda’r Alban yn arwain y ffordd o ran defnyddio ynni adnewyddadwy, o flaen Gogledd Iwerddon a Chymru.

Dyma ganfyddiad prosiect ymchwil dwy flynedd a gyflawnwyd gan Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Queens Belfast, Prifysgol Robert Gordon a Phrifysgol Birmingham. Mae’r prosiect ar y cyd yn ceisio archwilio sut mae datganoli wedi effeithio ar ddatblygu technolegau ynni gwynt, tonnau, solar a biomas.

"Roedd lefel y gallu ynni adnewyddadwy ar waith cyn y datganoli ym 1998/1999 yn isel. Yn gyffredinol, mae’r gallu wedi ehangu’n sylweddol ers 2002-2003," meddai Dr Richard Cowell, Prif Ymchwilydd yr astudiaeth yn Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth Prifysgol Caerdydd.

"Gallwn bwyntio at amrywiaeth o weithrediadau gan y llywodraethau datganoledig - yn enwedig yr Alban - sydd wedi dangos cefnogaeth sylweddol i ynni adnewyddadwy yn y DU. Mae Llywodraeth yr Alban wedi arwain o ran defnyddio ei phwerau i roi mwy o gefnogaeth i dechnolegau pŵer tonnau a llanw, tra bod Gogledd Iwerddon wedi defnyddio eu pwerau - yn fwy na’r Alban - i hwyluso prosesau deunyddiau adnewyddadwy a biodanwydd bach.

Dywedodd Gweinidog Ynni'r Alban, Fergus Ewing,

"Mae’r adroddiad hwn yn tanlinellu pwysigrwydd yr hyblygrwydd sydd gan yr Alban dros bolisi ynni, a’r defnydd effeithiol a wnaed o’r hyblygrwydd hwnnw ers datganoli. Mae llywodraethau dilynol yr Alban wedi cymryd ymagweddau amlwg lle bo angen - mae’r rhain wedi adeiladu ar y manteision a gyflwynwyd gan ein hadnodd adnewyddadwy enfawr, a helpu’r Alban i sefydlu ei hun yn ganolfan ar gyfer buddsoddi  a dihareb ar gyfer technolegau adnewyddadwy newydd.

"Mae’r Alban wedi ennill y loteri naturiol ddwywaith. Y tro cyntaf gydag olew a nwy, a nawr gydag adnoddau ynni gwyrdd. Mae gennym botensial ynni gwyrdd syfrdanol ac adnoddau naturiol helaeth gydag oddeutu chwarter o ynni gwynt a llanw Ewrop, a 10% o’i bŵer tonnau. Mae ffermydd gwynt a mathau eraill o ynni gwyrdd glân yn creu cyfleoedd i gymunedau ledled yr Alban wella diogelwch ynni ac maent eisoes yn cyflwyno swyddi a buddsoddiad, ac mae Llywodraeth yr Alban yn benderfynol o sicrhau bod cymunedau ledled yr Alban yn elwa ar ynni adnewyddadwy."

I raddau llai, mae Cymru a Gogledd Iwerddon hefyd wedi helpu i hyrwyddo ynni adnewyddadwy. Mae defnydd Llywodraeth Cymru o rannu’n barthau yn strategol wedi helpu i ddenu mwy o ddiddordeb mewn datblygiadau gwynt ar y tir nag y gellid ei ddisgwyl mewn rhanbarth tebyg yn Lloegr. Ond mae crynhoad y datblygiadau hyn wedi sbarduno gwrthwynebiad ymhlith y cyhoedd a gwrthdaro gwleidyddol. Nodwedd allweddol y datganoli yw bod gan y llywodraethau datganoledig setiau gwahanol o bwerau sy’n berthnasol i gyflwyno datblygu ynni adnewyddadwy, gyda Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn meddu ar y mwyafrif o’r pwerau a Llywodraeth Cymru’n meddu ar y lleiafrif.

Darllenwch yr adroddiad llawn yma: http://www.caerdydd.ac.uk/cplan/research/delivering-renewable-energy/dissemination-and-user-engagement

Dolenni:

Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth Caerdydd