Skip to content
Skip to navigation menu

English

Darganfod y Gaerdydd Geltaidd

02 Ebrill 2012

Discovering Celtic Cardiff image 2 webY fryngaer o’r Oes Haearn yn ardal Trelái a Chaerau yng Nghaerdydd

Mae bryngaer sydd heb ei harchwilio o’r Oes Haearn sydd heb ei harchwilio yn ardal Trelái a Chaerau yng Nghaerdydd wedi dod â phlant ysgol ac aelodau’r gymuned leol at ei gilydd er mwyn canfod mwy am ei hanes.

Nod Prosiect Treftadaeth CAER, dan arweiniad Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd y Brifysgol, yw cynnwys cymuned Trelái a Chaerau mewn cloddio ac archwilio’r fryngaer i gael darlun manwl o hanes yr ardal hon.

Mae’r fryngaer sydd wedi’i lleol o fewn ystadau tai lleol, yn un o’r bryngaerau mwyaf o faint a mwyaf trawiadol yn ne-ddwyrain Cymru ac ar un adeg, roedd yn gadarnle pwerus y llwyth Silwraidd o’r Oes Haearn, a oedd yn byw yn y rhan hon o Gymru cyn i’r Rhufeiniaid gyrraedd. Heddiw, mae’r rhagfuriau wedi’u cuddio o dan goed, ond mae hen eglwys y plwyf, Eglwys y Santes Fair, a chylchfa fach, safle castell canoloesol fwy na thebyg, yn sefyll o fewn y fryngaer ar yr ochr ogledd-ddwyreiniol.

Treuliodd 90 o blant o dair ysgol leol a oedd yn cymryd rhan – Fitzalan, Mary Immaculate High a Glyn Derw – wythnos ar y safle’n cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau o weithdai crochenwaith o’r Oes Haearn i gelf eco-graffiti â thema archaeoleg a dadansoddi arteffactau. Gwnaethant gynnal ymchwil archaeoleg gredadwy hefyd drwy gynnal arolygon geoffisegol o’r safle.

Discovering Celtic Cardiff image 3 webDisgyblion ysgol yn dysgu sut i ddefnyddio offer arolygu geoffisegol

Ymunodd dros 150 o aelodau o’r gymuned leol a ddaeth i weld y fryngaer â nhw i helpu gyda’r gweithgareddau archaeolegol a rhannu straeon am y safle.

Mae’r prosiect, sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, yn cael ei gydlynu ar y cyd gan Dr Oliver Davis a Dr Dave Wyatt o’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.

Dywedodd Dr Davis: "Bydd Prosiect Treftadaeth CAER yn helpu pobl Caerau a Threlái i gysylltu’r gorffennol a’r presennol, gan wneud treftadaeth y rhanbarth yn berthnasol ac yn bwysig i gymunedau cyfoes. Gobeithiwn y bydd y prosiect yn creu ymdeimlad cynyddol o le i bobl yr ardaloedd hyn yn ogystal â datblygu cyfleoedd addysgol a herio rhai ystrydebau di-sail sy’n cael eu priodoli i’r rhan hon o Gaerdydd, yn aml."

Ychwanegodd Dr Wyatt: "O’r dechrau, mae ysgolion lleol a chymunedau wedi bod ynghlwm wrth y prosiect ac maent yn helpu i ateb cwestiynau ymchwil pwysig am y fryngaer hon, sy’n hynod arwyddocaol, ond nid oes ymchwil ddigonol wedi’i chynnal mewn perthynas â hi. Drwy eu gwaith, bydd bryngaer Caerau yn adnodd lleol a chenedlaethol gwerthfawr ar gyfer gweithgareddau hamdden a dysgu."

Ar ôl treulio eu hamser yn y fryngaer, bydd disgyblion Fitzalan, Mary Immaculate High a Glyn Derw yn creu arddangosfa o’u gwaith a’u canfyddiadau, a gaiff ei harddangos yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ac Amgueddfa Stori Caerdydd yn yr haf.

Dolenni cysylltiedig:

Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd