Skip to content
Skip to navigation menu

English

Gallai darganfyddiad wella bywydau babanod cynamserol

15 Rhagfyr 2008

Mae astudiaeth gydweithredol sy’n cynnwys tîm o ymchwilwyr yn Ysgol y Biowyddorau a thîm yn Sefydliad Ymchwil Saban yn Ysbyty’r Plant Los Angeles wedi nodi llwybr newydd posibl ar gyfer addasu datblygiad yr ysgyfaint yn yr embryo a allai helpu gwella’r canlyniad ar gyfer babanod cynamserol iawn.

Mae’r astudiaeth sy’n cael ei hariannu gan y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) ac wedi’i chyhoeddi yn y Journal of Physiology, wedi darganfod cyfranogwr allweddol yn natblygiad cynnar yr ysgyfaint, sy’n darged posibl ar gyfer trin babanod cynamserol iawn y mae eu hysgyfaint yn fach a heb aeddfedu.

Gwnaed y gwaith yn labordai Dr Daniela Riccardi a’r Athro Paul Kemp, Ysgol y Biowyddorau mewn cydweithrediad â’r Athro David Warburton yn Sefydliad Ymchwil Saban, Ysbyty’r Plant, Los Angeles.

Dywedodd Dr. Riccardi: "O fewn munudau i gael ei eni, mae baban yn dibynnu’n llwyr ar ei ysgyfaint i gael yr ocsigen sydd ei angen arno. Un o’r rhesymau pam mae bywydau babanod cynamserol iawn mewn perygl enbyd yw’r ffaith fod cyfnodau terfynol datblygiad yr ysgyfaint yn digwydd yn hwyr iawn mewn beichiogrwydd, ac felly mae babanod cynamserol yn cael eu geni gydag ysgyfaint anaeddfed sy’n ei chael yn anodd cymryd digon o ocsigen i mewn.

"Dydy ysgyfaint sydd heb ddatblygu digon yn amsugno digon o ocsigen ac mae babanod cynamserol sydd â phroblemau anadlu yn aml yn datblygu afiechyd cronig yr ysgyfaint a allai barhau nes eu bod yn oedolion. Trwy ein hymchwil, rydym wedi dod i ddeall yn well sut mae ysgyfaint yn datblygu’n normal, ac felly gallwn ni ddechrau dod i wybod beth sy’n digwydd pan fydd pethau’n mynd o’i le, er enghraifft, pan fydd baban yn cael ei eni’n llawer rhy gynnar. O’r gwaith rydym wedi’i gyhoeddi heddiw, mae’n bosibl iawn y gallwn ni ddod o hyd i gyffuriau newydd yn gyflym ar gyfer helpu’r babanod cynamserol iawn hyn."

Gyda’u cymdeithion ymchwil yn yr Ysgol, mae Dr Brenda Finney a Dr William Wilkinson, Dr Riccardi a’r Athro Kemp wedi darganfod bod molecwl o’r enw CaR (derbynnydd calsiwm) yn ffactor hanfodol wrth reoli datblygiad yr ysgyfaint yn y groth. Mae CaR yn cyd-drefnu negeseuon oddi mewn i’r ffoetws sy’n tyfu sy’n dweud wrth yr ysgyfaint i ddatblygu miloedd o sianelau a phocedi aer bach. Y strwythur cymhleth hwn fydd yn y pen draw yn galluogi ocsigen i symud o’r aer i lif gwaed y baban.

Dywedodd yr Athro Kemp: "Yr hyn sydd wir yn gyffrous am CaR yw’r ffaith fod cyffuriau ar gael eisoes sy’n gallu newid ei swyddogaeth, ac felly, gallai addasu datblygiad yr ysgyfaint. Rydym yn gwybod bod CaR yn gweithio trwy synhwyro calsiwm ac rydym hefyd yn gwybod bod cyffuriau ar gael eisoes sydd wedi’u dylunio i reoleiddio sut caiff calsiwm ei ddefnyddio yn y corff. Os gallwn ni ddangos y gall un o’r cyffuriau hyn addasu gweithred CaR yn yr ysgyfaint, gellid ei ddefnyddio i aeddfedu ysgyfaint babi cynamserol iawn wrth iddo dyfu. Yn well byth, gellid cymeradwyo cyffur sy’n bodoli eisoes yn llawer cyflymach o bosibl na chyffur newydd."

Dywedodd yr Athro Janet Allen, Cyfarwyddwr Ymchwil BBSRC: "Mae’n gyffrous gweld bod gan ymchwil a ariennir gan BBSRC y potensial i wella bywydau miloedd o fabanod cynamserol iawn. Mae’r gwyddonwyr hyn wedi dangos trwy holi cwestiynau yn gyntaf am broses fiolegol sylfaenol, y gellir cynnig mwy o bosibiliadau wedyn ar gyfer deall a thrin afiechyd dynol dinistriol. Mae hyn yn dangos gwerth ymchwil sylfaenol mewn bioleg ar gyfer cyflawni effaith go iawn i fywyd."

Tags