Skip to content Skip to navigation menu
14 Awst 2009
Mae astudiaeth a gynhaliwyd gan fyfyriwr o Gaerdydd ym Mharc Amgylcheddol Sw Paignton wedi helpu i ddod â datgeliadau newydd i’r amlwg ynglŷn â’r ffordd y mae adar yn meddwl. Treuliodd Helen Gath, sef myfyriwr sŵoleg yn Ysgol y Biowyddorau, flwyddyn ar leoliad ymchwil gydag Adran Cadwraeth ac Ymchwil Maes Ymddiriedolaeth Cadwraeth Bywyd Gwyllt Whitley, sydd wedi’i lleoli yn Sw Paignton yn Nyfnaint. Bu’n cynnal astudiaeth ar wybyddiaeth a dysgu gweledol ymhlith adar.
Gweithiodd Helen gydag un pâr o gornylfinod y llawr Abysinaidd ac un pâr o gornylfinod Von der Decken, gan ddefnyddio blwch procio pren a oedd yn cynnwys cyfres o adrannau gyda chloriau papur iddynt. Ar y cloriau roedd symbolau amrywiol o ran lliw, siâp a phatrwm. Dysgodd yr adar i gysylltu cyfuniad penodol o’r rhain â gwobr o gynrhonyn y blawd, gan brocio’u pigau drwy’r papur i ddod o hyd i’w danteithfwyd, Trwy ddefnyddio cyfuniadau gwahanol, llwyddodd Helen i ddarganfod sut roedd yr adar yn gwneud eu dewisiadau.
Dywedodd Phil Knowling, llefarydd ar ran Sw Paignton: "Mae anifeiliaid yn dibynnu ar wahaniaethu er mwyn goroesi - mae angen iddynt adnabod cymheiriaid, ysglyfaethwyr a bwyd. Mae’n rhaid iddynt ddewis o blith llawer iawn o wybodaeth yn eu hamgylchedd. I wneud hyn, maen nhw’n defnyddio strategaeth ar gyfer didoli. Mae anifeiliaid yn didoli naill ai mewn modd amlddimensiynol - gan ddefnyddio mwy nag un newidyn - neu mewn modd un dimensiwn - gan ddefnyddio un newidyn yn unig."
Mae’r canlyniadau’n awgrymu bod cornylfinod yn tueddu i ddidoli yn ôl un newidyn – lliw. Pan roedd y siapiau a’r patrymau’n wahanol, dewisodd yr adar symbolau a oedd yr un lliw â’r symbolau a oedd yn rhoi danteithfwyd iddynt. Dyma’r dechneg y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei defnyddio. Mae colomennod a gwiwerod yn dewis mewn ffordd amlddimensiynol ond mae pobl yn fwy tebygol o wneud dewisiadau un dimensiwn.
Dywedodd swyddog ymchwil y sw, Kirsten Pullen, a oruchwyliodd waith Helen, "Mae hyn yn gam pwysig ymlaen. Ni chafodd y broses feddyliol ei phrofi erioed o’r blaen ymhlith cornylfinod ac mae’n gwella ein dealltwriaeth o’r adar arbennig hyn. Mae’n rhaid i ni ail-wneud yr arbrawf gyda chornylfinod eraill i weld a fyddan nhw’n dangos yr un canlyniadau."
First science star for Wales announced 17/06/2013
Study reveals disease-causing parasites in dead otters 17/06/2013
Lansiwyd hwb cymunedol iaith Gymraeg 17/06/2013
Vice Chancellor to co-chair strategic forum for university and business leaders 13/06/2013
This is an externally hosted beta service offered by Google.