Skip to content
Skip to navigation menu

English

Newidiadau sylweddol yng nghylchrediadau’r môr

14 Ionawr 2011

Cregyn o fath o fforaminifferau a ddefnyddiwyd yn yr astudiaethCregyn o fath o fforaminifferau a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth

Mae tywydd anarferol oer y gaeaf hwn wedi’i achosi gan newid yn y gwyntoedd. Yn lle’r gwyntoedd gorllewin nodweddiadol a gynhesir gan ffrydiau wyneb yr Iwerydd, mae gwyntoedd oer gogleddol yr Arctig yn dylanwadu ar lawer o Ewrop.

Fodd bynnag, mae gwyddonwyr wedi amau ers cryn amser mai’r newid yng nghylchrediadau ffrydiau cynnes yr Iwerydd ei hun sy’n gyfrifol am y cyfnodau oer llawer mwy garw a hirach.

Erbyn hyn, mae ymchwil newydd, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd gan gynnwys gwyddonwyr y DU a’r UD, wedi dangos bod y newidiadau hyn yng nghylchrediadau’r môr wedi bod yn fwy sylweddol na’r hyn a dybiwyd yn wreiddiol.

Mae’r canfyddiadau, a gyhoeddwyd (ar 14 Ionawr) yng nghylchgrawn Science, yn dangos bod ffurfiant dŵr dwfn yng ngogledd-ddwyrain yr Iwerydd yn troi ymlaen ac yn troi i ffwrdd dro ar ôl tro wrth i’r Oes Iâ olaf ddod i ben (10,000 - 20,000 mlynedd yn ôl). Perodd hyn i’r hinsawdd gynhesu ac oeri am ganrifoedd ar y tro.

Ymchwilwyr yn archwilio creiddiau gwaddodion o waelod y môrYmchwilwyr yn archwilio creiddiau gwaddodion o waelod y môr

Mae cylchrediad môr y byd yn cynorthwyo i reoleiddio’r hinsawdd fyd-eang. Un o’r ffyrdd y mae’n gwneud hyn yw drwy gludo gwres sy’n cael ei gario gan ffrydiau enfawr y môr i greu ‘cludydd mawr y môr’. Yr elfen allweddol i’r cludydd hwn yw bod y dŵr yng ngogledd-ddwyrain yr Iwerydd yn suddo. Mae’r broses hon yn peri i ddŵr trofannol cynnes lifo i’r gogledd i gymryd lle’r dŵr sy’n suddo. Mae’r cylchrediad hwn yn cadw Ewrop yn gynhesach, felly byddai gostyngiad sylweddol yn y gyfradd y mae dŵr dwfn yn ffurfio yn gallu achosi oeri cyffredinol o hyd at 10 gradd Celsius.

Eglurodd yr awdurdod blaenllaw Dr David Thornalley, Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr yng Nghaerdydd sut yr astudiodd gwyddonwyr y newidiadau yng nghylchrediad môr: "Daethom o hyd i greiddiau gwaddodion o waelod gogledd-ddwyrain yr Iwerydd oedd yn cynnwys cregyn o organebau bychain. Aethom ati i ddefnyddio’r cregyn hyn i astudio sut roedd radiocarbon wedi’i ledaenu yn y môr. Mae radiocarbon yn ffurf ymbelydrol o garbon sy’n gweithredu fel dyfais naturiol sy’n amseru ers faint y mae’r dŵr wedi bod ar wyneb y môr. Mae hyn yn ein galluogi i weld pa mor gyflym yr oedd dŵr yn ffurfio yng ngogledd-ddwyrain yr Iwerydd ar wahanol adegau yn y gorffennol."

Gwelodd y tîm o wyddonwyr nad oedd gogledd-ddwyrain yr Iwerydd yn cael ei lenwi gyda dŵr a suddodd yn lleol bob tro y mae’r dŵr dwfn yn rhoi’r gorau i ffurfio. Yn hytrach, mae’n cael ei lenwi gyda dŵr a ffurfiwyd yn wreiddiol ger yr Antarctig ac yna’n lledaenu’n gyflym tua’r gogledd. Mae’r canlyniadau newydd yn awgrymu bod yr Iwerydd yn gallu gweddnewid y ffordd y mae’n cylchredeg, a hynny dros gyfnodau mor fyr â degawdau.

Meddai Dr Thornalley: "Mae’r darganfyddiadau hyn yn dangos sut gall cylchrediad y môr fod mor ddeinamig a chyfnewidiol. Er bod cylchrediad y môr ar hyn o bryd yn llawer mwy sefydlog nag ydoedd ar ddiwedd yr Oes Iâ diwethaf yn ôl pob tebyg, ac felly’n llawer llai tebygol o weld newidiadau mor sylweddol, mae’n bwysig ein bod yn meithrin ein dealltwriaeth o’r system hinsawdd a sut mae’n ymateb pan mae rhywbeth yn newid."

Ariennir yr ymchwil drwy raglen Newid Hinsoddol Cyflym y Cyngor Ymchwil Amgylcheddol Naturiol a’r Sefydliad Gwyddonol Cenedlaethol (UDA). Gallwch ddarllen erthygl The Deglacial Evolution of North Atlantic Deep Convection yng nghylchgrawn Science ar-lein yn: http://www.sciencemag.org/journals

Dolenni cysylltiedig

Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr

Your computer cannot play the audio in your browser. To fix this, you need to make sure both Javascript and Adobe Flash are available.

Get the Adobe Flash plug-in by clicking here

To find out how to enable JavaScript, check the Help option for your browser.


Cardiff University campus users

If you are on the Cardiff University campus and have problems with plug-ins or browsers, you can contact the INSRV Helpdesk on extension 74487 or visit the INSRV webpages


Listen to Dr Thornalley talk about the research