Skip to content
Skip to navigation menu

English

‘Rhwydweithiau cymdeithasol parhaus a swyddi gwell’

04 Hydref 2013

Student exam results web

Mae buddiolwyr y cynllun cymorth lleoedd, a ddarparodd addysg prawf modd mewn ysgolion annibynnol ar gyfer pobl ifanc o gartrefi llai breintiedig tan 1997, yn parhau i fedi buddion eu haddysg breifat, yn ôl astudiaeth newydd ar gyfer Ymddiriedolaeth Sutton gan ymchwilwyr prifysgol.  

Yr ymchwil gan yr Athro Sally Power, yr Athro Geoff Whitty a Dr Stuart Sims yn Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) y Brifysgol yw’r diweddaraf mewn cyfres o adroddiadau sy’n olrhain myfyrwyr y Cynllun Cymorth Lleoedd ers 1982. 

Yn ogystal ag ennill cymwysterau a swyddi da, mae’n dangos bod y deiliaid Cymorth Lleoedd yn teimlo bod eu hysgolion wedi’u helpu i ddatblygu priodweddau personol cryf, fel hunanddisgyblaeth a hunanddibyniaeth, yn ogystal â rhwydweithiau cymdeithasol parhaus.

Dywedodd Syr Peter Lampl, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Sutton, fod canlyniadau’r ymchwil newydd hon yn atgyfnerthu achos yr Ymddiriedolaeth dros Gynllun Mynediad Agored a fyddai’n darparu mynediad heb ystyried sefyllfa ariannol i ysgolion dydd annibynnol blaenllaw, a fyddai’n galluogi plant galluog o deuluoedd incwm isel a chanolig i fynychu’r ysgolion hynny yn seiliedig ar allu yn hytrach na’r gallu i dalu.

Canfu arolygon cynharach o’r grŵp hwn, a oedd yn cymharu perfformiad plant o allu uchel tebyg a chefndiroedd llai breintiedig tebyg a oedd yn mynychu ysgolion cyhoeddus, gyda’r rheiny a oedd wedi cael cymorth lle mewn ysgol annibynnol, fod deiliaid Cymorth Lle yn ennill cymwysterau gwell ac yn mynd i brifysgolion mwy mawreddog na’r rheiny a fynychodd ysgolion cyfun.

Mae’r arolwg newydd yn awgrymu bod Deiliaid Cymorth Lleoedd, sydd bellach yn eu pedwardegau, yn parhau i fedi buddion eu haddysg annibynnol. Mae bron pob un wedi parhau i ennill dyrchafiadau mewn galwedigaethau proffesiynol a rheoli â chyflog da. Mae dros 40% ohonynt yn ennill mwy na £90,000 y flwyddyn, a dywedodd dros ddwy ran o dair ohonynt nad oedd yr argyfwng economaidd wedi cael effaith ar eu safon byw. Disgwylir i dri chwarter yr ymatebwyr fod mewn sefyllfa hyd yn oed yn well mewn deng mlynedd.

Mae hyd yn oed y rheiny na aethant i brifysgol mewn galwedigaethau dosbarth canol cadarn gydag incwm da, efallai’n elwa o ‘bremiwm ysgol breifat’. Adroddodd yr ymatebwyr foddhad a diogelwch yn eu swyddi, a gwnaethant barhau i wneud yn dda, hyd yn oed yn ystod y dirywiad economaidd diweddar. Rhagwelodd cyfran sylweddol y byddent yn gallu ymddeol yn gynnar.

Dywedodd yr ymatebwyr fod eu hysgolion annibynnol wedi’u helpu nhw i ddatblygu priodweddau personol, fel hunanddisgyblaeth a hunanddibyniaeth. Cyfrannodd eu hysgolion hefyd at ddatblygu rhwydweithiau cymdeithasol parhaus. Er bod cysylltiadau teuluol yn parhau’n gryf, mae’r deiliaid Cymorth Lleoedd yn rhan o gylchoedd o ffrindiau â chymwysterau da, ac roedd cyfran gymharol uchel wedi priodi partneriaid a oedd wedi cael addysg breifat.

Mae gan dri chwarter o’r ymatebwyr blant erbyn hyn. O’r rheiny â phlant oedran ysgol, roedd bron hanner ohonynt wedi dewis ysgolion preifat ar gyfer eu plant.

Dywedodd Syr Peter Lampl, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Sutton: "Ystyriodd yr ymchwil wreiddiol ddau grŵp o blant a oedd yn cymhwyso ar gyfer cymorth lleoedd a chanddynt allu a chefndir teuluol tebyg iawn. Derbyniodd rhai ohonynt y cymorth lle a mynd i ysgol annibynnol, ac aeth y gweddill i ysgolion cyhoeddus. Cyflawnodd y rheiny a aeth i ysgolion annibynnol ganlyniadau llawer yn well yn eu TGAU a Safon Uwch, a chael mynediad at brifysgolion gwell ac ennill swyddi sy’n talu cyflog uwch, na’r rheiny a aeth i ysgolion cyhoeddus.

"Mae’r ymchwil newydd hon gyda’r Grŵp Cymorth Lleoedd yn cadarnhau i ba raddau y mae plant galluog o gartrefi llai breintiedig yn elwa ar addysg ysgol annibynnol. Mae’n dangos pwysigrwydd sicrhau nad yw mynediad at yr ysgolion dydd annibynnol gorau yn gyfyngedig i’r rheiny sy’n gallu fforddio talu ffioedd llawn.

"Fodd bynnag, roedd y Cynllun Cymorth Lleoedd yn rhy gyfyngedig o ran ei gyrhaeddiad. Oherwydd nifer fach y cymorth lleoedd ym mhob ysgol, arweiniodd at nifer o fyfyrwyr yn teimlo allan o le yn gymdeithasol. Mae model llawer gwell yn y Cynllun Mynediad Agored, lle mae lleoedd yn seiliedig ar deilyngdod yn unig, a dreialwyd yn llwyddiannus iawn gan Ymddiriedolaeth Sutton ac Ymddiriedolaeth Ysgolion Dydd y Merched, yn Ysgol Belvedere yn Lerpwl rhwng 2000 a 2007.

"O dan Mynediad Agored, byddai pob lle mewn ysgolion dydd annibynnol ymglymedig ar gael yn seiliedig ar deilyngdod yn unig, gyda rhieni’n talu ffioedd ar raddfa symudol yn ôl incwm. Byddai hyn yn gwneud cyfraniad mawr i symudedd cymdeithasol trwy wneud ysgolion dydd annibynnol yn agored i bob unigolyn ifanc a’u galluogi, nid yn unig i ffynnu’n academaidd, ond hefyd, ennill y sgiliau cymdeithasol a chael mynediad at y rhwydweithiau sy’n hanfodol i lwyddiant."

Dywedodd yr Athro Sally Power, awdur yr adroddiad: "Mae’r dibwysigrwydd cymharol y mae deiliaid cymorth lle yn ei osod ar ffactorau fel lwc a chefndir cymdeithasol yn awgrymu, ar gyfer yr unigolion hynny, bod y cynllun wedi lleddfu effaith yr anfantais gymdeithasol economaidd. Mae hyd yn oed y rheiny na aethant i brifysgol mewn galwedigaethau dosbarth canol cadarn gydag incwm da. Mae hyn yn awgrymu eu bod nhw wedi elwa ar bremiwm ysgolion preifat yn fwy na’r hyn sy’n gysylltiedig â chyrhaeddiad addysgol."

Dolenni cysylltiedig

Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru