Skip to content
Skip to navigation menu

English

Ehangu ein darpariaeth yn y Gymraeg

26 Hydref 2011

Welsh flag Web

Mae tri phenodiad newydd wedi ehangu darpariaeth addysg Gymraeg y Brifysgol ymhellach.

Mae Alex Llywelyn (y Gyfraith), Dr Matthew Pugh (Mathemateg) a Dr Martin Wright (Hanes) wedi’u penodi’n ddarlithwyr Cymraeg.

Ariennir swydd Alex drwy Gynllun Staffio Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n ceisio ehangu darpariaeth yn y Gymraeg ym maes y Gyfraith. Mae’n ymuno â’r Brifysgol ar ôl treulio’i gyrfa’n gyfreithiwr yn Llywodraeth Cymru. Cyn hynny, bu hefyd yn gweithio ar brosiect a ariannwyd gan y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg.

Meddai: "Mae’n fraint cael bod yn rhan o dîm newydd a’r datblygiadau cyffrous yn Ysgol y Gyfraith. Eleni, mae pymtheg o fyfyrwyr yr ysgol wedi cael Ysgoloriaethau Cymhelliant gan y Coleg Cymraeg a bydd mwy o fyfyrwyr yn astudio rhannau o’r cwrs yn Gymraeg yn sgil hynny. Pleser o’r mwyaf yw bod yng nghanol y gweithgaredd hwn ac edrychaf ymlaen at ddechrau a chroesawu’r myfyrwyr newydd."

Ychwanegodd Nigel Lowe, Pennaeth Ysgol y Gyfraith: "Mae’r ddarpariaeth yn y Gymraeg wedi datblygu a chynyddu’n sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae penodi Alex yn cryfhau’r seiliau cadarn sydd eisoes wedi’u sefydlu. Bydd yn ymuno â thîm egnïol sy’n cynnwys Manon George, aelod arall o staff Ysgol y Gyfraith a benodwyd yn wreiddiol gyda nawdd y Coleg Cymraeg, Kathy Griffiths, myfyriwr PhD a noddir gan y Coleg Cymraeg, Richard James, a’r Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru.

"Mae ymateb y myfyrwyr sydd wedi manteisio ar y datblygiadau cyffrous hyn wedi bod yn gadarnhaol dros ben ac mae’r niferoedd yn cynyddu bob blwyddyn. Mae’n gyfnod cyffrous i addysg uwch Gymraeg ac mae’r Ysgol a’r Brifysgol yn falch o fod yn chwarae eu rhan."

Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: "Rydw i’n croesawu’r penodiad hwn yn gynnes ac edrychaf ymlaen at weld twf yn narpariaeth y Gymraeg yn y maes hwn. Mae galw cynyddol am gyfreithwyr sy’n gallu trin a thrafod materion cyfreithiol yn Gymraeg a’n tasg ni yw cynyddu’r ddarpariaeth sydd ar gael yn ein prifysgolion i fodloni’r galw hwn.

"Mae defnyddio’r Gymraeg yn elfen gynyddol gyffredin yn y llysoedd ac mae’n haws i bawb wneud hynny. Hefyd, o ganlyniad i ddatganoli, mae gan gyfreithwyr ifanc yng Nghymru gyfleoedd dirifedi i chwarae rôl bwysig wrth i ddeddfau newydd gael eu creu. O ystyried hyn, mae buddsoddiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y maes hwn yn bwysig dros ben."

Mae Dr Pugh wedi’i benodi yn yr Ysgol Fathemateg yn rhan o Gynllun Datblygu Mathemateg a Ffiseg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Gweithredir y cynllun ar y cyd â Phrifysgolion Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd gyda’r bwriad o gynyddu darpariaeth yn y Gymraeg yn y maes arbenigol hwn.

Ychwanegodd Dr Matthews o’r Coleg Cymraeg: "Heb os nac oni bai, mae cyfle gwirioneddol i gynyddu darpariaeth yn y Gymraeg, yn enwedig gan fod ffigurau CBAC yn dangos bod 11% o fyfyrwyr Mathemateg Lefel Uwch yng Nghymru ac 8% o fyfyrwyr Ffiseg Lefel Uwch yn astudio’r pwnc yn Gymraeg.

"Mae cofrestriadau ym Mhrifysgolion Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd hefyd yn cadarnhau’r cyfle hwn; cofrestrodd oddeutu 150 o fyfyrwyr Cymraeg y llynedd ar raglenni oedd yn gysylltiedig â’r ddau bwnc ar draws y tri sefydliad. Felly, mae’n hanfodol bod y Coleg Cymraeg yn buddsoddi yn y pynciau hyn wrth i ni ystyried y dyfodol."

Dechreuodd Dr Mathew Pugh ei yrfa academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd ac ers cwblhau ei ddoethuriaeth yn gynharach eleni, mae wedi bod yn rheoli Rhwydwaith Hyfforddiant Ymchwil Marie Curie yr Ysgol.

Meddai Dr Pugh: "Mae’n bleser gennyf fod yn rhan o’r datblygiadau cyffrous hyn ac i allu rhoi’r cyfle i fyfyrwyr gael eu haddysgu yn eu hiaith ddewisol. Rydw i hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â phrifysgolion eraill yng Nghymru i gynyddu a datblygu’r ddarpariaeth sydd ar gael yn y maes hwn ar hyn o bryd. Rydw i hefyd yn awyddus i barhau â fy ngwaith ymchwil ac rydw i’n falch iawn o fod wedi cael y cyfle i wneud hynny.

Am y tro cyntaf erioed, bydd Ysgol Fathemateg Caerdydd yn gallu rhoi tiwtorialau yn Gymraeg ac mae hyn yn gam pwysig ymlaen."

Daeth Martin Wright, sydd o Swydd Northampton yn wreiddiol, i Gymru i astudio Hanes yn Llambed yn y 1980au ac mae wedi byw yma ers hynny. Dysgodd Gymraeg fel oedolyn a bu’n diwtor, yn weinyddwr ac yn rheolwr addysg i oedolion yn Aberystwyth, cyn dychwelyd i fod yn fyfyriwr PhD amser llawn yng Nghaerdydd yn 2007.

Cynorthwywyd astudiaeth PhD Martin gan y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg (rhagflaenydd y Coleg Cenedlaethol), ac mae’n canolbwyntio ar y mudiad sosialaidd a llafur yng Nghymru yn y cyfnod cyn y Rhyfel Mawr. Meddai: "Mae ymchwilio i hanes Cymru a’i addysgu yn waith cyfareddol a chyffrous. Mae bod yn rhan o’r cynllun hanesyddol hwn i ehangu dysgu ac addysgu yn y Gymraeg mewn prifysgolion yng Nghymru yn fraint ac yn anrhydedd."

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Cynllun Staffio Academaidd 2012/13 yw Rhagfyr 5ed. Os oes gennych ddiddordeb mewn ceisio am un o'r swyddi academaidd wedi eu cyllido gan y Coleg, yna cysylltwch ag Elliw Iwan ar iwaneh@caerdydd.ac.uk ar fyrder.

Newyddion Diweddaraf Staff News