Skip to content
Skip to navigation menu

English

Archwilio’r Bydysawd cynnar

18 Medi 2009

First images from the Planck Telescope

Mae cyrch Ewropeaidd i’r gofod, sy’n defnyddio offer uwch-dechnoleg a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Caerdydd i ddatgloi cyfrinachau’r Bydysawd, wedi anfon ei ddelweddau cyntaf yn ôl o’r gofod.

Mae arsyllfa ofod Planck, sef cyrch yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd i astudio’r Bydysawd cynnar, wedi cwblhau ei harolwg prawf cychwynnol o’r awyr. Mae’r llwyddiant hwn yn cadarnhau bod yr offerynnau gwyddonol a’r system oeri soffistigedig, y chwaraeodd Prifysgol Caerdydd rôl allweddol yn eu hadeiladu, yn gweithio’n dda.

Yn dilyn yr arolwg llwyddiannus, mae Planck wedi cychwyn ar ei gyrch 15 mis erbyn hyn i fapio strwythur pelydriad Cefndir Microdon Cosmig (CMC) – y pelydriad crair o’r Glec Fawr.

Mae’r arolwg ‘golau cyntaf’ wedi cynhyrchu mapiau o stribed o’r awyr, un ar gyfer pob un o naw band tonfedd Planck. Gellir gweld arwyneb ein galaeth ein hunain, y Llwybr Llaethog, yn rhedeg ar draws canol y ddelwedd, ac mae i’w weld yn nata Planck fel yr ardaloedd coch llachar. I ffwrdd o’r arwyneb, gall y toniannau bach yn y Cefndir Microdon Cosmig ddisgleirio drwodd, a’r rhain yw prif darged cyrch Planck.

Mae nodweddion y toniannau bach yn y Cefndir Microdon Cosmig yn darparu gwybodaeth am eiliadau cynharaf bodolaeth y Bydysawd, a sut yr esblygodd i’r Bydysawd y gwelwn ni heddiw. Mae Planck yn edrych gydag eglurder manylach a mwy o sensitifrwydd na lloerennau blaenorol, a bydd yn galluogi cyfrifo manylion oed a chyfansoddiad y Bydysawd yn fwy manwl gywir nag erioed o’r blaen.

Drwy arsyllu ar bob un o’r naw tonfedd, gall Planck wahanu’r Cefndir Microdon Cosmig oddi wrth y golau a allyrrir gan yr Alaeth ar yr un tonfeddi. O ganlyniad, bydd Planck yn gwneud arsylliadau digynsail o’n Galaeth ni’n hunain, gan ganfod a nodweddu nwy a llwch. Mae cael mapiau ar bob un o’r naw tonfedd yn galluogi gwahaniaethu ffynonellau unigol golau microdon yn well nag erioed o’r blaen.

Dywedodd yr Athro Peter Ade, o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth a Gwyddonydd Offer HFI y DU: "Mae’r set fer hon o ddata eisoes wedi dangos mwy o fanylion mewn pythefnos na’r manylion a gawsom o bum mlynedd o ddata Chwiliedydd Anistropedd Microdon Wilkinson (WMAP) – mae Planck yn mynd i wneud darganfyddiadau rhyfeddol."

Bydd Planck yn gallu casglu data ar gyfer dau fap annibynnol llawn o’r awyr gyfan. I fanteisio i’r eithaf ar sensitifrwydd uchel Planck, bydd gofyn gwneud llawer iawn o addasiadau cynnil i’r data a’i ddadansoddi’n ofalus. Mae’n addo cynnwys trysorfa o ddata a fydd yn cadw cosmolegwyr ac astroffisegwyr yn brysur am ddegawdau i ddod.

Dywedodd yr Athro Keith Mason, Prif Weithredwr y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg, sy’n darparu cyllid y DU ar gyfer Planck, "Mae’n newyddion gwych bod Planck yn gweithredu mor effeithiol. Mae ymchwilwyr y DU wedi buddsoddi llawer iawn o amser a sgiliau yn y cyrch hwn, ac mae pob un ohonom yn awyddus i weld pa gyfrinachau fydd Planck yn eu datgelu."

Mae’r Grŵp Offeryniaeth Seryddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn chwarae rhan fawr yng nghyrch Planck, gyda chyllid gan y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC). Cyfrannodd gwyddonwyr Caerdydd, dan arweiniad yr Athro Peter Ade, at ddylunio’r offeryn HFI, a chydosod yr arwyneb ffocal cyn ei gyfannu â gweddill y lloeren. Mae ymdrechion cyfredol yn cynnwys gweithredu a chalibradu’r offeryn.

Tags