Skip to content
Skip to navigation menu

English

Canfod tarddiad ffrwydrol llwch cosmig

08 Ionawr 2008

Mae’r dystiolaeth derfynol cyntaf o lwch cosmig, sy’n bwysig mewn adeiladu planedau fel ein Ddaear a ni’n hunain yn y pen draw, wedi cael ei ganfod yng ngweddillion ffrwydrad seren enfawr 11,000 blwyddyn o oleuni i ffwrdd yn ein Galaeth ni’n hunain.

Mae llwch cosmig wedi cael ei wneud o ronynnau bychan o ddefnydd solet ac mae’n bresennol drwy’r cosmos i gyd. Mae’n helpu sêr sy’n datblygu i gynnau ac mae hefyd yn ffurfio'r mater sy’n gwneud y planedau a’r holl greaduriaid byw- ond mae yna ddadleuon wedi bod dros ble y ffurfir ef.

Mae gwyddonwyr wedi hir amau fod sêr sy’n ffrwydro, neu’r uwchnofâu, yn ffynhonnell bwysig o ran llwch cosmetig, ond nawr mae tîm rhyngwladol, gan gynnwys seryddwr o Brifysgol Caerdydd, wedi darparu tystiolaeth ddiamwys.

Chwaraeodd Dr Haley Gomez, o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth y Brifysgol, ran yn dadansoddi delweddau o weddillion Cassiopeia A (Cas A) yr uwchnofa, o delesgop Gofod Spritzer NASA. Byddai Cas A wedi bod 30 gwaith crynswth ein Haul ni, ond mi fyddai wedi cymryd 10 miliwn o flynyddoedd yn unig i gyrraedd y cyfnod ffrwydro, gan ddarparu ffynhonnell gyflym o lwch. Roedd Dr Gomez yn rhan o dîm o seryddwyr o’r DU a oedd, yn flaenorol, wedi bod yn chwilio am ronynnau llwch yn y gwrthrych enigmatig hwn. Yn y gwaith blaenorol hwn, er i lwch gael ei ganfod yn Cas A, roedd yn anodd iawn i nodi o ble yn union yr oedd yn dod- p’un ai yr oedd wedi cael ei wneud yn yr uwchnofa neu rhywle arall.

Gan ddefnyddio synwyryddion is-goch sensitif y Spritzer, mae’r tîm rhyngwladol, a oedd yn cael eu harwain gan Dr Jeonghee Rho o Ganolfan Gwyddonol Spritzer NASA, nawr wedi canfod digon o lwch cosmig yn Cas A i greu 10,000 o Ddaearau. Dadansoddwyd ei gyfansoddiad a chafwyd ei fod wedi cael ei wneud o broto-silicadau, silicon deuocsid, ocsid haearn, pyrocsen, carbon, ocsid alwminiwm a chyfansoddion eraill, oll wedi eu lleoli yn yr un lle â’r nwy uwchnofa. Dywedodd Dr Rho: "Nawr fe allwn ddweud yn ddiamwys fod llwch- a llawer ohono- wedi eu ffurfio yn chwŷd ffrwydrad y Cassiopeia A."

Fodd bynnag, nid yw’r chwilio am lwch cosmig yn gorffen y fan honno. Nid yw’r darganfyddiadau o delesgop Spritzer yn esbonio o ble daw’r holl lwch a welir yn y galaethau pell. Mae’r seryddwyr yng Nghaerdydd nawr yn gweithio ar gamerâu ar gyfer Telesgop Gofod Herschel newydd i’r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, sydd ar fin cael ei lansio eleni, a all ddarparu ateb terfynol.

Dywedodd Dr Gomez: "Ar hyn o bryd, mae rhywbeth yn eisiau. Mae’r llwch y mae Spitzer yn edrych arno yn eithaf twym- tua 100 gradd Kelvin. Credwn fod llwch oerach i mewn yno, nad yw Spitzer gallu ei weld- o amgylch tua 20 gradd Kelvin. Gobeithiwn y bydd Herschel yn ein galluogi ni i weld y llwch oerach. Gallai Hershel newid y ffordd yr ydym yn gweld y Bydysawd yn gyfan gwbl."

Mae’r adroddiad ar ddarganfyddiadau Telesgop Spitzer ar fin cael ei gyhoeddi yn rhifyn Ionawr 20 o’r Astophysical Journal. Dr Jeonghee Rho yw’r prif awdur ynghyd â Lawrence Rudnick o Brifysgol Minnesota. Mae’r cyd-awduron eraill yn cynnwys W.T. Reach o Ganolfan Wyddonol Spitzer; J.D. Smith o Arsyllfa Steward, Tucson, Arizona; T. Delaney o Sefydliad Technoleg Massachusetts, Caergrawnt; J. A. Ennis o Brifysgol Minnesota; A. Tappe o Ganolfan Wyddonol Spitzer a’r Ganolfan Harvard Smithsonion i Astroffisegwyr, Caergrawnt, Mass; a Takashi Kozasa, Prifysgol Hokkaido yn Siapan.

Mae’r astudiaeth flaenorol o Cassiopeia A wedi ei gyhoeddi yn Nature yn 2003. Arweiniwyd y tîm gan Dr Loretta Dunne, o Brifysgol Nottingham, a’r Athro Rob Ivison o’r ATC, Caeredin, yn ogystal â seryddwyr Caerdydd, yr Athro Stephen Eales a Mike Edmunds.