Skip to content
Skip to navigation menu

English

Arolwg allalaethol

09 Ebrill 2009

Mae tîm rhyngwladol o wyddonwyr gan gynnwys Prifysgol Caerdydd wedi rhyddhau’r delweddau lliw manwl cyntaf i ddangos bod hanner golau sêr y bydysawd yn dod o sêr ifainc mewn galaethau pell.

Treuliodd Ffisegwyr, gan gynnwys tîm a arweiniwyd gan Dr Enzo Pascale o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, ddwy flynedd yn dadansoddi data a gasglwyd gan ddefnyddio’r Telesgop Is-filimetr Agorfa Fawr a gludir gan Falwn (BLAST). Codwyd y telesgop wrth ei glymu i falwn heliwm stratosfferig yn 2006, 35km uwchben Antartica.

Yn yr 1990au hwyr, sylwyd fod rhai galaethau o’r enw Galaethau Isgoch Gor-oleuol yn ffurfio sêr ar gyflymder cannoedd o weithiau’n fwy na’u galaeth eu hunain. Ystyrid mai’r galaethau "starburst" hyn, 7-10 biliwn o flynyddoedd goleuni i ffwrdd, a oedd yn creu’r Cefndir Isgoch Pell, ymbelydredd sydd bron â bod yn unffurf ac sy’n tywynnu bob man yn y bydysawd. Ers mesur cychwynnol yr ymbelydredd cefndir, mae arbrofion wedi ceisio canfod y galaethau unigol sy’n rhan ohono.

Mae’r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn rhifyn diweddaraf Nature, wedi dod o hyd i alaethau a orchuddiwyd gan lwch sy’n cuddio tua hanner golau cosmig y sêr, ac yn ei hanfod yn ateb y cwestiwn sy’n ddegawd oed ynghylch tarddiad yr ymbelydredd. Mae’n cyfuno mesuriadau arolwg y telesgop a data o Delesgop Gofod Spitzer, ac yn cadarnhau bod yr holl Gefndir Isgoch Pell yn dod o alaethau llychlyd unigol.

Mae’r delweddau BLAST a rhyddhawyd yn dangos bydysawd ifanc, yn wahanol iawn i’r hyn ydyw heddiw, gyda galaethau ifainc yn bridio sêr ar gyflymder uchel iawn, ac yn cynhyrchu’r rhan fwyaf o’r masau serol a welir heddiw. Rhyddheir cymaint â 50 y cant o egni golau’r bydysawd fel golau isgoch o’r galaethau ifainc hyn sy’n ffurfio. Mewn gwirionedd, mae cymaint o egni yn y Cefndir Isgoch Pell ag y sydd yn yr holl olau gweledol a allyrrir gan sêr a galaethau yn y bydysawd.

"Mewn un hediad balwn 11 diwrnod, daeth BLAST o hyd i’r holl alaethau ‘starbust’ is-filimetr a ganfuwyd mewn degawd o arsylwi o’r ddaear", dywedodd Dr Enzo Pascale a fu’n arwain tîm Caerdydd. "Mae’r data cyfoethog a gasglwyd yn cael ei gloddio am ragor o wybodaeth am y galaethau a orchuddir gan lwch, er mwyn rhoi dealltwriaeth well o hanes eu hesblygiad, eu perthynas â galaethau eraill, a chysylltiadau â strwythurau mwy yn y bydysawd".

Mae BLAST yn offer y gellir ei ddefnyddio i benderfynu ar dymheredd a disgleirdeb galaethau pell a rhoi amcangyfrif o’r cyflymder y ffurfir sêr. Roedd ei daith ddramatig o’i hediad cyntaf yn yr Arctig i’r ail hediad yn Antartica yn destun ffilm ddogfen hir, "BLAST!" a ddangoswyd am y tro cyntaf yng Nghymru ym Mhrifysgol Caerdydd a fe’i dangoswyd hefyd ar BBC.

Fel rhan o gyfres o gydbapurau, mae’r cydweithrediad BLAST hefyd yn rhyddhau canlyniadau astudiaeth (a gyflwynwyd i’r Cylchgrawn Astroffisegol) o’r arolwg mwyaf erioed o gamau cynnar ffurfio seren. Dogfennwyd bodolaeth poblogaeth fawr o gymylau oer o nwy a llwch, sy’n bodoli am filiynau o flynyddoedd, ac sy’n ffurfio mannau geni sêr yn y pendraw.

Ceir delweddau, ffotograffau, mapiau awyr a’r astudiaeth gyfan ar wefan BLAST: http://www.blastexperiment.info.

Mae’r tîm BLAST, yn ogystal â Phrifysgol Caerdydd, yn cynnwys Prifysgol Brown, Prifysgolion Pennsylvania, Toronto, Puerto Rico, Miami, a British Columbia, the Jet Propulsion Laboratory, a Laboratoire APC ym Mharis.

Cefnogwyd yr ymchwil gan y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn y DU, ac roedd tîm Caerdydd yn cynnwys: Yr Athro Peter Ade, Yr Athro Matthew Griffin, Dr Peter Hargrave, Yr Athro Philip Mauskopf, Lorenzo Moncelsi, Dr Enzo Pascale a Dr Carole Tucker, pob un ohonynt yn aelodau o Grŵp Offeryniaeth Seryddiaeth y Brifysgol.

Tags