Skip to content
Skip to navigation menu

English

Safbwyntiau teuluoedd ar dawelyddu’n derfynol

15 Ionawr 2014

Healing hands_web

Ym marn teuluoedd rhai cleifion sydd ag anafiadau difrifol iawn i’r ymennydd, ar ôl rhoi cynnig ar bob triniaeth bosibl, byddai gadael i’w perthnasau farw gyda chymorth tawelyddu’n derfynol yn ddewis trugarog a thosturiol; dyma ddywed ymchwil a wnaed gan Brifysgol Caerefrog a Phrifysgol Caerdydd.

Darganfu’r astudiaeth, a seiliwyd ar gyfweliadau gyda theuluoedd cleifion mewn cyflwr diymateb neu gyflwr prin ymwybodol, fod rhai perthnasau o’r farn y byddai ewthanasia trwy dawelydd yn well nag atal neu roi’r gorau i driniaeth.

Ar hyn o bryd, rhoi’r gorau i driniaeth fel maeth a hydradu artiffisial yw’r unig ddull cyfreithlon sy’n sicr o ganiatáu marwolaeth ymhlith cleifion mewn cyflwr diymateb.

Mae’r papur ymchwil Withdrawing Artificial Nutrition and Hydration from Minimally Conscious and Vegetative Patients: Family Perspectives wedi’i gyhoeddi yn y Journal of Medical Ethics.

Cynhaliwyd yr astudiaeth gan yr Athro Celia Kitzinger o’r Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Caerefrog a’r Athro Jenny Kitzinger, o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd. Mae’r chwiorydd Celia Kitzinger a Jenny Kitzinger yn gyd-gyfarwyddwyr Canolfan Ymchwil Caerefrog-Caerdydd ar gyfer Anhwylderau Ymwybyddiaeth Cronig, sy’n archwilio heriau cymdeithasol a moesegol y cyflwr diymateb a phrin ymwybodol.

Cafodd Polly, chwaer yr ymchwilwyr, anaf difrifol i’r ymennydd mewn damwain car yn 2009.

Meddai Celia Kitzinger: "Ar hyn o bryd, mae’n gyfreithlon caniatáu i bobl farw drwy roi’r gorau i faeth a hydradu artiffisial, ond gall hynny olygu gwylio marwolaeth hir ac araf, ac mae meddwl am hynny’n ormod i lawer o berthnasau.

"Os bydd llys yn penderfynu caniatáu i rywun farw, beth sydd o’i le ar wneud hynny mewn ffordd lai hirfaith i’r claf, neu, os nad yw’r claf yn ymwybodol o gwbl, sydd o leiaf yn llai trallodus i’r teulu?  Rhaid bod ffordd fwy tosturiol o ganiatáu i bobl farw. Neges am dosturi a lleihau dioddefaint yw hon.

"Awgrymwn y dylai realiti sefyllfa’r teuluoedd sy’n wynebu’r penderfyniadau hyn gael ei ystyried ac y dylid rhoi ystyriaeth foesegol lawn i ffyrdd eraill o ganiatáu marwolaeth cleifion sydd ag anaf difrifol i’r ymennydd."

Yn ôl yr astudiaeth, er bod dwy ran o dair o’r 51 unigolyn a holwyd o’r farn y byddai’n well gan eu perthynas fod yn farw na byw mewn cyflwr diymateb neu brin ymwybodol yn hirdymor, roedd llai o lawer ohonynt yn barod i ystyried cais am roi’r gorau i ddarparu maeth a hydradu artiffisial er mwyn caniatáu marwolaeth.

Dywed Celia a Jenny Kitzinger y dylai barn perthnasau gael ystyriaeth foesegol mewn trafodaethau cyfreithiol a meddygol ynghylch opsiynau triniaeth.

Esboniodd Jenny Kitzinger: "Ar hyn o bryd, rhoi’r gorau i faeth a hydradu artiffisial yw’r unig derfyn sicr sydd ar gael yn gyfreithiol ar gyfer cleifion o’r fath sydd ag anafiadau difrifol i’r ymennydd.  Ond, mae methu â rhoi bwyd neu ddŵr i anwylyd, er gwaethaf yr argyhoeddiad y byddai’n well ganddynt gael yr hawl i farw, yn fater hynod emosiynol sydd ag arwyddocâd diwylliannol dwfn. Roedd llawer o’r rhai y gwnaethom gyfweld â hwy yn pryderu y byddai eu perthynas, hyd yn oed gyda diagnosis o gyflwr diymateb wedi’i gadarnhau, yn cael poen ac yn dioddef pe rhoddid y gorau i faeth a hydradiad neu y byddai’n drallodus i aelodau eraill y teulu wylio hyn.

"Roedd amgyffrediad helaeth y byddai pigiadau marwol yn fwy trugarog, tosturiol ac urddasol na’r hyn a oedd yn ymddangos iddynt yn ‘farwolaeth yn sgil esgeulustod’ o ganlyniad i roi’r gorau i driniaeth."

Dywedodd un wrth yr ymchwilwyr: "Yn fy marn i, byddai pigiad marwol yn benderfyniad mwy caredig, oherwydd os ydych chi’n rhoi’r gorau i’w bwydo, maen nhw’n mynd i farw. Os ydych chi wedi gwneud y penderfyniad hwnnw, man a man i chi wneud hynny mewn ffordd mor drugarog â phosibl. Rwy’n teimlo bod newynu rhywun i farwolaeth yn beth arbennig o greulon i’w wneud."

Dywedodd rhai o’r bobl a gafodd eu cyfweld eu bod wedi brwydro i gael ymyriadau meddygol yn gynnar yn ystod yr anaf neu’r trawma, yn y gobaith y byddai eu perthynas yn gwella. Erbyn hyn, roedd rhai’n difaru hynny, gan gredu bod y claf wedi dioddef tynged a oedd yn waeth na marwolaeth.

Yn hytrach na gofyn am roi’r gorau i faeth a hydradu artiffisial, dywedodd llawer eu bod yn aros am farwolaeth naturiol, gyda rhai ohonynt yn gweithio gyda meddygon ar gytundebau i beidio ag adfywio claf petai’n dioddef trawiad ar y galon neu beidio â defnyddio gwrthfiotigau i drin heintiau a oedd yn rhoi bywyd yn y fantol.

Dywedodd un o’r rhai a gafodd eu cyfweld: "Nid wyf yn teimlo mai fy lle i yw mynd i’r llys a dweud ‘Rwy eisiau i’r meddygon roi’r gorau i’w fwydo’. Nid wyf yn meddwl y gallwn i wneud hynny. Ond nid wyf o’r farn bod cymryd camau i ymestyn ei fywyd yn iawn nac yn deg. Mae’n debyg fy mod i’n aros [iddo] farw’n naturiol’."

Dolenni perthynol

Yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol

Prifysgol Caerefrog