Skip to content
Skip to navigation menu

English

Gŵyl Amrywiaeth

08 Chwefror 2012

Festival of Diversity webGŵyl Amrywiaeth y Llynedd

Chwedl Hang Tuah, yr arwr Malaysiaidd o’r 15fed Ganrif yw canolbwynt Gŵyl Amrywiaeth Myfyrwyr Malaysiaidd Caerdydd.

Mae Cymdeithas Myfyrwyr Malaysiaidd Prifysgol Caerdydd yn ymgymryd â’i chynhyrchiad mwyaf uchelgeisiol ac ysblennydd – perfformiad llwyfan a cherddorol yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.

Stori Hang Tuah yw Pahlawan the Musical: A Tale of a Malayan Warrior - sef stori am gariad, brawdoliaeth a theyrngarwch a ysbrydolodd pobl Malaysia am genedlaethau. Mae’r myfyrwyr wedi trawsnewid y stori yn ddrama gerddorol, yn cyfuno llwyfan a dawns. Dilynir y ddrama gan Dikir Barat, perfformiad cerddorol traddodiadol cyffrous yn cael ei berfformio gan ensemble o 45 o fyfyrwyr.

Dywedodd Hugo Tan Jian Hao, Llywydd y Gymdeithas Myfyrwyr Malaysiaidd: "Mae Gŵyl eleni ar raddfa fwy o lawer nag unrhyw beth rydym wedi’i wneud erioed o’r blaen. Ein bwriad yw dangos diwylliant amrywiol a lliwgar Malaysia, a’i chefndir ethnig, i gynulleidfa o bob cwr o’r byd."

Yr Ŵyl Amrywiaeth, sydd bellach yn ei 9fed blwyddyn, yw brand myfyrwyr Malaysiaidd Caerdydd eu hunain o Malaysian Night, a drefnir gan gymdeithasau Malaysiaidd ledled y DU. Mae digwyddiad Caerdydd wedi ennill gwobrau amrywiol dros y blynyddoedd, gan gynnwys Perfformiad Cerddorol Gorau Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn 2011.

Mae tocynnau ar gyfer Pahlawan ar werth yma. Mae’r rhaglun swyddogol ar gael i’w wylio yn y ddolen hon.

 

Tags