Skip to content
Skip to navigation menu

English

Y ddarlith gyntaf ym mhencadlys gwyddorau’r Almaen

30 Mai 2012

German Science HQ webCartref newydd Academi Gwyddorau’r Almaen Leopoldina yn Halle
Mae’r Athro Ole Petersen FRS, Cyfarwyddwr Ysgol y Biowyddorau, wedi traddodi Darlith Leopoldina yn agoriad pencadlys newydd Academi Gwyddorau Genedlaethol yr Almaen yn Halle yn yr Almaen

Mae Academi Gwyddorau hynaf y byd, sef Academi Gwyddorau Genedlaethol yr Almaen Leopoldina, newydd symud i mewn i’r adeilad newydd ysblennydd sy’n rhodd gan Lywodraeth Ffederal yr Almaen. Mae’r Leopoldina, a ffurfiwyd yn 1652, yn dathlu ei 360 mlwyddiant eleni. Cynhaliwyd y seremoni agoriadol ffurfiol - a fynychwyd gan y Gweinidog Ffederal dros Wyddoniaeth ac Addysg, Annette Schavan - ar ddiwedd yr wythnos diwethaf.

German Science HQ web 2Yr Athro Petersen a’r Athro Irene Schulz-Hofer o flaen Adeilad Leopoldina, Halle
Rhoddodd yr Athro Petersen, sy’n un o nifer fach o Gymrodyr y Gymdeithas Frenhinol sydd hefyd wedi’u hethol yn Aelod o’r Leopoldina, y brif ddarlith gyhoeddus - yn Almaeneg - y noson cyn y dathliadau agoriadol.

Gan siarad yn Neuadd Ŵyl yr Academi, eglurodd yr Athro Petersen ei ddarganfyddiadau o’r mecanweithiau sydd ar waith wrth i gam-drin alcohol ddinistrio’r pancreas.

Cafodd y ddarlith awr o hyd ym mhresenoldeb Llywydd Academi Leopoldina, yr Athro Jörg Hacker, ei chadeirio gan yr Athro Irene Schulz-Hofer. Cyflwynwyd yr Athro Petersen gan yr Athro Schulz-Hofer, Arweinydd Dosbarth Gwyddor Bywyd yr Academi, fel "un o ymchwilwyr mwyaf blaenllaw'r byd ym maes y pancreas".

Dywedodd yr Athro Petersen: "Roeddwn wir wrth fy modd - ac wedi fy anrhydeddu’n fawr – i gael y cyfle i roi darlith gyhoeddus fawr ar yr achlysur hanesyddol hwn. Ar ôl cynnal diddordeb cryf mewn Llenyddiaeth Almaeneg ers y ddwy flynedd a dreuliais mewn Gymnasiwm yn yr Almaen yn y 1950au hwyr, roedd yn bleser arbennig i draddodi’r ddarlith yn Almaeneg er mwyn ei gwneud yn hygyrch i gynulleidfa gyffredinol fawr."

Dolenni cysylltiedig:

Ysgol y Biowyddorau

 

Newyddion Diweddaraf Staff News