Skip to content
Skip to navigation menu

English

Y Prif Weinidog yn lansio Canolfan PET

18 Chwefror 2011

Y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn siarad â Janet Pugh am ei sganY Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn siarad â Janet Pugh am ei sgan

Mae Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, wedi lansio’n swyddogol y Ganolfan Ddelweddu newydd ar gyfer Tomograffeg Allyriad Positron (PET).

Mae’r Ganolfan yn cynnig i gleifion yng Nghymru ac ymchwilwyr yn y Brifysgol gyfleuster sganio sy’n gallu dilyn canserau a meinweoedd eraill â manylder anhygoel, sy’n golygu y gallai clefydau gael eu canfod yn gynharach.

Yn ystod y lansiad, dywedodd y Prif Weinidog fod y Ganolfan yn cynnig diagnosis cynharach a gwell i gleifion am eu cyflwr, ynghyd â chaniatáu i ymchwilwyr weithio ar driniaethau newydd. Ychwanegodd fod y Ganolfan hefyd yn chwarae rhan mewn datblygu economaidd ac yn cynnig y math o gyflogaeth â sgiliau-uchel y mae Llywodraeth y Cynulliad yn awyddus ei chymell yng Nghymru

Mae’r sganiwr PET, a gostiodd £1.8M wedi’i leoli mewn adeilad a godwyd yn arbennig yn y Ganolfan ac sy’n cael ei redeg gan y Brifysgol ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Adeiladwyd y sganiwr gan gwmni technoleg rhyngwladol GE, ac mae’n un o’r rhai gorau o’i fath yn y DG. Bu’n gweithio ers mis Medi - eisoes er budd i tua 500 o gleifion a fyddai fel arall wedi gorfod teithio i Loegr.

PET Scanner group shotYn y lansiad ffurfiol mae Paul Williams, Prif Weithredwr GIG Cymru; Yr Athro Paul Morgan, Deon, Ysgol Feddygaeth Caerdydd; Dr John Rees, Cyfarwyddwr Clinigol PETIC; Jan Williams, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro; Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones; Dr David Grant, Is-ganghellor, Prifysgol Caerdydd

Yn y lansiad heddiw, gwelodd y Prif Weinidog y dechnoleg sganio sy’n gallu canfod tiwmorau pan nad ydynt ond ychydig filimetrau mewn maint. Mae hefyd yn dangos pa mor weithredol yw’r tiwmorau a sut mae cleifion yn ymateb i therapi. Mae hyn yn caniatáu meddygon i benderfynu ynglŷn â’r driniaeth fwyaf priodol a chael gwybodaeth gynnar i’w helpu i newid i therapi gwahanol os oes angen. Bu hefyd yn sgwrsio ag un o’r cleifion a oedd yn cael sgan, sef Janet Pugh o Dywyn.

Yn ogystal, dangoswyd seiclotron y Ganolfan i'r Prif Weinidog. Costiodd hwn filiwn o bunnau a chaiff ei ddefnyddio i greu’r cyffuriau olrhain a ddefnyddir yn y broses PET. Bydd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Prifysgol Caerdydd, ar y cyd â grwpiau ymchwil ar draws Cymru, y DG a thu hwnt, yn gweithio ar ddatblygiadau newydd ynglŷn â chyffuriau olrhain, triniaethau a chynllunio triniaethau yn labordai ymchwil a chanolfan gynhyrchu arloesol y Ganolfan.

Cafodd y Ganolfan, a gostiodd £16.5M, ei hariannu ar y cyd gan Adrannau Iechyd ac Economeg a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Hefyd yn bresennol yn y lansiad, roedd Paul Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol GIG Cymru a Jan Williams, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ynghyd ag uwch gynrychiolwyr o Lywodraeth y Cynulliad, y GIG a llawer o’r cwmnïau a fu’n ymwneud â’r prosiect.

Dywedodd y Prif Weinidog: "Mae’ sganiwr PET newydd yn un o’r rhai gorau o’i fath yn y DG. Mae cleifion yng Nghymru eisoes yn elwa’n uniongyrchol ar dechnoleg sy’n caniatáu gweld canserau yn gynnar ac yn fanylach o lawer. Yn ogystal, mae’r Ganolfan yn gyfleuster ymchwil lle bydd technegau sganio a therapi newydd yn cael eu datblygu ar y cyd â phartneriaid meddygaeth ryngwladol pwysig. Mae’r Ganolfan yn enghraifft ragorol o Lywodraeth y Cynulliad, Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn gwneud Cymru’n arweinydd byd-eang o ran ansawdd ei gofal iechyd."

Dywedodd Deon Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, yr Athro Paul Morgan: "Rydym ni a’n partneriaid yn y GIG yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth y Cynulliad am ariannu’r datblygiad newydd hollbwysig hwn. Bydd y Ganolfan yn cael ei defnyddio ar gyfer gwasanaethau sganio blaengar i gleifion yn ogystal ag ar gyfer ymchwil clinigol arloesol. Gall technoleg PET ddangos patholeg nad oes modd ei gweld trwy ddulliau eraill ac mae’n caniatáu targedu therapi a gwella dealltwriaeth o sut mae cyffuriau’n gweithio. Bydd Fferyllwyr a Ffisegwyr yn defnyddio’r Ganolfan i brofi cyfryngau newydd a all ddarparu sganio gwell byth i gleifion a gwelliannau i effeithiolrwydd radiotherapi. Bydd gwyddonwyr meddygol a biolegol yn defnyddio PET i ddeall clefydau’n well a phrofi therapïau newydd i gleifion â gwahanol glefydau, gan gynnwys canser, clefydau’r galon a dementia."

Y Prif Weinidog yn gwylio sganio o ystafell reoli PETICY Prif Weinidog yn gwylio sganio o ystafell reoli PETIC

Dywedodd yr Athro Steve Tomlinson, Cyn-brofost Prifysgol Caerdydd ac un o’r rhai a fu’n bennaf gyfrifol am greu PETIC: "Mewn Datganiad Safbwynt yn 2002, pan oeddwn yn Is-ganghellor Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru, ysgrifennais: 'Mae yna gryfderau sylweddol yng Nghymru yn y Gwyddorau biofeddygol ac Iechyd, ac mae llawer ohonynt ag agen y cyfleusterau delweddu diweddaraf er mwyn bod yn gystadleuol yn rhyngwladol.'


"Roedd Cymru bryd hynny’n llusgo’i thraed a hi oedd yr unig wlad neu ranbarth heb ei sganiwr PET ei hun. Mae’n dda gen i ddweud ein bod erbyn hyn, gyda PETIC ynghyd â Chanolfan Delweddu ac Atgyweirio'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd ac EMRIC, ar y blaen nid yn unig gyda sganio PET ond hefyd yn y gwyddorau delweddu yn gyffredinol. Mae’n hanfodol ein bod yn cydweithio yng Nghymru, y DG ac yn rhyngwladol er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r cyfarpar hwn a sgiliau ein staff er mwyn cynhyrchu ymchwil o safon fyd-eang a rhoi Cymru yn haeddiannol ar y blaen yn y gwyddorau biofeddygol ac iechyd er budd ein cleifion."

Dywedodd Kesh Baboolal, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Aciwt yr Ysbyty Athrofaol: "Rwy’n falch dros ben fod y Prif Weinidog wedi gallu gweld yn y fan a’r lle y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud gan y tîm yma yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae’r sganiwr PET yn enghraifft wych o sut mae cydweithio rhwng y Bwrdd Iechyd a’r Brifysgol, â chymorth ariannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ofal cleifion yma yng Nghymru.

"Er mwyn cael mynediad i ddiagnosteg uwch-dechnoleg o’r fath, arferai cleifion orfod teithio i Loegr. Bydd y sganiwr yn caniatáu i ni deilwra triniaethau yn unol â gofynion y cleifion yma yng Nghaerdydd trwy roi gwybodaeth gywirach o lawer i ni ynglŷn ag amrediad eang o gyflyrau a chlefydau fel canser. Bydd hyn yn ei dro yn gwneud ein gofal yn fwy effeithlon, yn gwella profiad y claf ac yn helpu i arbed bywydau pobl nid yn unig o Gaerdydd a Bro Morgannwg ond o bob cwr o Gymru."

Newyddion Cysylltiedig

Tags