Skip to content
Skip to navigation menu

English

Cyfnodolyn blaengar yn cwrdd yng Nghaerdydd

13 Gorffennaf 2011

Physiological Society

Ymgasglodd awdurdodau rhyngwladol o bob cangen o wyddoniaeth ffisioleg yng Nghaerdydd ar gyfer Pwyllgor Golygyddol Ewropeaidd blynyddol Physiological Reviews.

Y cyhoeddiad hwn yw’r cyfnodolyn Ffisioleg uchaf ei barch yn y byd ar gyfer ffactor effaith, a’r 23ain uchaf o bob cyfnodolyn gwyddonol. Mae ganddo ddau Bwyllgor Golygyddol cyfochrog, gyda’r Bwrdd Ewropeaidd dan gadeiryddiaeth yr Athro Ole Petersen, Cyfarwyddwr yr Ysgol Biowyddorau.

Mae’r cyfnodolyn yn cyhoeddi erthyglau adolygu o ddiddordeb eang ar bob agwedd ar iechyd dynol. Cyfarfu’r Pwyllgor Ewropeaidd yng Nghaerdydd i benderfynu pa faterion cyfredol y dylai’r cyfnodolyn ymdrin â nhw yn ystod y flwyddyn i ddod, a phwy ddylai gael eu comisiynu i ysgrifennu’r erthyglau.

Mynychwyd y cyfarfod hefyd gan yr Athro Dennis Brown o Ysgol Feddygaeth Harvard, Prif Olygydd y cyfnodolyn a Chadeirydd Pwyllgor Golygyddol UDA, sydd hefyd ar gyfer De America, Japan, Tsieina ac Awstralia. Mae Pwyllgor Ewropeaidd yr Athro Petersen hefyd ar gyfer y Dwyrain Canol, India ac Affrica. Bydd yntau’n cymryd rhan yng nghyfarfod bwrdd UDA, er mwyn helpu i sicrhau cydlynu esmwyth rhwng y ddau.

Dywedodd yr Athro Brown: "Mae’r erthyglau a gyhoeddwn yn adolygiadau mawr, cynhwysfawr ac awdurdodol ar le mae pethau arni mewn maes arbennig. Rydym yn ymdrin â ffisioleg yn ei chyfanrwydd, popeth o astudiaethau ymddygiad at sail foleciwlaidd afiechyd. Mae gennym gynulleidfa eang dros ben hefyd, o wyddonwyr wedi’u sefydlu eu hunain at fyfyrwyr ysgolion uwchradd. Gan gofio hynny, byddwn bob amser yn gofyn i’r bobl sy’n ysgrifennu adolygiadau drafod sut mae a wnelo’r wyddoniaeth ag iechyd dynol, pam ei bod hi’n bwysig."

Dywedodd yr Athro Petersen: "Mae’n rhaid i’r cyfnodolyn apelio at ffisiolegwyr, niwrowyddonwyr, biolegwyr celloedd, bioffisegwyr a chlinigwyr sydd â diddordeb arbennig mewn pathoffisioleg. O ganlyniad, mae’r pwyllgor yn cynnwys dewis eang o arbenigwyr gwyddonol blaenllaw, a bydd gan bob un ohonynt bump neu chwech o gynigion am faterion y gallwn ysgrifennu amdanynt. Cawsom gyfarfod buddiol dros ben, a dylai hynny arwain at gyfres o erthyglau diddorol iawn i’r cyfnodolyn yn ystod y flwyddyn nesaf."

Pennawd: Pwyllgor Golygyddol Ewropeaidd Physiological Reviews. Yr Athro Brown yw’r cyntaf ar y chwith yn y rhes gefn a’r Athro Petersen yw’r trydydd ar y chwith.

Dolenni cysylltiedig:

Tags

Newyddion Diweddaraf On Campus