Skip to content
Skip to navigation menu

English

Anifeiliaid y Dyfodol

05 Rhagfyr 2009

Glasbrint ar gyfer crwban cyflym - dim ond un o’r dyluniadau posibl ar gyfer anifeiliaid y dyfodolGlasbrint ar gyfer crwban cyflym - dim ond un o’r dyluniadau posibl ar gyfer anifeiliaid y dyfodol

Sut bydd anifeiliaid anwes ac anifeiliaid fferm yn edrych mewn 1,000 o flynyddoedd? Dyna’r her sy’n wynebu grŵp o bobl ifanc fydd yn dylunio anifeiliaid y dyfodol yn rhan o brosiect dan arweiniad y Brifysgol.

Bydd oddeutu 30 o bobl ifanc rhwng 14 a 19 oed o dde Cymru yn cael eu hannog i astudio syniadau mwyaf chwyldroadol Charles Darwin a’u rhoi ar waith, ochr yn ochr â’u syniadau hwy, i greu anifeiliaid y mileniwm nesaf yn rhan o Anifeiliaid y Dyfodol: ffrindiau neu fwyd?

Mae’r prosiect yn fenter rhwng Ysgol Hanes ac Archeoleg ac Ysgol Biowyddorau’r Brifysgol ar y cyd â phartneriaid allanol Amgueddfa Cymru, Techniquest, a’r artist arobryn Paul Evans.

Mewn cyfres o weithdai yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, bydd y bobl ifanc yn dysgu am waith Darwin ac yn trafod sut mae pobl wedi newid anifeiliaid gan fynd i’r afael â materion moesol sy’n ymwneud â magu detholus.

Yn seiliedig ar eu hymchwiliadau esblygiadol, bydd y grŵp yn creu eu dyluniadau eu hunain o anifeiliaid y dyfodol gyda chymorth archaeolegwyr a gwyddonwyr y Brifysgol a Paul Evans. Bydd yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd yn arddangos eu gwaith rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2010.

Dr Jacqui Mulville, o’r Ysgol Hanes ac Archeoleg sy’n arwain y prosiect: "Mae Anifeiliaid y Dyfodol: ffrindiau neu fwyd? yn cyflwyno cipolwg ar ac archwiliad o faes dethol artiffisial i bobl ifanc - sef elfen allweddol yn ymchwil Charles Darwin am darddiad rhywogaethau yn ôl dethol naturiol," meddai Dr Mulville.

"Yn ogystal â chynnig heriau a phrofiadau creadigol ac ymarferol, mae’r prosiect yn gyfle i gael trafodaeth foesegol am ein perthynas gydag anifeiliaid - yn y gorffennol, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Er enghraifft, a yw’n foesol i ni newid edrychiad ac ymddygiad anifeiliaid er mwyn i ni fwyta’n dda neu gael cwmpeini del ac annwyl?"

Yn ogystal â dylunio a thynnu lluniau o anifeiliaid y dyfodol, mae’r prosiect yn rhoi’r cyfle i’r disgyblion gymryd rhan uniongyrchol yn y broses o gynnal arddangosfa yn yr amgueddfa. Bydd yr artist Paul Evans wrth law yn y gweithdai i gynorthwyo’r grŵp gyda’u dyluniadau, a bydd hefyd yn gweithio gyda swyddog dysgu’r amgueddfa a’r bobl ifanc i drefnu’r arddangosfa. "Rwyf wedi bod â diddordeb mewn bioleg ar hyd fy oes ac mae wedi bod yn bwnc yn fy lluniau yn ddiweddar. Mae Anifeiliaid y Dyfodol yn estyniad naturiol o’r gwaith rwyf wedi bod yn ei wneud ac mae’n ffordd wych o astudio perthynas pobl ag anifeiliaid" meddai Paul.

"Mae’r prosiect hwn a’r cyfle i weithio gyda Jacqui ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn fy nghyffroi yn fawr ac rwyf yn edrych ymlaen at ysgogi’r bobl ifanc a’u cynorthwyo gyda’u lluniau."

Mae Goleufa Cymru yn cefnogi prosiect Anifeiliaid y Dyfodol yn ariannol. Cynhelir y gweithdai yn ystod mis Rhagfyr a bydd yr arddangosfa yn agor ym mis Chwefror 2010.

Tags