Skip to content
Skip to navigation menu

English

Dyfodol Gwyddoniaeth yng Nghymru

04 Chwefror 2011

Yr Athro John HarriesDyfodol gwyddoniaeth yng Nghymru - Yr Athro John Harries gyda’r Athro Ole Petersen, Pennaeth yr Ysgol Biowyddorau, ac aelod o Gyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru; yr Athro Julie Williams, Athro Meddygaeth Seicolegol yn yr Ysgol Feddygaeth, a’r Athro Paul B Morgan, Deon yr Ysgol Feddygaeth.

Rhagor o gydweithio, denu adnoddau newydd i Gymru, ac ymffrostio am lwyddiannau gwyddonol Cymru. Dyna oedd rhai o’r negesau a gafwyd gan Brif Gynghorydd Gwyddonol Cymru yn ystod darlith gyhoeddus yn y Brifysgol ynglŷn â dyfodol gwyddoniaeth yng Nghymru.

Ar ôl dim ond naw mis yn y swydd, mae’r Cynghorydd i Lywodraeth Cynulliad Cymru, yr Athro John Harries, wedi datgan ei obeithion a dyheadau ar gyfer dyfodol gwyddoniaeth yng Nghymru i gynulleidfa o academyddion, myfyrwyr ac aelodau o’r cyhoedd.

Disgrifiodd yr Athro Harries, sydd hefyd yn Athro Arsylwi’r Ddaear yng Ngholeg Imperial, Llundain, ei fod, ar ôl ymgymryd â’r swydd, wedi gweld sawl maes o ragoriaeth a chryfder mewn gwyddoniaeth a pheirianneg ar draws Cymru – gan gynnwys ambell un sy’n wirioneddol "o safon fyd-eang". Dywedodd hefyd fod yr holl frwdfrydedd, syniadau a mentrau ar draws Cymru wedi gwneud argraff arno, a’i fod yn siŵr fod gan y wlad seiliau da ar gyfer datblygu gwyddoniaeth a thechnoleg.

Ychwanegodd y byddai’r maes hwn yn hollbwysig wrth ddatblygu ac adeiladu ymchwil a datblygu, yr economi a ffyniant Cymru yn y dyfodol. Roedd yn cynnal Rhaglen Adnewyddu'r Economi Cynulliad Cymru ac yn cyffwrdd â swyddogaeth Cyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru.

Yr Athro John Harries yn datgelu’r heriau mawr sy’n wynebu gwyddoniaeth yng Nghymru.Yr Athro John Harries yn datgelu’r heriau mawr sy’n wynebu gwyddoniaeth yng Nghymru

Bu’n sôn hefyd sut mae’r Cyngor eisoes wedi dechrau ar y dasg o adnabod ‘heriau mawr’ gwyddoniaeth Cymru a fyddai’n helpu i feithrin y cryfderau sy’n bodoli ym meysydd iechyd a gwyddorau bywyd, yr amgylchedd a charbon isel, peirianneg uwch a defnyddiau.

Fodd bynnag, roedd am gydnabod y byddai sawl her yn y dyfodol. Wrth ofyn cwestiynau i’r gynulleidfa, esboniodd fod rhaid darganfod ffyrdd o godi safonau Y&D mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg; sut i wella gweithgareddau allgymorth addysgol er mwyn cymell rhagor o bobl o bob oed i gysylltu â gwyddoniaeth a pheirianneg; a chael hyd i ffyrdd newydd o gydweithio’n well yng Nghymru a thu hwnt.

Cyn dechrau ar sesiwn fywiog o holi ac ateb, esboniodd yr Athro Harries yr hyn a gredai fod ei angen er mwyn i Gymru fod yn sector o safon fyd-eang mewn gwyddoniaeth a pheirianneg. Roedd angen canolbwyntio adnoddau cyfyngedig ac ymdrechion ar feysydd wedi’u dewis yn ofalus. Credai hefyd taw’r ffordd ymlaen oedd cysylltu gwyddoniaeth ragorol o safon fyd-eang ag arloesedd a menter a datblygu rhagoriaeth ym mhob un o'r tair agwedd mewn ffordd a fyddai’n cynorthwyo adfywiad economaidd yng Nghymru.

Roedd ffactorau llwyddiant allweddol eraill yn cynnwys y gallu i gymell cydweithio a chysylltau yng Nghymru, y DG, ac Ewrop; dod ag adnoddau newydd a fyddai’n ehangu’r economi gwybodaeth i Gymru o’r DG, Ewrop a thu hwnt ; darganfod rhagor o ffyrdd i godi proffil gwyddoniaeth a pheirianneg a chymell gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg ymhlith pobl ifanc; a gwneud y cyhoedd yn fwy hyderus mewn gwyddoniaeth a pheirianneg.

Cefnogwyd y ddarlith, Dyfodol Gwyddoniaeth yng Nghymru, gan Brifysgol Caerdydd a changen De Cymru o Gymdeithas Wyddonol Prydain, gyda chymorth Tîm Ymgysylltu â'r Gymuned y Brifysgol.

Ym mis Tachwedd 2010, penodwyd pedwar academydd o’r Brifysgol i gorff newydd, sef y Cyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru. Mae’r Cyngor yn grŵp annibynnol sy’n cynghori Llywodraeth y Cynulliad trwy’r Prif Gynghorydd Gwyddonol ar yr holl ystod o faterion yn ymwneud â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Bydd hefyd yn ystyried sut caiff gwyddoniaeth ei defnyddio i helpu cynnydd economaidd a chymdeithasol Cymru.

Tags